Cod y Modiwl GWM7530  
Teitl y Modiwl DATGANOLI AR WAITH  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Elin Royles  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Richard W Jones, Ms Anwen M Elias  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 adroddiad 3,000 o eiriau  50%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos, trwy waith ysgrifenedig, y gallu i berthnasu esiamplau penodol o'r profiad ymarferol o wleidyddiaeth Cymru i'r dadleuon a'r materion cyfoes yn y llenyddiaeth academaidd ehangach ar Gymru wedi datganoli.

Disgrifio a dadansoddi strwythurau trefniadaethol a llunio penderfyniadau y sefydliad lleoliad gwaith.

Trafod gweithdrefnau'r Cynulliad Cenedlaethol a dadansoddi ei berthynas ag ystod o sefydliadau sy'r weithgar yng ngwleidyddiaeth Cymru wedi datganoli.

Enghreifftio a gwerthuso'r amrywiol sianeli o ddylanwadu ar y Cynulliad Cenedlaethol a'r brosesau llunio polisi.

Trafod eu sgiliau trosglwyddadwy ysgrifenedig a llafar eu hunain ac adnabod y ffyrdd y bu i'r lleoliad gwaith eu cryfhau.

Cynnwys

Rhesymeg academaidd y cynnig:
Mae'r modiwl hwn yn ychwanegu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yr Adran. Mae'r cefnogi'r ddarpariaeth bresennol o fewn y maes hwn ac yn darparu cyfle i fyfyrwyr sydd a diddordeb i gasglu gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth ymarferol o ddatganoli. Bydd yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar trosglwyddadwy ac yn paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer y farchnad waith. Mae hefyd yn rhoi nod arbennig ar y modiwl ac yn ei wneud yn fwy deniadol i fyfyrwyr.

Disgrifiad cryno:
Bwriad y modiwl hwn yw cynyddu a dyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o wleidyddiaeth Cymru a gafwyd ar fodiwlau eraill ar y cwrs, yn enwedig GWM 1630 Datganoli a Chynulliad Cenedlaethol Cymru trwy gynnig profiad gwaith ymarferol mewn sefydliad sy'r ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth Cymru o ddydd i ddydd.

Cynnwys:
Bwriad y modiwl yw cynnig i fyfyrwyr brofiad ymarferol o'r modd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gwleidyddiaeth Cymru yn gweithio ar ol datganoli. Rhydd gyfle unigryw i ddatblygu ac ehangu sgiliau ysgrifenedig a llafar trosglwyddadwy. Bydd y myfyrwyr yn gweithio i sefydliad sy'r uniongyrchol gysylltiedig a gwleidyddiaeth Cymru, a chant y cyfle i gyfrannu i weithgareddau, tasgau, prosiectau neu unrhyw waith arall sydd gan y sefydliad, gyda chaniatad y Cynullydd Modiwl. Bydd y Cynullydd yn cadw mewn cysylltiad wythnosol a'r myfyriwr trwy e-bost, yn cysylltu a Rheolwr Llinell y myfyriwr yn y lleoliad ac yn ymweld a'r lle gwaith unwaith yn ystod y cyfnod. Mae'r canlynol eisoes wedi cytuno'r amodol i gynnig lleoliadau gwaith: Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gwasanaethau Seneddol y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Uned Materion Gwleidyddol y BBC, Morgan Allen Moore, a Grayling Public Relations.

Disgwylir i fyfyrwyr gadw cofnod dadansoddol a ffeithiol yn ystod cyfnod y lleoliad gan nodi aseiniadau ac apwyntiadau, cyfarfodydd a derbyniadau a fynychwyd, a chaiff un o'r asesiadau ei seilio ar hyn.

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno gwaith asesedig ac aseiniadau yn y gweithlu yn gofyn i¿r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd y rheidrwydd i ymchwilio ac ymgymryd â thasgau yn y gweithle hefyd yn galluogi¿r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Caiff gallu¿r myfyriwr i ddatrys problemau ei ddatblygu a¿i asesu trwy ofyn iddynt: fabwysiadu ffyrdd gwahanol o edrych ar bethau, trefnu data a rhagweld ateb i broblem, ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol, ystyried achosion tebyg, edrych am batrymau, dosbarthu materion yn broblemau llai.  
Research skills Bydd cyflwyno gwaith asesedig ac aseiniadau yn y gweithle yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil addas a chofnodi¿r canlyniadau hefyd yn annog sgiliau ymchwil. Bydd paratoi¿r ymchwil hefyd yn galluogi¿r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol.  
Communication Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio¿r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio¿r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i¿r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol yngl¿n â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy¿n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu¿r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy¿r modiwl ar gyfraniad a chyfathrebu¿r myfyriwr. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi¿i lunio ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.  
Improving own Learning and Performance Mae¿r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y Cynullydd a¿r Rheolwr Llinell yn y gweithle. Wedi¿i seilio yn gweithle, disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a¿u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig. Bydd y rheidrwydd i gadw at ddyddiadau cau gyda¿r gwaith ysgrifenedig yn canolbwyntio sylw¿r myfyrwyr ar yr angen i reoli amser ac adnoddau yn dda.  
Team work Bydd rhaid i¿r myfyrwyr weithio o fewn tîm yn gweithle.  
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi¿i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig (megis BIDS ac OCLC).  
Application of Number Yn dibynnu ar yr aseiniadau fydd yr myfyrwyr yn eu cyflawni yn y gweithle, mae¿n bosib y byddant yn defnyddio gwybodaeth ystadegol a datblygu profiad ymarferol o ddadansoddi data rhifyddol ac felly datblygu sgiliau dadansoddol sylfaenol.  
Personal Development and Career planning Bydd y lleoliad yn help i ddatblygu sgiliau cyflwyno a llafar y myfyrwyr. Bydd yr ystod o brofiadau a geir, yn ogystal â chwblhau¿r gwaith asesedig, cynllunio traethawd, pennu fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu¿r prosiectau nes eu cwblhau yn y pendraw, yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.  
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu ac ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso esiamplau a syniadau ar y modiwl. Mae¿r sgiliau pwnc penodol hyn yn cynnwys: ¿ Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud â¿r modiwl ¿ Y gallu i werthuso perspectifau gwahanol ¿ Dangos technegau ymchwil pwnc penodol ¿ Cymhwyso amrywiol fethodolegau wrth wynebu problemau gwleidyddol cymhleth.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC