Cod y Modiwl CC22120  
Teitl y Modiwl CYLCH BYWYD DATBLYGIAD MEDDALWEDD  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Christopher J Price  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mr David J Smith  
Rhagofynion Ddim a'r gael i fyfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau gradd Cyfrifiadura i'r Rhyngrwyd yn unig, Llwyddo yng Nghyfrifiadureg Lefel 1 neu gael eithriad rhag y gofynion;  
Elfennau Anghymharus CS22420, CS22120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
  Eraill    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr - ddiwedd Semester 1  25%
Asesiad Semester Gwaith cwrs: Prosiect Grwp.75%
Arholiad Ailsefyll2 Awr - Nid oes cyfle Ailsefyll Allanol ar gyfer rhan y prosiect yn y modiwl hwn.25%
Further details http://www.aber.ac.uk/compsci/ModuleInfo/CC22120  

Canlyniadau dysgu

Prif ganlyniad dysgu'r modiwl hwn yw y dylai'r myfyriwr:

fedru cymryd rhan ym mhrosiect ar raddfa ddiwydiannol (A1)

cymhwyso elfennau cylchoedd bywyd meddalwedd, cyferbynnu ystod o fodelau cylch bywyd a dewis modelau addas ar gyfer ystod o brosiectau nodweddiadol; (A2)

cymhwyso gweithdrefnau ansawdd meddalwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth; (A1, A2)

defnyddio rheolaeth fersiwn a ffurfwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth; (A1, A2)

cynhyrchu'r posibiliadau allweddol yng nghylchoedd bywyd meddalwedd. (A1)

Disgrifiad cryno

Amcanion y cwrs darlithoedd yw yn gyntaf i gyflwyno i fyfyrwyr yr arferion traddodiadol gorau ar gyfer pennu, cynllunio, gweithredu, profi a gweithio systemau meddalwedd mawr; ac yn ail i ddarparu fframwaith ar gyfer y deunydd mwy manwl ar ddylunio a ddysgir ar gyrsiau eraill. Prosiect grwp yw'r gwaith ymarferol.

Bydd pob myfyriwr a fydd yn dilyn y modiwl hwn wedi ei g/chofrestru ar gynlluniau gradd Cyfrifiadura i'r Rhyngrwyd.

Modiwl hir a thenau. Ni fydd darlithoedd yn Semester 2.

Mae'r system fugeilio a thiwtorial gyffredinol ar gyfer myfyrwyr Lefel 2 Cyfrifiadura i'r Rhyngrwyd yn cael ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn anelu at gyflwyno i fyfyrwyr egwyddorion sylfaenol peirianneg meddalwedd a rhoi iddynt y profiad o ddatblygu system meddalwedd mewn tim. Yn benodol, mae'n anelu at:

gyflwyno i fyfyrwyr yr arferion gorau yng ngweithgareddau peirianneg rheoli prosiect, sicrhau ansawdd a chydymffurfio a safonau;
galluogi myfyrwyr i adnabod a gweithredu arferion addas ar gyfer pennu, cynllunio, profi a gweithio systemau meddalwedd mawr;
darparu fframwaith ar gyfer disgyblaeth peirianneg meddalwedd, gan gynnwys y deunydd mwy manwl ar ddylunio a ddysgir ar gyrsiau eraill;
cynnwys myfyrwyr yn natblygiad darn o feddalwedd sy'n cymharu mor agos a phosibl yn amgylchedd y brifysgol a'r amodau datblygu meddalwedd ym myd diwydiant.

Cynnwys

1. Cyflwyniad : 1 Ddarlith
Agwedd a goblygiadau'r peiriannydd proffesiynol. Meddalwedd fel arteffact peirianneg. Cyfatebiaethau rhwng meddalwedd a changhennau eraill peirianneg.

2. Cylch Bywyd Meddalwedd : 3 Darlith
Disgrifio camau ystod o gylchoedd bywyd meddalwedd (gan gynnwys y Rhaeadr, Prototeipio, Rhaglennu Eithafol a modelau Troell) a'r prif gynnyrch a'r gweithgareddau a gysylltir a phob cam. Gwella proses meddalwedd.

3. Rheoli Prosiect : 2 Ddarlith
Cynllunio ac amcangyfrif cost. Monitro cynnydd. Strwythur tim a rheoli tim.

4. Rheoli Ansawdd : 2 Ddarlith
Dilysu, cadarnhau a phrofi. Cynlluniau ansawdd. Hapfonitro, archwiliadau cod a mathau eraill o adolygu. Rol y gr'r sicrhau ansawdd. Safonau (rhyngwladol, cenedlaethol a lleol).

5. Rheoli Ffurfwedd : 2 Ddarlith
Llinellau sylfaen. Gweithdrefnau newid rheolaeth. Rheoli fersiwn. Offer meddalwedd i gefnogi rheoli ffurfwedd.

6. Peirianneg Gofynion : 2 Ddarlith
Safon yr IEEE ar gyfer manylion gofynion. Dilysu gofynion drwy brototeipio, er enghraifft. Diffygion yn yr ymagweddu traddodiadol tuag at ofynion. Cyflwyniad i achosion Defnydd UML.

7. Dylunio : 3 Darlith
Dylunio bras (pensaerniol) a dylunio manwl. Defnyddio haniaethu, celu gwybodaeth, dadelfennu swyddogaethol a hierarchaidd ar lefelau uwch na'r rhaglen unigol. Cynnwys dogfennau dylunio. Diagramau gwladol. Nodiannau UML perthnasol: pecynnau, diagramau cyfres a gweithgaredd, gwrthrychau gweithredol.

8. Gweithredu a chynnal : 2 Ddarlith
Dewis iaith. Trostorri. Dulliau cynnal. Proses cynnal. Ailffactora.

9. Profi : 1 Ddarlith
Profi strategaethau. Offer profi: dadansoddwyr statig a deinamig, harneisiau prawf a chynhyrchwyr data prawf, efelychyddio. Profi perfformiad. Profi atchwel. Dogfennau a hyfforddiant ar gyfer y defnyddiwr.

10. Dosbarthiadau Tiwtorial
Bydd dosbarth tiwtorial wythnosol yn gysylltiedig a'r cwrs hwn. Defnyddir y tiwtorial i drefnu gweithgareddau prosiect grwp ac i drafod materion peirianneg meddalwedd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC