Cod y Modiwl | GW30040 | ||
Teitl y Modiwl | DULLIAU YMCHWIL + TRAETHAWD ESTYNEDIG | ||
Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Marie Breen Smyth | ||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 4 | |
Seminarau / Tiwtorialau | Semester 1: rhaid i fyfyrwyr weld eu cynghorwyr traethawd hir yn ystod eu horiau swyddfa neu gysylltu a hwy trwy e-bost er mwyn penderfynu ar y pwnc a thrafod y cynllun |
1. Adnabod ac arddangos gwybodaeth o nifer o ddulliau a thechnegau ymchwil perthnasol wrth drefnu eu hymchwil.
2. Dangos sgiliau cyfeirio a llyfryddiaeth.
3. Llunio cwestiwn ymchwil addas ar gyfer ymholiad ymchwil annibynnol
4. Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ysgolheictod yn y maes a ddewiswyd
5. Strwythuro dadl mewn dull cydlynol ac argyhoeddiadol yn dangos ystod eang o wybodaeth gywir a dealltwriaeth o faterion allweddol
6. Ysgrifennu traethawd hir yn unol a'r anghenion o ran cynnwys a ffurf.
Problem_solving | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith traethawd hir annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. | ||
Research skills | Bydd cyflwyno dau waith ysgrifenedig (cynllun ymchwil a llyfryddiaeth a thraethawd hir) yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. | ||
Communication | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r sgiliau hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf addas o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol ac yn gadarn yngl'n a nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Anogir myfyrwyr i gwestiynu'r gwaith ysgolheigaidd sydd yn bodoli ym maes penodol yr ymchwil ac i asesu unrhyw 'fylchau' yn y maes a sut y gellid llanw'r 'bylchau' hyn. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol. | ||
Improving own Learning and Performance | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun adborth gan y cynghorydd penodol neu waith cwrs cynnar er mwyn gwella a ffocysu'r gwaith. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith ysgrifenedig. Bydd yr angen i gyflwyno dau ddarn o waith asesedig ar amser yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli amser a'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau. | ||
Team work | Bydd y Ffair Traethawd Hir (Semester 1) a'r Fforwm (Semester 2) yn cynnwys trafodaeth mewn gr'p bychan lle bydd rhaid i fyfyrwyr, o dan arweiniad eu cynghorwyr, drafod fel gr'p y materion creiddiol sy'n gysylltiedig a maes yr astudiaeth a derbyn gwerthusiad gan gyd-fyfyrwyr a staff. Bydd y trafodaethau gr'p yma'n rhan hollbwysig o'r modiwl. | ||
Information Technology | Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC). | ||
Application of Number | Ddim yn berthnasol | ||
Personal Development and Career planning | Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio a chwblhau gwaith ymchwil, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. | ||
Subject Specific Skills | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau o'r modiwlau a astudiwyd eisoes, yn ogystal a datblygu gwell dealltwriaeth o'r pwnc dan sylw. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r cwestiwn ymchwil dan sylw - Y gallu i feirniadu a gwerthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth - Llunio dealltwriaeth a gwerthfawrogiad personol o'r pwnc dan sylw. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC