Cod y Modiwl CY35320  
Teitl y Modiwl RHYDDIAITH TRI CHWARTER CANRIF, 1900-79  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Mihangel I Morgan  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester  70%
Asesiad Semester Traethawd30%
Arholiad Ailsefyll  100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod yn feirniadol y gweithiau llenyddol o'r cyfnod dan sylw gan ystyried elfennau megis syniadaeth/ideoleg, crefft, strwythur a pherthynas y testunau â'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac â mudiadau llenyddol rhyngwladol lle bo'r rheiny yn berthnasol.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r testunau llenyddol a astudir yng nghyd-destun hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod diweddar.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir mewn perthynas â safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fydd yn amcanu at ddangos holl gyfoeth ac ehangder amrywiol rhyddiaith Gymraeg o ddechrau's ugeinfed ganrif hyd 1979 (blwyddyn y Refferendwm cyntaf ar ddatganoli). Bydd y cwrs yn cloriannu cyfraniad nofelwyr, awduron storiau byrion, ysgrifau a llyfrau ffeithiol (cofiannau, hunangofiannau, llythyron, dyddiaduron ac ati) i lên yr ugeinfed ganrif ac yn olrhain dylanwdau hanesyddol ar eu gwaith.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Bydd y modiwl yn meithrin doniau'r myfyrwyr mewn perthynas ag adnabod ac ymdopi a anawsterau a phroblemau a gyfyd yn sgil darllen gweithiau llenyddol cymhleth ac amlhaenog eu hystyr.  
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio traehawd a darllenyn annibynnol.  
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr a fydd yn dilyn y modiwl hwn gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg gan ddefnyddio iaith raenus a chywir.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa  
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o'r berthynas rhwng hanes meddyliol, gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod dan sylw a'i gynnyrch mewn rhyddiaith.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC