Cod y Modiwl DA11910  
Teitl y Modiwl TIWTORIAL DAEARYDDIAETH LEFEL 1  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Sarah J Davies  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Tamsin E C Davies, Dr Rhys A Jones  
Cyd-Ofynion Dylai myfyrwyr fod yn cymryd o leiaf 30 credyd o blith modiwlau Daearyddiaeth Lefel 1 (GG/DA)  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   11 hrs  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Gwaith Cwrs: 60% Traethodau; 40% Aseiniadau.  100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Amcanion
Mae tri nod penodol gan y modiwl. Yn gyntaf, bod yn ffynhonnell i gyswllt clos yn y gwaith, ac fel hyn gall ddelio'n effeithiol a phroblemau academaidd a phroblemau bugeiliol cyffredinol sy'n wynebu myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, mae Modiwl Tiwtorial mewn Daearyddiaeth yn tynnu allan y themau sy'n rhedeg drwy'r Ddaearyddiaeth sy'n cael ei thrafod yn lefel 1. Yn drydydd, bydd yn ymwneud a sgiliau astudio diffiniedig, fel y gall myfyrwyr ymdopi a gofynion sylfaenol astudiaeth academaidd, datblygu sgiliau trosglwyddadwy, a manteisio'n llawn ar y posibiliadau a gynigir trwy'n rhaglen.

Y mae presenoldeb yn y dosbarthiadau yn orfodol, ac hefyd y mae'n orfodol cyflwyno'r gwaith erbyn y dyddiad a osodir gan y tiwtor. Dylid cytuno ar unrhyw absenoldeb ymlaen llaw gyda'r tiwtor, a rhoi gwybod i'r tiwtor yn syth am ynrhyw achos o salwch. Cosbir unrhyw fyfyriwr sy'n absennol heb eglurhad. Gosodir cosbau penodol am gyflwyno aseiniadau'n hwyr heb reswm da, fel a nodir yn y Llawlyfr Daearyddiaeth.

Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr fod yn gallu:


Nod

Cynlluniwyd y modiwl tiwtorial yn fodiwl sy'n helpu myfyrwyr sy'n cymryd o leiaf 30 credyd o fodiwlau Daearyddiaeth. Fe fydd yn sylfaen i gael arolygaeth glos a rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

Cynnwys

Y mae'r cyrsiau craidd mewn Daearyddiaeth yn cynnwys cwr i'w asesu o ddosbarthiadau tiwtorial, sy'n cael eu harwain gan diwtoriaid personol academaidd. Rhennir y myfyrwyr yn grwpiau bach o tua pump o fyfyrwyr. Trwy'r dull hwn o astudio y mae sgiliau personol yn cael eu datblygu, mae uchelgais gyrfa yn cael ei hystyried, ac mae'r drafodaeth academaidd yn troi o gwmpas maes llafur penodol. Bydd y gwaith academaidd yn y modiwl Tiwtorial Lefel 1 yn edrych ar themau sy'n deillio o'r pynciau a drafodir yng ngweddill modiwlau Daearyddiaeth y flwyddyn gyntaf, a thrwy ymchwiliad o'r fath bydd cyfres o sgiliau astudio academaidd yn cael eu datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cynllunio gwaith a gosod targedau academaidd a phersonol;

Dysgu i ddefnyddio'r llyfrgell a chreu rhaglen ddarllen effeithiol; dulliau cymryd nodiadau, cydnabod ffynonellau a pharatoi llyfryddiaeth;

Casglu, dadansoddi a dehongli data;

Techneg ysgrifennu traethawd Daearyddiaeth a thechneg arholiad (caiff myfyrwyr eu cyflwyno i sgiliau ysgrifennu da a'r meini prawf a ddefnyddir wrth asesu gwaith ysgrifenedig).

Datblygir ac asesir y sgiliau astudio hyn trwy ddau aseiniad cryno. Yn y semester cyntaf, er enghraifft, gallai hyn gynnwys sgiliau Llyfrgell; yn yr ail semester gellid canolbwyntio ar sgiliau ymchwil wrth gasglu ac adrodd ar ddata maes eilyddol neu leol. Defnyddir marciau'r ddau aseiniad ar gyfer yr asesiad terfynol. Ar ben hyn, rhaid cyflwyno o leiaf pedwar traethawd yn ol cais y tiwtor, a bydd marciau tri ohonynt yn cael eu defnyddio yn yr asesiad terfynol. Bydd pynciau'r traethodau'n amrywio.   Mae'r traethodau'n ffurfiannol ac yn gyfansoddol, a dylai myfyrwyr ddisgwyl amateb ac adborth gan y tiwtor ar ol cyflwyno pob darn o waith, ynghyd ag awgrymiadau ar sut i wella traethodau yn y dyfodol.

Y mae'r modiwl tiwtorial yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael yn uniongyrchol a'r gwaith dysgu, i gyfrannu i'r drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eu gwaith mewn grwpiau bach. Ochr yn ochr a'r rol academaidd, gall y trafodaethau gynnwys pynciau fel creu CV, a gyrfaoedd. Bydd barn y tiwtor am berfformiad y myfyriwr yn ei grynswth dros y rhaglen gyfan yn elfen fach o asesiad terfynol y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC