Cod y Modiwl |
CY35620 |
Teitl y Modiwl |
Y GYMRAEG YN Y GWEITHLE |
Blwyddyn Academaidd |
2007/2008 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Bleddyn O Huws |
Semester |
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) |
Staff Eraill sy'n Cyfrannu |
Dr Rhisiart J Hincks, Dr Bleddyn O Huws |
Elfennau Anghymharus |
CY35120 , CY34220 |
Manylion y cyrsiau |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 awr o seminarau/tiwtorialau, awr yr un. |
|
Darlithoedd | 14 awr o ddarlithoedd; 4 gan BOH, 10 gan siaradwyr arbenigol o'r tu allan i'r adran. |
|
Eraill | 56 awr o brofiad gwaith allanol. |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | LLUNIO PORTFFOLIO | 100% |
Asesiad Ailsefyll | AILGYFLWYNO'R PORTFFOLIO Bydd yn rhaid ail-lunio ac ailgyflwyno'r portffolio oni fydd y myfyriwr yn llwyddo i ennill marc pasio y tro cyntaf. | 100% |
|
Bydd y modiwl yn ychwanegiad gwerthfawr at ddarpariaeth academaidd yr Adran ac yn fodd i ganolbwyntio meddyliau'r myfyrwyr ar y defnydd cynyddol a wneir o'r Gymraeg ym myd gwaith yng Nghymru. Bydd yn bont effeithiol rhwng y ddarlithfa a'r byd tu allan, ac yn rhoi i'r myfyrwyr brofiad ymarferol o weld yr iaith ar waith, gyda golwg ar eu cyfeirio at ymgymryd a swyddi gweinyddol ar ol graddio.
Datrys Problemau |
Elfen hanfodol o'r gwaith o baratoi ar gyfer y cyfnod o brofiad gwaith a hefyd o'r dyletswyddau a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd gofyn datrys problemau trwy gyd-drafod a rhannu profiadau. |
Sgiliau ymchwil |
Chwilio am ffynonellau printiedig ac ymchwilio i'r defynydd o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth, gan ymgyfarwyddo a^ ffynonellau gwybodaeth electronig. |
Cyfathrebu |
Cyfathrebu a^ chyd-weithwyr yn y gwahanol leoliadau gwaith.
Cyfathrebu yn ysgrifenedig yn y portffolio. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Adrodd a myfyrio'n feirniadol mewn seminar ar berfformaid unigol yn ystod ac ar o^l y cyfnod o brofiad gwaith ac adlewyrchu hynny wedyn yn y portffolio a asesir. |
Gwaith Tim |
Bydd gofyn ymddwyn fel aelod o di^m wrth weithio ar y cyd a^ gweddill aelodau'r dosbarth mewn cyflwyniad llafar a phwyllgor mewn seminar, ac a^ chyd-weithwyr yn y gweithle. |
Technoleg Gwybodaeth |
Ygyfarwyddo a^ safleoedd perthnasol ar y we a'r meddalwedd a ddefnyddir gan weinyddwyr Cymraeg eu hiaith. Prosesu geiriau wrth baratoi'r portffolio. |
Rhifedd |
Gall hyn fod yn rhan o brofiad y myfyriwr yn y gweithle lle y bydd yn treulio ei gyfnod o brofiad gwaith ynddo, ond mae'n dibynnu'n hollol ar natur y gweithle. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Mae'r cwrs hwn yn ei gynnig ei hun ar gyfer y myfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Disgwylir i bob myfyriwr lunio CV a'i gynnwys yn ei bortffolio a asesir. |