Cod y Modiwl CY33220  
Teitl y Modiwl DAFYDD AP GWILYM A'I GYFOESWYR  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Bleddyn O Huws  
Semester Semester 1  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith.  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Traethawd 3,000 o eiriau  30%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gyfarwydd â detholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a rhai o'i gyfoeswyr.

2. Byddant yn gallu diweddaru rhai cywyddau gan Ddafydd ap Gwilym i Gymraeg Diweddar.

3. Byddant yn gyfarwydd â hynt y gyfundrefn farddol yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

4. Byddant yn gwybod am y dylanwadau cyfandirol a fu ar y canu serch Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

5. Byddant yn gyfarwydd â thrafod crefft ac arddull y cywydd deuair hirion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn gynefin â phynciau technegol fel y gynghanedd a chrefft dyfalu.

6. Byddant yn gyfarwydd â'r ysgolheictod diweddaraf ym maes astudio'r Cywyddwyr a dylent fedru trafod barn ysgolheigion a beirniaid yn ddeallus.


Disgrifiad cryno

Astudiaeth o ganu Dafydd ap Gwilym a rhai o feirdd eraill y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC