Cod y Modiwl GW33820  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH EWROPEAIDD  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Anwen M Elias  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Anwen M Elias  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Hours. (10 x 1 awr) (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Hours. (10 x 1 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Traethodau: 1 x 2000 o eiriau  30%
Arholiad Ailsefyll Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl, disgwylir y bydd y myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth o'r canlynol:

- Ymwybyddiaeth fanwl a beirniadol o wleidyddiaeth a pholisïau cyfoes yr UE a phwysigrwydd yr Undeb i wladwriaethau Ewrop
- Adnabod a defnyddio syniadau a damcaniaethau perthnasol i'w galluogi i ddadansoddi¿n feirniadol gymhlethdodau integreiddio Ewropeaidd
- Adnabod y prif ddadleuon a'r materion sy'n gysylltiedig a'r defnydd o rym ac awdurdod oddi mewn a rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth yn Ewrop.
- Dangos, drwy waith ysgrifenedig a thrafodaethau seminar, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r polisiau a'r diddordebau gwahanol ar lefelau gwladwriaethol ac Ewropeaidd.
- Defnyddio'r sgiliau hyn yn effeithiol: adnabod a dod o hyd i ffynonellau perthnasol; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG a rheoli-amser.

Cynnwys

Gosod y cyd-destun
1. Cyflwyniad i'r Modiwl: Yr Etifeddiaeth Hanesyddol
2. Damcaniaethau Integreiddio Ewropeaidd
3. Damcaniaethau ar Lywodraethu yn yr UE

Llywodraethu Ewrop
4. Y Cynghorau
5. Y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraethiant Gweithredol
6. Cyfraith yr UE a'r Llysoedd
7. Y Senedd Ewropeaidd
8. Diwygio'r UE: Cyfansoddiad i Ewrop?
9. Dilysrwydd a Democratiaeth ¿ Ewrop y Dinesydd?

Polisiau'r Undeb Ewropeaidd
10. Undeb Ariannol ac Economaidd
11. Ewrop y Rhanbarthau?
12. Ehangu'r UE
13. Ewrop a'r byd: Polisi Tramor Ewropeaidd
14. Adeiladu Polisi Diogelwch ac Amddiffyn
15. Diogelwch Mewnol: Ymfudiad, Heddlua a Therfysgaeth

16. Casgliadau

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cynnig sail ar gyfer dealltwriaeth a dadansoddiad hollgynhwysfawr o'r syniadau a'r deinamig sy'n gysylltiedig a'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'n astudio'r prif sefydliadau a'r actorion gwladwriaethol yn y broses o integreiddio Ewropeaidd a'r polisiau a'r materion sy'n ganolog i ddyfodol Ewrop.

Bwriad y modiwl yw rhoi'r gwybodaeth i'r myfyrwyr allu archwilio hanes, syniadau, sefydliadau a pholisiau'r UE. Felly, ei amcan yw rhoi sylfaen gadarn i'r myfyrwyr wrth ystyried y prif faterion gwleidyddol a'r problemau sy'n wynebu'r UE. Bydd hyn yn galluogi'r myfyrwyr i ddadansoddi'n feirniadol rol yr UE mewn gwleidyddiaeth wladwriaethol, ranbarthol a rhyngwladol.

Sgiliau trosglwyddadwy

Trwy gydol y cwrs, bydd cyfleoedd i ymarfer a gwella sgiliau darllen, dealltwriaeth a meddwl. Yn y darlithoedd, bydd myfyrwyr yn gwella eu gallu i wrando'r ofalus a chymryd nodiadau. Mewn seminarau, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ac yn defnyddio eu sgiliu dadansoddol a rhesymegol. Bydd gofyn iddynt baratoi cyflwyniadau wedi eu selio ar waith ymchwil annibynol a bydd yn defnyddio gwybodaeth o ffynonhellau amrywiol. Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth gyfleu'r wybodaeth yma, ac yn ymarfer sgiliau cyfathrebu llafar. Trwy ysgrifennu traethawd ag arholiad, bydd cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gallu ysgrifennedig ag analytig.

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
D Dinan Ever Closer Union
J E Lane and S Ersson Politics and Society in Western Europe

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC