Cod y Modiwl |
GW35020 |
Teitl y Modiwl |
CYMRU A DATGANOLI |
Blwyddyn Academaidd |
2006/2007 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Elin Royles |
Semester |
Semester 1 |
Manylion y cyrsiau |
Seminarau / Tiwtorialau | 7 Hours. (7 x 1 awr) |
|
Darlithoedd | 16 Hours. (16 x 1 awr) |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Arholiad Ailsefyll | Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. | |
|
Canlyniadau dysgu
Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:
- deall a dadansoddi'n feirniadol brif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru;
- deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- deall a gwerthuso natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
- dadansoddi natur perthnasau rhyng-lywodraethol y Cynulliad gyda lefelau eraill o lywodraeth, yn enwedig lefel y DG ac Ewrop
- ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol a natur diwylliant gwleidyddol yn y gyfundrefn ddatganoledig
- ystyried yn feirniadol yr amrywiol gynlluniau ar gyfer datblygu datganoli i Gymru
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r gyfundrefn lywodraethol dddemocrataqidda sefydlwyd yng Nghymru ers 1999.
Nod
Nod y modiwl yw datblygu'r gallu i drafod, deall a dadansoddi'r canlynol:
- gosod datganoli mewn cyd-destun drwy gynnig golwg cymharol o'r cynlluniau a gynigwyd ar gyfer senedd/ cynulliad etholedig i Gymru. - Asesu'n feirniadol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
- natur cystadleuaeth bleidiol a diwylliant gwleidyddol yn y gyfundrefn ddatganoledig.
- Y cynlluniau ar gyfer datganoli pellach i Gymru
Cynnwys
Cyflwyniad
Datganoli mewn cyd-destun
Gor-olwg o'r ymdrechion hanesyddol am ddatganoli i Gymru
O Kilbrandon i Fethiant 1979
Atgyfodi'r freuddwyd: Y Llwybr i'r Cynulliad
Y Cynulliad Cenedlaethol
Seiliau Cyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Strwythur Mewnol y Cynulliad
O'r corff corfforaethol i lywodraeth gabinet ¿ datblygiadau llywodraethiant Cymru
Proses bolisi'r Cynulliad ar waith
Y Cynulliad, y Wladwriaeth Brydeinig, yr Undeb Ewropeaidd a'r Byd
Diwylliant Gwleidyddol yng Nghymru wedi datganoli
Gwleidyddiaeth Etholiadol yng Nghymru wedi datganoli
Y Pleidiau Gwleidyddol ar ol datganoli
Y Cynulliad a Chymdeithas Sifil yng Nghymru
Cynrychiolaeth a'r Cynulliad Cenedlaethol
Datganoli deddfwriaethol ar ddyfod?
Y daith at Deddf Llywodraeth Cymru a'r ymateb
Dyfodol Datganoli
Sgiliau trosglwyddadwy
Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, ac i ddeall arwyddocad rhifau syml. Yn y darlithoedd ceir cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando a dadansoddi yn ogystal a ysgrifennu nodiadau. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.
10 Credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
s
** Testun A Cyffredinol
Llywodraeth y Cynulliad (2004) Adroddiad Comisiwn Richard
HMSO
Llyfrau
Chaney, P., Hall, T., Pithouse (gol) (2001) New Governance - New Democracy? Post Devolution Wales
Gwasg Prfiysgol Cymru, Caerdydd
Hazell R (gol) (2003) The state of the Nations: The Third Year of Devolution in the United Kingdom
Llundain, UCL, Imprint Academic
Morgan, Kenneth O. (1998) Rebirth of a nation :a history of modern Wales /Kenneth O. Morgan.
0198217609
Osmond J and Barry Jones, J (gol) (2003) Birth of Welsh Democracy: The First Term of the National Assembly
Caerdydd, Sefydliad Materion Cymreig
Rawlings, Richard. (2003) Delineating Wales :constitutional, legal and administrative aspects of national devolution /by Richard Rawlings.
0708317391
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC