Cod y Modiwl | BG10810 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | ECOLEG | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Dylan G Jones | ||||||||||||||
Semester | Semester 2 | ||||||||||||||
Rhagofynion | This module is taught through the medium of Welsh and requires GCSE Welsh or equivalent, Fel arfer bydd angen Bioleg lefel A neu AS, neu gymhwyster cyfwerth. | ||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Hours. 20 awr (arbrofion a sesiynau adferol) | |||||||||||||
Sesiwn Ymarferol | 3 Hours. 3 x 1 awr mewn darlithfeydd | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Yn y gr'r cyntaf o ddarlithoedd, dadansoddir ynni o fewn ecosystemau gan ganolbwyntio'r benodol ar systemau sy'r dibynnu ar olau haul a phlanhigion gwyrdd, a'r rheiny sy'r dibynnu ar sylwedd organig marw. Rhoddir pwyslais arbennig ar drosglwyddo ynni rhwng lefelau troffig gwahanol. Mae trosglwyddo ynni drwy sylwedd organig yn golygu hefyd, yn anochel, drosglwyddo deunydd rhwng cydrannau'r ecosystem. Mae maetholion yn cynrychioli'r rhan fwyaf o'r deunydd hwn, ond gellid hefyd drosglwyddo llygryddion, er enghraifft. Dadansoddir cylchu maetholion o fewn systemau gyda phwyslais ar rol allweddol priddoedd. Mae'r rhyngweithiadau cymhleth rhwng llystyfiant a phriddoedd yn cael dylanwad cryf ar y broses hon.
Mae natur y pridd yn ddim ond un ymhlith llawer o ffactorau sy'r effeithio ar ddosbarthiad gofodol planhigion ac anifeiliaid. Trafodir ystod y ffactorau anfiotig wrth ddechrau'r gr'r nesaf o ddarlithoedd, cyn symud ymlaen i drafod ffactorau biotig, yn enwedig ysglyfaethu a chystadlu. Mae ysglyfaethu yn un o'r ffactorau sy'r cyfyngu poblogaethau a'r hatal rhag tyfu'r esbonyddol, anfeidraidd; mae cystadlu am adnoddau yn ffactor arall sydd yr un mor bwysig. Yn ogystal, mae astudio'r modd mae rhywogaethau'r defnyddio adnoddau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, a hwnnw'r cael ei ddiffinio fel arfer fel y gilfach (niche). Serch hynny, bydd rhywogaethau'r dangos yn aml addasiadau penodol ar gyfer sefyllfaoedd arbennig o fewn eu dosbarthiad; trafodir enghreifftiau o'r fath amrywiaeth ecoteipaidd.
Mae yna rai agweddau ar ecoleg rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid, serch hynny, y gellid eu deall orau drwy astudio eu hawtecoleg. Defnyddir rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid i egluro cysyniad awtecoleg.
Y thema olaf i gael ei thrafod yn y modiwl yw'r newid mewn ecosystemau gyda threigl amser, yr hyn sy'r cael ei alw'r olyniaeth (succession). Mae'r cwestiwn a oes modd rhagfynegi'r olyniaethau hyn ai peidio, a chwestiynau ynghylch beth sy'r gyrru'r newidiadau, wedi bod yn bynciau llosg ers amser maith. Trafodir enghreifftiau o olyniaethau, a'r damcaniaethau cystadleuol a geid yn eu cylch.
Manylion pellach: http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/modiwlau/ecoleg.htm
Rhestr o dermau Cymraeg ar gyfer Ecoleg: http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/termau-ecoleg.htm
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC