Cod y Modiwl AP30620  
Teitl y Modiwl DADANSODDI SYMUD  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Margaret P Ames  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Sesiwn Ymarferol   Sessiynau Ymarferol profiadol 10 x 2 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 Cyflwyniad Unigol Ymarferol40%
Asesiad Semester 2 Cofnod Ysgrifenedig (3,000 o eiriau) 60%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol or asesiad, rhaid ail-gyflwynor gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. Os methir yr elfen o waith ymarferol mewn grwp, disgwylir ir myfyriwr baratoi cyflwyniad unigol o 15 munud. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
arddangos dealltwriaeth o egwyddorion System Ymdrech Rudolf Laban

arddangos dealltwriaeth o eirfa'r System Ymdrech

arddangos gallu i gymhwyso'r eirfa gorfforol er mwyn deall agweddau o'u hunain a phobl eraill

arddangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff, ynghyd a'r cydblethiad rhwng y corff a chyflwr emosiynol yr unigolyn

arddangos gallu i ddefnyddio'r 'Ymdrechion' i ddyfeisio, hwyluso a newid gwaith creadigol

Nod

Fe fydd y system hwn o ddadansoddi a chofnodi symud yn ddefnyddiol i'r myfyrwyr o safbwynt hyrwyddo dealltwriaeth o'u hunain a bydd hefyd yn hyrwyddo'u gallu i ddyfeisio gwaith a chreu cymeriad. Bydd deall a gweithredu System Ymdrech Laban yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr weld sawl gwahanol lefel o ystyr mewn nifer o sefyllfaoedd gweithredol.

Noder: ystyried un agwedd yn unig o system ddadansoddi symud Laban a wneir yn y modiwl hwn, ac ni ddylid ystyried y modiwl fel cyflwyniad cyffredinol i waith Laban yn ei gyfanrwydd.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Sesiynau:

Disgrifiad cryno

Trwy waith ymarferol bydd y myfyrwyr yn dysgu am y 4 `Ymdrech' gwahanol ac yn datblygu'r gallu i amgyffred eu defnydd yn y corff. Bydd y gwaith yn cynnwys arbrofi trwy symud, ystyried gweithredoedd syml beunyddiol, a sylwadaeth ar symudiadau gan bobl eraill.   

Wrth ddod yn gyfarwydd a'r eirfa newydd a'i defnydd bydd y myfyrwyr yn deall mwy am bwysigrwydd cyfathrebu trwy gyfrwng y corff, ynghyd a natur datblygiad eu cyrff unigol.

Yn ystod sesiynau dysgu'r modiwl, rhoddir pwyslais ar gyflawni a gwylio gwaith byrfyfyr, yn fyw a thrwy gyfrwng fideo: bydd un grwp o fyfyrwyr yn gweithredu'n gorfforol tra bod grwp arall yn eu gwylio a'u dadansoddi. Bydd pob sesiwn yn pwysleisio'r angen i fyfyrwyr gefnogi'u proses ei gilydd. At hynny, disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio termau dadansoddiadol Laban wrth iddynt sylwi a chyfeirio at symudiadau gan bobl eraill o'u cwmpas mewn bywyd cyffredin.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Wrth ddysgu'r system ddadansoddi hon bydd y myfyrwyr yn cymhwyso damcaniaeth ac ymarfer ac yn gweithio i ddefnyddio geirfa Laban i newid sefyllfaoedd a datrys problemau creadigol  
Sgiliau ymchwil Fe fydd ymchwil personol yn sail i waith y modiwl. Disgwylir i'r myfyrwyr arsylwi a dadansoddi datblygiad eu proses mewnol a'u hymwybyddiaeth unigol, yn ogystal â'u goblygiadau at bobl eraill. Cryfheir gwaith yr unigolyn yn sylweddol yn ystod y modiwl wrth iddynt ddod â dealltwriaeth ddyfnach i'r gwaith o'u hymchwil personol  
Cyfathrebu Elfen bwysig o'r modiwl fydd y gallu i adrodd ar yr hyn y mae'r unigolyn wedi'i weld ac i gadarnhau eu profiad gydag eraill. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut y mae'r corff yn cyfathrebu heb eiriau a sut mae'r unigolyn yn ymateb i gyflyrau ac amgylchiadau gwahanol a'r ffordd rydym yn effeithio ar bobl eraill. Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r gallu i ddeall yr effeithiau a'r oblygiadau sy'n canlyn ein gweithredoedd corfforol yn ogystal â'n geiriau a'n hiaith.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Pwrpas y modiwl hwn fydd agor posibiliadau newydd i'r myfyrwyr ynglyn â ffyrdd amgen o greu a deall eu gwaith ymarferol. Rhydd y modiwl gyflwyniad i dechneg corfforol a fydd yn rhoi i'r myfyrwyr ymwybyddiaeth ychwanegol o'u hunain, a disgwylir y bydd hyn yn cyfrannu yn uniongyrchol at safon eu gwaith. Fodd bynnag, nid asesir yr elfen hon yn benodol ac uniongyrchol yn ystod y modiwl  
Gwaith Tim Tra bod y modiwl hwn yn pwysleisio taith bersonol yr unigolyn bydd trafod gyda gweddill y grwp yn rhan o bob sesiwn, ac wrth gwrs yn rhan allweddol bwysig o'r cyflwyniad Grwp. Bydd gwrando, edrych a derbyn mewnbwn y grwp yn hanfodol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Er bod y gallu i ddeall effaith y corff mewn unrhyw sefyllfa gyda phobl eraill yn werthfawr iawn, ni roddir unrhyw gyfarwyddyd penodol ynglyn â datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Laban, R (1960) Mystery of Movement 2ed MacDonald a Evans
Laban, R a Lawrence, F. C (1974) Effort: Economy of Human Movement 2ed MacDonald a Evans
Preston-Dunlop, V (1998) Rudolf Laban: An Extraordinary Life Dance Books
** Argymhellir - Cefndir
Bartenieff, I a Lewis, D (1993) Body Movement: Coping with the Environment Gordon and Breach Science Publishers
Moore, C-L a Yamamoto, K (1992) Beyond Words: Movement Observation and Analysis Gordon and Breach Science Publishers
Newlove, J (1998) Laban for Actors and Dancers Nick Hern Books

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC