Datrys Problemau |
Drwy gyfrwng y darlithoedd, bydd myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o'r problemau amgylcheddol a meddygol sy'n cael eu hachosi gan ficrobau ac o'r datrysiadau a ddatblygwyd i oresgyn y problemau hyn. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o gynllunio a chyflawni arbrofion, dehongli data a sylwi ar arbrofion microbioleg sy¿n cael eu hasesu. |
Sgiliau ymchwil |
Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i destunau y tu hwnt i ddyfnder a chwmpas deunydd y darlithoedd, a hynny drwy astudiaeth annibynnol a than gyfarwyddyd. Bydd gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn destun archwiliad a sylwadau manwl. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau ymchwil biolegol allweddol (gan gynnwys trin a thrafod sbesimenau microbiolegol) ar gyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd academaidd. |
Cyfathrebu |
Sgiliau gwrando ar gyfer y darlithoedd a'r trafodaethau yn dilyn hynny mewn dosbarthiadau ymarferol. Cyfathrebu'n effeithiol ar bapur mewn arholiadau. Bydd gwybodaeth o ddarlithoedd Saesneg a deunydd ategol yn Gymraeg yn gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â'r derminoleg gywir, yn Gymraeg ac yn Saesneg, sy'n berthnasol i ficrobioleg. Hefyd, bydd hyn yn rhoi iddynt fwy o hyder i drafod materion microbiolegol yn ddwyieithog, rhugl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr wneud ychydig o waith ymchwil, trefnu eu hamser, a chwrdd a dyddiadau cau. Bydd yr elfennau astudio dan gyfarwyddyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu hoff ddulliau dysgu, ac i nodi eu hanghenion ac unrhyw rwystrau i'w dysg. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd, a chynllunio er mwyn gwella eu perfformiad personol. |
Gwaith Tim |
Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau yn y sesiynau ymarferol. Bydd gofyn iddynt drafod cynllun eu harbrawf a gweithio'n effeithiol fel tîm bychan yn y dosbarthiadau ymarferol.
Trwy grwpio'r myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn (mewn parau) yn sesiynau ymarferol mwy BS13110, a'r ffaith fod arddangoswr sy'n siarad Cymraeg ar gael, ceir cyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar yn Gymraeg.
|
Technoleg Gwybodaeth |
Defnyddio'r we i gael ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lenyddiaeth wreiddiol. |
Rhifedd |
Casglu ac archwilio data o ran ansawdd a swm. Dehongli data. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Bydd myfyrwyr yn cael hyder yn eu gallu i werthuso problemau biolegol ac i asesu ansawdd yr atebion a gynigir. |
Sgiliau pwnc penodol |
Bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso pwysigrwydd micro-organebau mewn cylchu biogeocemegol a biotechnoleg, ac egluro sut y mae micro-organebau yn rhyngweithio gydag organebau eraill. Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio'r amrywiaeth o fodau byw ymhlith micro-organebau ewcaryotig a phrocaryotig. Bydd myfyrwyr yn caffael sgiliau allweddol o ran trin a thrafod sbesimenau microbiolegol. |