Cod y Modiwl AG32810  
Teitl y Modiwl PYNCIAU SEMINAR  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr John H Harries  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Iwan G Owen, Yr Athro Charles J Newbold, Dr Michael T Rose, Yr Athro William Haresign, Dr John M Warren  
Rhagofynion DIM OND I FYFYRWYR SEFYDLIAD Y GWYDDORAU GWLEDIG Y MAE'R MODIWL HWN AR GAEL, a rhaid iddynt gofrestru ar ei gyfer  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester SEMINAR 1  40%
Asesiad Semester SEMINAR 2  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr ailsefyll yr elfen(nau) or asesiad a achosodd iddynt fethur modiwl100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ymchwilio a chrynhoi pynciau penodol sydd o ddiddordeb iddynt;

Cyflwyno eu crynodebau ar ffurf seminar;

Cyflwyno crynodeb ysgrifenedig o'u hadolygiad o'r pwnc;

Gofyn ac ateb cwestiynau ar ol y seminar.

Nod

Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio a chyflwyno dwy seminar. Bydd Seminar 1 ar bwnc penodol tra bydd yr ail seminar ar bwnc o ddewis y myfyriwr.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys 11 o sesiynau 3 awr o hyd, a phob sesiwn yn cynnwys tair seminar unigol. Bydd myfyrwyr yn cael eu briffio erbyn Wythnos 6 Semester 1, bydd amserlen y seminarau yn cael ei llunio a bydd y pynciau cyntaf yn cael eu dosbarthu. Disgwylir i fyfyrwyr ddewis eu hail bwnc o fewn tair wythnos wedi cychwyn Semester 2, gan ofyn i gydlynydd y grwp ei gymeradwyo. Rhoddir adborth priodol wedi i'r seminar gyntaf gael ei chyflwyno. Dylai pob seminar bara am tuag 20 munud, ac yna ceir trafodaeth gyffredinol. Disgwylir i'r holl fyfyrwyr fod yn bresennol a chyfrannu'n llawn at y drafodaeth ar bob pwnc.

MAE NATUR Y MODIWL HWN YN GOLYGU NAD OES UNRHYW AILSEFYLL ANRHYDEDD YN YSTOD CYFNOD ARHOLIADAU ATODOL MIS AWST. BYDD YR AILASESU'N DIGWYDD Y TRO NESAF Y BYDD Y MODIWL YN CAEL EI GYNNIG, H.Y. YN SEMESTER 2 Y FLWYDDYN ACADEMAIDD GANLYNOL.

Sgiliau Modiwl

Sgiliau ymchwil Bydd angen i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil i baratoi ar gyfer eu dau gyflwyniad seminar unigol.  
Cyfathrebu Bydd angen i fyfyrwyr baratoi a thraddodi dau gyflwyniad seminar, gyda phapur crynodeb byr a llyfryddiaeth lawn i'w hategu. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu hasesu a darperir adborth.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn cael adborth ar eu seminar gyntaf a disgwylir iddynt fyfyrio ar yr adborth hwn a chymryd camau priodol i wella eu perfformiad lle bo angen.  
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio PowerPoint ac amrywiaeth o gyfryngau gweledol wrth gyflwyno'r seminarau.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC