Cod y Modiwl CY12220  
Teitl y Modiwl CYMRU: IAITH A DIWYLLIANT (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Huw M Edwards, Mrs Felicity Roberts  
Rhagofynion Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Elfennau Anghymharus CY10410 , CY10310 , CY10110 , CY10210  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr   
Asesiad Semester Traethodau: Traethawd 2,000 o eiriau 

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth eang o wahanol agweddau ar ddiwylliant yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif   a'r unfed ganrif ar hugain.   

2. Byddwch yn gallu trafod ar lafar ac yn ysgrifenedig nifer o wahanol bynciau sy'n berthnasol i Gymru gyfoes.

3. Byddwch yn gwybod sut mae gwneud ymchwil bersonol ar bwnc sy'n ymwneud â Chymru gyfoes.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn gwella safon Cymraeg myfyrwyr ail iaith trwy ganolbwyntio ar batrymau iaith bob dydd a'u hymarfer ac, ar yr un pryd, yn darparu gwybodaeth gefndirol iddynt am lenyddiaeth Gymraeg ac am sefydliadau sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a'i diwylliant. Edrychir ar bynciau megis y diwydiant llyfrau, y cyfryngau a'r celfyddydau yng Nghymru, ar sefydliadau megis yr Eisteddford a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac ar lenyddiaeth gyfoes (gan gynnwys llenyddiaeth boblogaidd).

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC