Cod y Modiwl AD11420  
Teitl y Modiwl POLISIAU A MATERION MEWN ADDYSG  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Meirion G Davies  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Rosemary O Cann  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr 1 arholiad ysgrifenedig dwy awr, dau gwestiwn60%
Asesiad Semester 1 ymarfer llyfryddiaethol, 1000 o eiriau15%
Asesiad Semester 1 traethawd, 2000 o eiriau25%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos eu bod yn gwybod am ac yn deall datblygiadau hanesyddol system addysg yng Nghymru a Lloegr.

Dangos eu bod yn gallu gwerthuso'n feirniadol polisiau addysg a materion cyfoes addysg.

Dangos eu bod yn gallu creu dadl gydlynol wrth drafod materion cyfoes yn y byd addysg.

Dangos eu bod yn gallu trafod eu profiadau addysg eu hunain yng nhgyd-destun newidiadau a datblygiadau yn y system addysg

Dangos eu bod yn gallu defnyddion ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir polisiau a materion cyfoes mewn addysg yng Nghymru a Lloegr. Lleolir polisiau addysg mewn cyd-destun hanesyddol sy'n olrhain datblygiadau a newidiadau, ond hefyd trafodir materion o bwys sy'n bod heddiw.

Cynnwys

Seilir y darlithiau ar y testunau canlynol:   
1. Cyflwyniad - elfennau system addysg
2. Datblygiad ysgolion mewn cymdeithas
3. Deddfau Addysg 1944 a 1988
4. Rheolaeth, Dewis ac Atebolrwydd
5. Polisiau Addysg Llafur Newydd yng Nghymru a Lloegr
6. Materion 1: Safonau Addysg
7. Materion 2: Cymru: Cenedlaetholdeb, Diwylliant ac Addysg mewn Ysgolion
8. Materion 3: Tri Thestun Dadleuol y Dydd (Bwyta'r Iach yn yr Ysgol, Dysgu Bechgyn a Merched ar Wahan, ac Anghenion Addysg Arbennig)   
9. Materion 4: Cwricwlwm16-19
10. Materion 5: Gender ac Addysg   

Seilir y seminarau ar y canlynol:   
1. Hunangofiant am Eich Addysg
2. Deddf Addysg 1944
3. Ysgolion Gramadeg ac Ysgolion Cyfun
4. Deddf ddysg 1988
5. Y Cwricwlwm cenedlaethol
6. Materion Addysg y Dydd
7. Anghenion Addysg Arbennig
8. Bwyta'r Iach yn yr Ysgolion
9. Tangyflawni Bechgyn yn yr Ysgolion
10. Safbwyntiau ar Addysg Uwch

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC