Cod y Modiwl |
GW32920 |
Teitl y Modiwl |
DOSBARTH,CYMUNED A CHENEDL:SYNIADAETH WLEIDYDDOL GYMREIG |
Blwyddyn Academaidd |
2006/2007 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Richard W Jones |
Semester |
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod |
Blwyddyn nesaf y cynigir |
N/A |
Semester nesaf y cynigir |
N/A |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 14 Hours. (14 x 1 awr) |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 Hours. Seminarau (5 x 2 awr) |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Semester | Traethodau: 1 x 3,000 o eiriau | 50% |
Arholiad Ailsefyll | Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. | |
|
Canlyniadau dysgu
Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:
- deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion syniadaethol y traddodiadau Rhyddfrydol, Sosialaidd a Chenedlaetholgar yng Nghymru;
- gwerthuso'r modd y mae'r traddodiadau hyn wedi ymdrin a'r cysyniadau gwleidyddol allweddol dosbarth, cymuned a chenedl;
- ystyried yn ddeallus y graddau a ellir honni bod yna ffurf o feddwl gwleidyddol sydd yn nodweddiadol Gymreig.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw hybu dealltwriaeth feirniadol o brif elfennau syniadaethol y gwahanol dradoddiadau gwleidyddol a geir yn y Gymru gyfoes.
Nod
Nod y modiwl yw datblygu'r gallu i drafod, deall a dadansoddi'r canlynol:
- prif nodweddion syniadaethol y prif draddodiadau gwleidyddol yng Nghymru, hynny yw, Rhyddfrydiaeth, Sosialaeth a Chenedlaetholdeb;
- y modd y mae'r traddodiadau hyn wedi ymdrin a'r cysyniadau gwleidyddol alweddol dosbarth, cymuned a chenedl;
- y graddau a ellir honni bod yna ffurf o feddwl gwleidyddol sydd yn nodweddiadol Gymreig.
Cynnwys
Bwriad y cwrs yw cyflwyno y prif ffrydiau deallusol sydd wedi sbarduno gweithgaredd gwleidyddol yn y Gymru gyfoes. Yn y darlithoedd cyflwynir gorolwg o'r traddodiad Rhyddfrydol, y traddodiad Sosialaidd a'r traddodiad Cenedlaethol gan drafod eu prif nodweddion syniadaethol a'u gosod yn eu cyd-destun cymdeithasol ehangach. Drwy'r cyfan rhoddir ystyriaeth arbennig i'r modd y mae'r traddodiadau yma wedi ymdrin a thri chysyniad gwleidyddol holl bwysig: dosbarth, cymuned a chenedl. Y mae'r seminarau wedi eu trefnu o amgylch astudiaeth o destunau arbennig, boed areithiau neu bamffledi, sy'n crynhoi corff o syniadau, neu a oedd eu hunain yn sbardun i weithgaredd gwleidyddol.
Sgiliau trosglwyddadwy
Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, ac i ddeall arwyddocad rhifau syml. Yn y darlithoedd ceir cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando a dadansoddi yn ogystal a ysgrifennu nodiadau. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.
10 credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
D Hywel Davies The Welsh Nationalist Party 1925-1945
K O Morgan Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC