Cod y Modiwl HAM0210  
Teitl y Modiwl SGILIAU A FFYNONELLAU'R HANESYDD - CYFLWYNIAD  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Owen G Roberts  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Karen Stoeber, Dr Steven Thompson, Dr Iwan R Morus  
Elfennau Anghymharus HYM0210  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   4 x seminar 2 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester UN PROSIECT BYR, 2000 O EIRIAU  100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a deall corff o wybodaeth ym maes hanesyddiaeth a methodoleg hanesyddol

Adnabod a defnyddio gwahanol berspectifau ar y defnydd o ffynonellau hanesyddol cynradd

Cymharu a gwerthuso ystod o ffyrdd o ddefnyddio ffynonellau cynradd, yng nghyd-destun cynllunio prosiect ymchwil

Darllen, a gwerthuso llenyddiaeth eilradd sy'n rhoi cyd-destun deallusol a haniaethol gogyfer ag ymchwil hanesyddol

Gweithio'n annibynol a gydag eraill

Disgrifiad cryno

Tra bydd myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyfnodau gwahanol eisiau archwilio nifer o ffynonellau sy'n arbennig o berthnasol i'w ymchwil hwy, mae rhai problemau a chysyniadau, er enghraifft gwerth y fethodoleg gymharol, yn gyffredin i haneswyr o bob cyfnod ac arbenigedd. Dyluniwyd y modiwl craidd 10-credyd yma, felly, i alluogi haneswyr o bob math o gynlluniau gradd Meistr o fewn yr Adran i archwilio'r fath bynciau mewn cyfres fer o seminarau. Bydd y modiwl yn cynorthwyo'r myfyrwyr i addasu o waith is-raddedig i waith ôl-raddedig, ac yn cynnig cyfle iddynt i osod eu gwaith o fewn fframwaith deallusol a methodolegol eang o'r cychwyn cyntaf.

Nod

Mae'n rhaid i haneswyr ar lefel Meistr fedru ymdrin â sawl math o ffynhonell graidd, a defnyddio nifer o wahanol sgiliau wrth astudio'u pwnc. Pwrpas y modiwl yma yw cyflwyno myfyrwyr i gwestiynau methodolegol a dadansoddol sy'n codi wrth ddefnyddio gwahanol fathau o ffynonellau.

Cynnwys

Seminarau:
1) Gweithio gyda dogfen
2) Ffynonellau anllenyddol
3) Hanes Cymharol
4) Hanes Diwylliannol Newydd

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.  
Research skills Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd.  
Communication Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau.  
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth.  
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.  
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.  
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa  
Subject Specific Skills Datblygu ymwybyddiaeth o'r angen i osod ymchwil hanesyddol o fewn fframwaith hanesyddiaethol a methodolegol gadarn.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC