Cod y Modiwl GW39920  
Teitl y Modiwl CENEDLAETHOLDEB MEWN THEORI A REALITI  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Anwen M Elias  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Anwen M Elias  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   16 Hours. 16 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Hours. 4 x 2 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  60%
Asesiad Semester Traethawd: 1 x 2,500 o eiriau40%
Arholiad Ailsefyll Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Disgrifiad cryno

Prif amcan y modiwl yw sicrhau fod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth o'r prif ddamcaniaethau sy'n ymwneud a gwrieddiau, datblygiad a rol y 'genedl' mewn gwleidyddiaeth gyfoes. Bydd y darlithoedd yn edrych ar gwahanol ffyrdd y mae mobileiddo cenedlaetholol wedi digwydd mewn gwahanol rannau o'r byd, ac yn edrych ar y math o geisiadau sydd wedi cael eu gwneud yn enw'r genedl. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried beth yw goblygiadau globaleiddio ag integreiddio Ewropeaidd ar gyfer y ffordd y mae cysyniadau megis hunaniaeth, tiriogaethedd a grym gwleidyddol yn cael eu deall yn y byd modern.

Cynnwys

Nod

Wedi cwblhau'r modiwl yma, fe ddylsai myfyrwyr allu:
- Gwerthuso'r problemau cysyniadol a damcaniaethol sydd ynglwm ag astudio canadlaetholdeb
- Disgrifio a dadansoddi'r prif berspectifau damcaniaethol ar pryd y daiff y "genedl" mewn i fodoaleth
- Trafod yn feirniadol gwahanol safbwyntiau ar gyfansoddiad y genedl
- Dangos, trwy waith ysgrifenedig ac mewn seminarau, y gallu i ddefnyddio'r gwahanol ddamcaniaethau yma i ddadansoddi enhreifftiau cyfoes o fobileiddio cenedlaethol
- Trafod prif nodweddion cenedlaetholdeb lleiafrifol a chenedlaetholdeb eithafol asgell-dde, a'u goblygiadau ar gyfer y wladwriaeth ddemocrataidd ryddfrydol
- Esbonio a chymharu gwahanol esiamplau o fobileiddio cenedlaetholgar yn Nwyrain Ewrop ac yn y Dwyrain Canol
- Adnabod a trafod y prif ffyrdd y mae globaleiddio ag integreiddio Ewropeaidd yn herio ddiffiniadau traddodiadol o beth yw "cenedl", "hunaniaeth genedlaethol" a "dinasyddiaeth"
- Trafod a gwerthuso moesoldeb ymwahaniad
Gwerthuso gwahanol safbwyntiau athronyddol ynglyn รข hawliau grwpiau lleiafrifol

Sgiliau trosglwyddadwy

Trwy gydol y cwrs, bydd cyfleoedd i ymarfer a gwella sgiliau darllen, dealltwriaeth a meddwl. Yn y darlithoedd, bydd myfyrwyr yn gwella eu gallu i wrando'r ofalus a chymryd nodiadau. Mewn seminarau, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ac yn defnyddio eu sgiliu dadansoddol a rhesymegol. Bydd gofyn iddynt baratoi cyflwyniadau wedi eu selio ar waith ymchwil annibynol a bydd yn defnyddio gwybodaeth o ffynonhellau amrywiol. Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth gyfleu'r wybodaeth yma, ac yn ymarfer sgiliau cyfathrebu llafar. Trwy ysgrifennu traethawd ag arholiad, bydd cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gallu ysgrifennedig ag analytig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC