Cod y Modiwl GW36720  
Teitl y Modiwl TRAETHAWD ESTYNEDIG (AIL SEMESTER)  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion GW36820  
Elfennau Anghymharus GW37720  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethodau: Mae'r Treathawd Estynedig yn 8,000-10,000 o eiriau gan gynnwyd troednodiadau a llyfryddiaeth  100%
Arholiad Ailsefyll Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Canlyniadau dysgu'r traethawd estynedig yw fod yn rhaid i'r myfyriwr gwblhau'r traethawd estynedig erbyn y dyddiad cau penodedig a chadw at y nifer geiriau a ddynodir. Yn ystod y broses, bydd myfyrwyr wedi dysgu i osod cwestiwn penodol, gwneud defnydd effeithlon o nifer cyfyngedig o sesiynau gyda'u cynghorwyr neilltuedig, cynnal gwaith ymchwil annibynnol, strwythuro'r ddadl a chyflwyno'r deunydd empiraidd yn effeithlon a chwblhau ysgrifennu'r traethawd estynedig yn unol a'r gofynion gwirioneddol a ffurfiol a ddisgwylir o draethawd estynedig ar lefel israddedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r traethawd estynedig yn elfen bwysig o raglen israddedig yr Adran. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr y flwyddyn olaf astudio mewn peth manylder bwnc penodol sy'n gysylltiedig a'u cynllun gradd. Fe'i cynlluniwyd hefyd i alluogi myfyrwyr i ddangos eu menter, eu gallu i weithio'n annibynnol a'u gallu i lunio dadl gydlynol a fydd yn para gryn hyd.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gymhwyso sgiliau a enillwyd ac a feithrinwyd mewn modiwlau a ddilynwyd yn flaenorol, yn enwedig IP36820, tuag at ysgrifennu traethawd estynedig. Mae'r modiwl yn profi gallu myfyrwyr i wneud peth gwaith ymchwil annibynnol, gan dderbyn peth cyngor gan aelod neilltuedig o staff, i ddatblygu cwestiwn penodol, strwythuro dadl a chynnal dadansoddiad o'r cwestiwn. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr arddangos gwybodaeth sylweddol yn y maes pwnc a ddewisir yn ogystal a'u sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi wrth gwblhau aseiniad ysgrifenedig sylweddol o ran hyd (8-10,000 o eiriau).

Cynnwys

Mae cynnwys y modiwl traethawd estynedig yn wahanol i bob myfyriwr. Mae myfyrwyr yn cynnig testun ar gyfer eu traethawd estynedig ac yna'n cytuno ar deitl terfynol ar y cyd a'r cynghorydd a neilltuir ar eu cyfer. Disgwylir iddynt gyflwyno traethawd sydd wedi ei strwythuro'r dda a'r ysgrifennu'r glir ac sy'n cyflwyno dadansoddiad o'r cwestiwn a ddewisir.

Sgiliau trosglwyddadwy

Mae'r modiwl traethawd estynedig yn disgwyl i fyfyrwyr gymhwyso a datblygu ymhellach y sgiliau canlynol:

- gosod nodau y gellir eu cyflawni sy'n ymwneud a'u dewis pwnc
- sgiliau ymchwil wrth gasglu ynghyd lenyddiaeth eilradd ac, yn rhai achosion, ffynonellau cynradd, mewn perthynas a'r pwnc penodol a ddewisir
- sgiliau Technoleg Gwybodaeth wrth ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio (yn enwedig waith ymchwil trwy ddefnyddio'r rhyng-rwyd) ac wrth ddefnyddio prosesu geiriau wrth ysgrifennu'r traethawd estynedig
- sgiliau rheoli amser wrth lunio cynllun ymchwil ac ysgrifennu ac yna wrth gwblhau'r traethawd estynedig erbyn dyddiad cau penodedig.
- Sgiliau dadansoddol wrth lunio'r ddadl a datblygu fframwaith dadansoddol
- Sgiliau ysgrifennu academaidd wrth ysgrifennu'r traethawd estynedig, gan gynnwys cydymffurfio ag agweddau ffurfiol ysgrifennu'n academaidd megis defnyddio troednodiadau, cyfeiriadau, a llunio llyfryddiaeth.

10 Credydau ECTS

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC