Cod y Modiwl GW37920  
Teitl y Modiwl DEMOCRATIAETH, GWEITHREDU AC APATHI  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Elin Royles  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Elin Royles  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   16 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   7 x Seminar 1 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Un arholiad 2 awr  50%
Asesiad Semester Un traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1.Trafod nodweddion allweddol democratiaeth gynrychioladol ac adnabod goblygiadau cyfranogaeth mewn democratiaethau rhyddfrydol gorllewinol.
2. Cymharu a chyferbynnu modelau o ddemocratiaethau cynrychioladol a chyfranogol.
3. Dangos dealltwriaeth o gynrychiolaeth ddisgrifiadol a gwirioneddol a defnyddio enghreifftiau i egluro effaith cynrychiolaeth grwpiau `lleiafrifol' yn y broses wleidyddol
4. Gwerthuso'r dadleuon a'r materion allweddol yn ymwneud â diffyg cyfranogaeth pobl ac apathi pleidleiswyr ifanc.
5. Dadansoddi'r dadleuon dros ac yn erbyn cyflwyno mwy o gyfleoedd i ddinasyddion gyfranogi mewn democratiaethau cynrychioladol
6. Archwilio a gwerthuso llwyddiant arbrofion i weithredu democratiaeth gyd-gynghorol
7. Asesu rôl a phwysigrwydd cymdeithas sifil i hybu cyfranogaeth dinasyddion a gweithredu gwleidyddol
8. Trafod potensial mudiadau cymdeithasol a grwpiau pwysedd er mwyn cynyddu cyfranogaeth a bywhau democratiaeth
9. Gwerthuso'n feirniadol werth ac effaith protest ac anufudd-dod sifil mewn system wleidyddol ddemocrataidd
10. Arddangos dealltwriaeth o weithredu ac apathi mewn systemau gwleidyddol democrataidd ac asesu'r goblygiadau o ran nodweddu natur democratiaeth gyfoes.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn seiliedig ar ddiddordebau adrannol mewn gwleidyddiaeth a llywodraethiant ac agenda ymchwil cynullydd y modiwl. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwell dealltwriaeth o wahanol agweddau damcaniaethol tuag at ddemocratiaeth a'u goblygiadau i gyfranogaeth neu ddiffyg cyfranogaeth dinasyddion mewn systemau democrataidd gwleidyddol. Mae hon yn fenter amserol gan fod dadleuon yn ymwneud â sut i wynebu problemau apathi gwleidyddol a diffyg cyfranogaeth o fewn democratiaethau rhyddfrydol gorllewinol o'r 1970egau ymlaen bellach wedi cyrraedd uchafbwynt newydd ac wedi arwain at arbrofion ynglyn â sut i hybu mwy o gyfranogaeth yn y broses wleidyddol yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol ac ar hyd ac ar led democratiaethau rhyddfrydol gorllewinol.

Disgrifiad cryno

Maeir modiwl yn archwilio'n ddamcaniaethol ac empeiraidd y materion allweddol sy'n ymwneud â diwylliant gwleidyddol democratiaethau rhyddfrydol gorllewinol - problemau apathi gwleidyddol a diffyg cyfranogaeth a photensial gwahanol syniadau i hybu gweithredu a chyfranogaeth wleidyddol. Mae'n dadansoddi nodweddion democratiaethau cynrychioladol, yn gwerthuso eu cryfderau a'u gwendidau ac yn ceisio nodi agweddau sydd wedi cyfrannu at y twf mewn apathi gwleidyddol. Archwilir a gwerthusir hefyd gysyniadau gwahanol o ddemocratiaeth a dulliau o gyfranogi a ystyrir fel rhai sydd â photensial i hybu mwy o ddinasyddion i weithredu a chyfranogi'n wleidyddol. Cefnogir yr agweddau damcaniaethol a chysyniadol trwy archwilio gwahanol achosion empeiraidd yng Nghymru, y DG ac yn ehangach. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr sy¿n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Cynnwys

- Apathi a Gweithredu - oes ots?
Democratiaeth Gynrychioladol
- Democratiaeth Gynrychioliadol
- Pleidiau Gwleidyddol a'u haelodau
- Cynrychiolaeth ddisgrifiadol a gwirioneddol
- Y pleidiau gwleidyddol a `lleiafrifoedd' - gwragedd a lleiafrifoedd ethnig
- Diffyg cyfranogaeth a phleidleisio
- Apathi gwleidyddol a phobl ifanc
Gwahanol ddulliau o gyfranogi
- Democratiaeth Uniongyrchol - democratiaeth ddigidol?
- Democratiaeth Gyfranogol
- Democratiaeth Gyd-gynghorol
- Arbrofion y tu hwn i'r DG - British Columbia a Puerto Alegre
- Cysylltiaeth - damcaniaethau Cymdeithas Sifil a Chyfalaf Cymdeithasol
- Llanw a Thrai Gweithredu Sifig
- Mudiadau Cymdeithasol a Grwpiau Pwysedd - yn ddamcaniaethol a gweithredol
- Rôl protest ac Anufudd-dod Sifil
- Apathi a Gweithredu - beth yw natur democratiaeth gyfoes?

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at seminarau hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu¿r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.  
Research skills Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn asesu gallu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun, ac yn sicrhau fod ei dd/dealltwriaeth o gysyniadau allweddol o safon ddigonol i wneud gwaith ar lefel anrhydedd.  
Communication Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar a'u cyfleu mewn ffordd glir strwythuredig yn ysgrifenedig. Byddant hefyd yn dysgu sut i fynegi eu hunain yn y ffordd orau bosib. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a gwaith tîm fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi¿i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.  
Improving own Learning and Performance Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.  
Team work Ni fydd gwaith tîm yn elfen ganolog o¿r modiwl hwn. Ond disgwylir i fyfyrwyr ddysgu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun grwp yn y seminarau.  
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC). Cânt hefyd wefan i'r cwrs er mwyn hyrwyddo'r broses ddysgu a chyfathrebu gyda chynullydd y cwrs.  
Application of Number Yn ystod y modiwl, disgwylir i fyfyrwyr wneud ychydig o waith casglu data, dadansoddi rhifyddol a dehongli cysyniadau allweddol penodol.  
Personal Development and Career planning Mae¿r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno¿r myfyrwyr a sgiliau gweithio mewn tîm. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu¿r prosiectau a¿u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC