Cod y Modiwl HCM1130  
Teitl y Modiwl TIRFEDDIANNAETH A'R GYMDEITHAS YNG NGHYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Eryn M White  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus WHM1130  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   6 seminar dwy awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD 3,500 O EIRIAU  100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a defnyddio'r gwahanol agweddau ar y ffynonellau gwreiddiol a ddefnyddir gan haneswyr i ailgreu hanes tirfeddiannaeth yn y cyfnod hwn.

Arddangos dealltwriaeth o'r hanesyddiaeth berthnasol, ei esblygiad a'r problemau allweddol sy'n dwyn sylw haneswyr yn y maes.

Darllen a gwerthuso'r dystiolaeth wreiddiol a'r hanesyddiaeth yn effeithiol ar lafar ac ar bapur.

Gweithio'n annibynnol a gydag eraill.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir myfyrwyr i'r ffynonellau a dulliau dehongli a ddefnyddir ar gyfer astudio tirfeddiannaeth yng Nghymru ar ddiwedd y cyfnod modern cynnar. Olrheinir rhai o'r newidiadau arwyddocaol yn ystod y cyfnod modern cynnar, gan gynnwys effeithiau hir dymor y Deddfau Uno, dirywiad demograffig ac uno stadau mawrion. Archwilir pwysigrwydd tirfeddiannaeth o ran cymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod ac astudir gwahanol agweddau gwahanol haenau o'r gymdeithas at berchnogaeth ac etifeddiaeth. Edrychir yn ogystal ar y berthynas rhwng meistri tir a'r haenau is a'r rhesymau dros densiwn yn y berthnas honno.

Nod

Y mae'r MA fel cyfanwaith yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dealltwriaeth ddyfnach o bynciau allweddol yn Hanes Cymru ac yn darparu hyfforddaint o ran adnabod a dehongli y dystoliaeth hanesyddol berthnasol. Cynigai'r modiwl hwn agoriad i un o themâu canolog hanes Cymru.

Cynnwys

Twf a `Dirywiad' y Bonedd
Tirfeddiannaeth, y Gyfraith ac Etifeddiaeth
Sesiwn ymarferol yn Adran Llawysgrifau'r LlGC
Tirfeddiannaeth, Gwleidyddiaeth a Grym
Stadau a'r Berthynas rhwng Haenau'r Gymdeithas
Afonyddwch Gwledig

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.  
Research skills Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd.  
Communication Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau.  
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth  
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol  
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.  
Application of Number Gan ddibynnu ar destunau traethawd, gellir defnyddio gwybodaeth rifyddol sylfaenol er mwyn astudio maint daliadau tir, gwerthoedd rhent, prisiau cnydau a chyfoeth unigolion a theuloedd.  
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC