| Sgiliau ymchwil |
Bydd yr aseiniad yn datblygu gallu'r myfyriwr i weithio'n annibynnol gan gyfuno gwybodaeth wyddonol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd i werthuso'n feirniadol sut mae mater penodol sy'n ymwneud â'r gadwyn fwyd yn cael ei drafod mewn amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol (asesir trwy waith cwrs).
|
| Cyfathrebu |
Yn rhan o'r aseiniad bydd angen cynhyrchu adroddiad ar fater penodol sy'n ymwneud â'r gadwyn fwyd ddynol a sut mae'n cael ei drafod mewn amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol, gan ddatblygu sgiliau ysgrifennu academaidd y myfyriwr a chyfiawnhau dadansoddiadau beirniadol a chasgliadau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Nod canlyniadau'r modiwl yw darparu'r sgiliau a'r ymwybyddiaeth o egwyddorion a gwybodaeth y mae ymarferwyr eu hangen yn yr amgylchedd gwledig ehangach er mwyn trafod ac ymdrin â materion sy'n peri pryder yn y byd cyhoeddus a'r byd gwyddonol, a hynny yng nghyd-destun y gadwyn fwyd ddynol. |
| Gwaith Tim |
Bydd y drafodaeth ffurfiol yn datblygu gallu'r myfyrwyr i drafod a dadansoddi gwybodaeth mewn fforwm grwp rhyngweithiol. |
| Technoleg Gwybodaeth |
Bydd angen defnyddio ffynonellau ar y rhyngrwyd yn helaeth er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer yr aseiniad (asesir yn rhan o waith cwrs). |
| Rhifedd |
I ddadansoddi'r llenyddiaeth berthnasol bydd angen i fyfyrwyr ddeall a dehongli gwybodaeth rifyddol, yn enwedig yng nghyd-destun data cynhyrchu, marchnata ac asesu risg. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa |