Cod y Modiwl RG25520  
Teitl y Modiwl PROSIECT  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Graham P Harris  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Iwan G Owen  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   Darlith/briff 1 x 2 awr yr wythnos  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester PRIF BROSIECT  100%
Asesiad Ailsefyll GOFYNNIR I YMGEISWYR AILGYFLWYNO PROSIECT A DDIWYGIWYD Gofynnir i ymgeiswyr ailgyflwyno prosiect a ddwygiwyd.100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Canlyniad 1
Llunio prosiect addas gan ddefnyddio fformat adroddiad technegol.
Meini Prawf Perfformiad
a. Dadansoddir y pwnc o dan isadrannau addas mewn perthynas a theitl y prosiect.
b. Dilynir y fformat ar gyfer cyflwyno'r prosiect.
Amrediad:
Yn ddibynnol ar y pwnc o dan sylw
Isadrannau addas: tudalen deitl, crynodeb, cydnabyddiaethau, tabl cynnwys, cyflwyniad, arolwg o lenyddiaeth, deunyddiau a dulliau (os yn gymwys), canlyniadau (os yn gymwys), trafodaeth, casgliadau, argymhellion, atodiadau, llyfryddiaeth.
Fformat: 60 tudalen ar y mwyaf ac eithrio deunydd ar wahan i'r testun. Wedi ei deipio a'i rwymo. Tri chopi.

Canlyniad 2
Darparu cyflwyniad a rhesymau dros astudio'r pwnc.
Meini Prawf Perfformiad
a.   Mae'r cyflwyniad cyffredinol i'r pwnc yn rhoi cefndir i'r pwnc sydd o dan astudiaeth.
b.   Dynodir arwyddocad a chyd-destun y pwnc o fewn y diwydiant.
c.   Cyflwynir amcanion y prosiect.
ch. Nodir a chyflwynir cyfyngiadau'r prosiect/maes yr astudiaeth.
Amrediad:
Yn ddibynnol ar y pwnc o dan sylw.

Canlyniad 3
Ymgymryd ag arolwg o lenyddiaeth
Meini Prawf Perfformiad
a.   Dewisir a chynhwysir gwybodaeth berthnasol yn yr arolwg.
b.   Cyflwynir amrediad o ffynonellau gwybodaeth sy'n cwmpasu'r pwnc drwyddo draw.
c.   Bydd myfyrwyr yn casglu, dethol, dehongli a chrynhoi gwybodaeth yn eu geiriau eu hunain.
ch. Dyfynnir cyfeiriadau at ddeunydd cyhoeddedig yn briodol yn y testun.
Amrediad:
Yn ddibynnol ar y pwnc o dan sylw.
Ffynonellau Gwybodaeth: llyfrau, erthyglau cyfnodolion, y wasg, cysylltiadau personol, deunyddiau cyhoeddedig eraill, canlyniadau o archwiliadau (lle bo'n gymwys).
Cyfeirnodi: System Harvard

Canlyniad 4
Defnyddio methodoleg briodol (os yn gymwys)
Meini Prawf Perfformiad:
a.   Cyflwynir y fethodoleg a gellid ei hailadrodd gan weithwyr eraill.
b.   Defnyddir methodoleg addas/gywir o fewn y prosiect.
c.   Cofnodir manylion am offer/techneg arolwg.
Amrediad:
Methodoleg addas/gywir: yn ddibynnol ar y pwnc.
Offer/techneg arolwg: yn ddibynnol ar y pwnc
Mesur yn ol y system metrig

Disgrifiad cryno

Wrth gyflawni modiwl y prosiect bydd myfyrwyr yn ysgrifennu adroddiadau technegol ac yn ymchwilio'n fanwl i bynciau penodol.   Mae disgyblaeth a thrylwyredd y broses yn sgil sy'n hanfodol i holl fyfyrwyr HND.

Bydd prosiect y flwyddyn olaf yn cymryd ffurf astudiaeth archwiliadol (treial, arbrawf neu arolwg) neu astudiaeth achos/astudiaeth dichonoldeb estynedig o broblem benodol neu bwnc. Bydd angen archwilio a gwerthuso problem benodol/pwnc trwy adfer gwybodaeth o sawl ffynhonnell gwahanol.
Mae prosiect archwiliadol yn gofyn am gynllunio systemau dadansoddi, a gwerthuso data arbrofol a gesglir o dreialon, arbrofion, arolygon neu astudiaethau achos.

Cyflwynir y prosiect fel adroddiad technegol. Bydd yn croes-gysylltu ac yn integreiddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd mewn sawl modiwl cwrs. Bydd y prosiect yn datblygu sgiliau trefnu, adfer gwybodaeth, ysgrifennu adroddiadau technegol, gwerthuso a dehongli data o wahanol ffynonellau, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, a ffurfio casgliadau ac argymhellion.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC