Cod y Modiwl AG11720  
Teitl y Modiwl ECOLEG CYNEFINOEDD  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr David R Powell  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Peter Dennis, Mr Penri James, Mr Hefin Wyn Williams  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   2 x darlith 1 awr bob wythnos  
  Darlithoedd   1 x darlith 2 awr bob wythnos  
  Sesiwn Ymarferol   5 x sesiwn ymarferol 3 awr yn ystod y semester  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester GWAITH CWRS: LLYFR ADRODDIADAU YMARFEROL  50%
Arholiad Semester1.5 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll GWAITH CWRS  50%
Arholiad Ailsefyll1.5 Awr  50%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Egluro cysyniadau esblygiad, poblogaethau, cymunedau, ecosystemau, cynefinoedd, niche, dilyniant ecolegol, cylchu sylwedd a llif egni;

Dangos eu bod yn gyfarwydd â nodweddion amrywiaeth o gynefinoedd tirol, dwr croyw a morol ac yn gallu egluro eu dosbarthiad daearyddol a¿u datblygiad hanesyddol;

Defnyddio allweddau adnabod a dangos gwybodaeth yngl¿n â systemau dosbarthu organebau a chynefinoedd;

Dangos gwybodaeth am sut mae planhigion, anifeiliaid a micro-organebau yn addasu i¿r amgylchedd;

Defnyddio technegau addas i gofnodi, cyflwyno, dadansoddi a dehongli data maes ecolegol.

Disgrifiad cryno

Trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymweliadau â'r maes, bydd y modiwl yma yn cyflwyno'r prosesau a'r egwyddorion biolegol ac ecolegol sylfaenol sydd ar waith mewn amrywiaeth o gynefinoedd ym Mhrydain. Amlinellir yr egwyddorion gwyddonol sylfaenol sy'n sail i bob system fiolegol a bydd sgiliau sylfaenol dosbarthu organebau a chynefinoedd yn cael eu cyflwyno. Drwy ddefnyddio technegau maes a labordy mewn sesiynau ymarferol byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau niche, cynefinoedd, poblogaethau a chymunedau a fydd yn sail i'ch astudiaeth o amrywiaeth o gynefinoedd pwysig Prydain. Telir sylw arbennig i'r rhan y mae pobl yn ei chwarae yn natblygiad a rheolaeth y cynefinoedd allweddol hyn.

Sgiliau Modiwl

Sgiliau ymchwil Bydd angen ysgrifennu'r adroddiadau maes ar ffurf adroddiadau gwyddonol safonol.  
Technoleg Gwybodaeth Bydd canlyniadau rhai ymarferion yn y maes yn cael eu casglu a'u dadansoddi gan ddefnyddio taenlenni. Bydd gwybodaeth atodol ar gyfer y modiwl yn cael ei darparu trwy gyfrwng y rhyngrwyd.  
Rhifedd Bydd ymarferion yn y maes yn cynnwys casglu data. Bydd data yn cael ei fapio, ei ddadansoddi a'i ddehongli yn rhan o'r adroddiadau ymarferol a asesir.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC