Cod y Modiwl | HA30130 | ||||||||
Teitl y Modiwl | TRAETHAWD ESTYNEDIG | ||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | ||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Paul B O'Leary | ||||||||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Steven Thompson, Dr Eryn M White, Dr Karen Stoeber, Dr Owen G Roberts, Dr Iwan R Morus | ||||||||
Rhagofynion | HA30020 | ||||||||
Elfennau Anghymharus | HY30130 | ||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 3 darlith 2 awr | |||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar 2 awr 1 tiwtorial 30 munud 1 gweithdy 2 awr | ||||||||
Dulliau Asesu |
|
Bydd myfyrwyr wedyn yn ymchwilio ac ysgrifennu traethawd estynedig 12,000 o eiriau ar draws dau semester ar destun a gymeradwywyd, o dan oruchwyliaeth aelod penodol o'r staff, gan ddibynnu ar natur y testun dan sylw.
Semester 2: dau sesiwn grwp 2 awr, un yn wythnos 2 ac un yn wythnos 8, ynghyd â chyfarfodydd unigol gyda'r goruchwyliwr.
Problem_solving | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posib a all godi wrth gynllunio ac ymchwil i brosiect ymchwil hanesyddol a byddant yn trafod problemau ac atebion posib yn y grwpiau seminar a gyda'r goruchwyliwr. | ||
Research skills | Seilir y traethawd ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. | ||
Communication | Datblygir medru cyfathrebu llafar drwy gyfrwng y gweithdy, y seminarau a'r tiwtorialau lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg a'u cynnydd. Datblygir y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bapur drwy'r ymarferion yn semester 1 a thrwy'r broses o ysgrifennu'r traethawd estynedig. | ||
Improving own Learning and Performance | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith. | ||
Team work | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y gweithdy a'r seminarau. | ||
Information Technology | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu'r gwaith. | ||
Application of Number | Heb fod yn berthnasol, onibai fod y traethawd wedi seilio ar hanes economaidd gyda gogwydd mesurol amlwg. | ||
Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith hanesyddol a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. | ||
Subject Specific Skills | Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau'r myfyrwyr wrth gynllunio darn o waith sylweddol, gan ddangos adnabyddiaeth o'r cyd-destun hanesyddiaethol ac ymwybyddiaeth o'r confensiynau cyhoeddi ar gyfer y ddisgyblaeth. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC