Problem_solving |
Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at gyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
|
Research skills |
Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol.
Bydd arholiad terfynol yn asesu gallu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun a bod ei dd/dealltwriaeth o gysyniadau allweddol o safon ddigonol i fynd ymlaen at waith lefel anrhydedd.
|
Communication |
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar a'u trosglwyddo'n glir a threfnus yn ysgrifenedig. Byddant hefyd yn dysgu sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a gwaith tîm fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
|
Improving own Learning and Performance |
Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd a'u pynciau cyflwyno. Rhaid iddynt gyfrannu at drafodaethau seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser a'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau. |
Team work |
Ni fydd gwaith tîm yn rhan ganolog o'r modiwl hwn. Ond bydd yn rhaid i fyfyrwyr ddysgu sut i gydweithio a chyfathrebu'n effeithiol o fewn cyd-destun grwp yn ystod seminarau. |
Information Technology |
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC). |
Application of Number |
Yn ystod y modiwl, disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ychydig o gasglu data, dadansoddi rhifyddol a dehongli cysyniadau allweddol penodol. |
Personal Development and Career planning |
Mae'r modiwl yn cynnwys seminarau penodol ar sgiliau astudio allweddol yn ogystal â sesiynau ar Gynlluniau Datblygiad Personol. Bydd trafodaethau mewn seminarau yn benodol yn help i ddatblygu sgiliau llafar myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. |