Cod y Modiwl GWM1530  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH A CHYMDEITHAS CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Richard W Jones  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   22 Hours. 1 x 2 awr yn wythnosol am 10 wythnos  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 2 x draethawd 3,000 o eiriau (50% yr un)  100%

Canlyniadau dysgu

Ar gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr allu:
- Trafod cyd-destun gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru gyfoes;
- Deall y dadleuon deallusol allweddol am Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru;
- Gwerthuso'r dadleuon hyn yng ngoleuni tystiolaeth empeiraidd, gan gynnwys dadansoddiadau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasegol;
- Trafod y dadansoddiadau yma wrth ystyried y data empeiraidd perthnasol, gan gynnwys canlyniadau arolygon cymdeithasol;
- Lleoli'r dadleuon am y sefyllfa Gymreig o fewn cyd-destun cymharol ehangach.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cynnig gor-olwg o'r cyd-destun cymdeithasegol, gwleidyddol a cyfansoddiadol i fywyd yn y Gymru gyfoes. Modiwl craidd i'r sawl sy'n dilyn y rhaglen 'Arbennigol'.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cynnig gorolwg o'r cyd-destun cymdeithasegol, gwleidyddol a chyfansoddiadol sy'n siapio ac adlewyrchu cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru gyfoes.   Bydd y modiwl yn cyfuno elfennau empeiraidd a chysyniadol er mwyn cyflwyno ac asesu amrywiol faterion allweddol o fewn gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru. Trafodir datblygiad sefydliadau; esblygiad y strwythur pleidiol; effaith bod ar y cyrion yn economaidd; integreiddio a datganoli; gwerthoedd dosbarth a chymdeithas (gan gynnwys y 'traddodiad radicalaidd'); patrymau hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru; lleoliad pwer o fewn bywyd Cymru; a gwahaniaethu rhanbarthol.   Seilir y modiwl ar ddamcaniaethau a dadleuon academaidd gan werthuso pob syniad yng ngoleuni tystiolaeth empeiraidd gan gynnwys dadansoddiadau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasegol. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar ddeunydd cymharol er mwyn gosod fframwaith ehangach i ddeall y sefyllfa yng Nghymru.

Cynnwys

Gan gyfuno ystyriaeth o'r dystiolaeth empiraidd hefo astudiaeth fanwl o ddadleuon a thrafodaethau mwy cysyniadol eu naws, bwrir golwg feirniadol ar gwestiynau canolog ynglyn a Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Yn eu plith ystyrir: datblygiad sefyliadol; esblygiad y gyfundrefn bleidiol; statws economaidd ymylol Cymru; y berthynas gymleth (ddilechdidol?) rhwng integreiddio a datganoli; y berthynas rhwng dosbarth, cenedligrwydd a gwerthoedd cymdeithsasol (y 'traddodiad radicalaidd'); patrymau hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru; lleoliad grym; a gwahaniaethau rhanbarthol oddi mewn i Gymru. Drwy'r cyfan cyfeirir at dystiolaeth gymharol er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth o'r sefyllfa Gymreig.

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, a, lle bo hynny'n briodol, i ddeall arwyddocad rhifau syml. Ceir cyfle yn y seminarau i wella sgiliau gwrando, dadansoddi a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Bydd yr ysgrifau adolygiadol yn fodd i feithrin sgiliau dadansoddi a chyfathrebu. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.

15 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
Gwyn A Williams When Was Wales?
Kenneth O Morgan Rebirth of a Nation
Michael Hechter Internal Colonialism
Tom Nairn Break-up of Britain

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC