Cod y Modiwl HC12120  
Teitl y Modiwl TROBWYNTIAU YN HANES CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul B O'Leary  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Owen G Roberts, Dr Karen Stoeber, Dr Iwan R Morus, Dr Eryn M White, Dr Steven Thompson  
Elfennau Anghymharus WH12120 , HY12120 , HA12120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
  Seminarau / Tiwtorialau    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester YMARFERIAD PRECIS: 1,000 GAIR  25%
Asesiad Semester UN PROSIECT BYR: 2,000 GAIR  50%
Asesiad Semester UN YMARFERIAD LLYFRYDDIAETHOL: 1,500 GAIR  25%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
gwneud ymarferion llyfryddiaethol syml ond angenrheidiol

darllen deunydd hanesyddol eilaidd gan arfer rhywfaint o grebwyll beirniadol

cydnabod yr angen i ddilyn arferion gorau wrth gynnal ymchwil

mynd i'r afael a dadleuon hanesyddol a chynnig sylwadau ar briod rinweddau safiadau hanesyddol

dangos eu bod wedi mynd i'r afael a deunydd eilaidd ar lafar (ni asesir y gwaith hwn) ac mewn gwaith
   ysgrifenedig (asesedig)

myfyrio'n feirniadol ar eu safbwyntiau hanesyddol eu hun ac, o astudio rhagor ar lefel gradd, ragweld pa mor   berthnasol fydd meddu ar ragor o sgiliau

Disgrifiad cryno

Bydd y cyfres seminarau yn defnyddio cyfnodau tyngedfennol yn hanes Cymru er mwyn tynnu sylw at sut mae haneswyr yn trin a thrafod pynciau penodol ynghyd a chyflwyno technegau a sgiliau angenrheidiol ar gyfer myfyrwyr hanes. Bydd darlithoedd atodol yn ychwanegu at at y dull hwn sy'n seiliedig ar sgiliau ac yn nodi'n fras y materion hynny sy'n ganolog i waith yr hanesydd.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw rhoi i'r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi astudio hanes ar lefel gradd rai o'r 'sgiliau' pwysicaf, er mor sylfaenol y bont, y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu gradd. Bwriedir y modiwl fel cwrs craidd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cynllun gradd yn yr Adran sy'n cynnwys Hanes Cymru

Cynnwys

Seminarau:

1) Cyflwyniad cyffredinol
2) Gwrthryfel Glyndwr: gyda thrafodaeth ar sgiliau cymryd nodiadau
3) Deddfau Uno: gyda chanllawiau ar lunio llyfryddiaeth
4) Diwygiad Methodistaidd: gyda thrafodaeth ar baratoi cyflwyniadau seminar
5) Brad y Llyfrau Gleision: gyda thrafodaeth ar ysgrifennu traethodau

Darlithoedd:

1) Beth yw hanes?
2) Arferion yr hanesydd
3) Defnyddio ffynonellau
4) Natur y ddadl hanesyddol
5) Yr hanesydd yn awdur

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.  
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.  
Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.  
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.  
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad  
Information Technology Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas.  
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Davies, R R (2002) Owain Glyn Dŵr : trwy ras Duw, Tywysog Cymru Talybont, Ceredigion : Y Lolfa 0862436257
Jenkins, Geraint H. (1983) Hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar 1530-1760 Gwasg Prifysgol Cymru 0708308236
Morgan, Derec Llwyd. (1981) Y diwygiad mawr Llandysul : Gwasg Gomer 0850887550
Morgan, Prys (gol.) (1991) Brad y llyfrau gleision : ysgrifau ar hanes Cymru Llandysul : Gwasg Gomer 0863838650
Davies, John (1990.) Hanes Cymru /John Davies. 0713990112

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC