Cod y Modiwl GW30320  
Teitl y Modiwl RHYFEL, GWLEIDYDDIAETH A STRATEGAETH  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Graeme A M Davies  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   13 Hours. (13 x 1 awr) (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Hours. Seminarau. (5 x 2 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr 1 x 2,000 o eiriau (heb ei asesu)  100%
Arholiad Ailsefyll Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl dylai myfyrwyr fedru:

- Cloriannu'n feirniadol y llenyddiaeth ar achosion rhyfel
- Trafod amrediad o gysyniadau allweddol a digwyddiadau hanesyddol a chyfoes mewn perthynas ag esblygiad rhyfel
- Deall rol cyfyngiadau cyfreithiol a moesol ar ryfel
- Cloriannu'r damcaniaethau croes ynghylch a ellir rheoli neu ddileu grym yn offeryn mewn cysylltiadau rhwng gwladwriaethau.


Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig sylfaen ddadansoddol i astudio rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cynnig sylfaen gynhwysfawr (cysyniadau, damcaniaethau, hanes) i ddeall ac esbonio materion pwysicaf rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth yn y byd cyfoes.

Cynnwys

Pedair rhan sydd i'r modiwl:
(1) achosion rhyfel;
(2) esblygiad rhyfel;
(3) cyfyngiadau cyfreithiol a moesol ar ryfel;   
(4) rheoli a dileu rhyfel.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, dirnad a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Trwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a sgiliau sylfaenol wrth drin rhifau a hunanreolaeth Yn ystod y darlithiau bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando a llunio nodiadau, yn ogystal a'u sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau dadansoddi, esbonio a dadlau, yn ogystal a gwaith tim a datrys problemau. Wrth ysgrifennu traethodau bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ymarfer eu sgiliau ymchwil annibynnol, eu sgiliau ysgrifennu a sgiliau TG, a bydd yr arholiad yn rhoi prawf ar y sgiliau hyn dan gyfyngiadau amser.

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
George a Lopez and Nancy J Myers (eds) Peace and Security: The Next Generation
Seyom Brown The Causes and Prevention of War (2nd Edition)

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC