Cod y Modiwl DA22510  
Teitl y Modiwl GEOMORFFOLEG AFONOL  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Aled P Rowlands  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Paul A Brewer, Mr Hywel Meilyr Griffiths  
Elfennau Anghymharus GG22510  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 lectures x 2 hours  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG ateb 2 gwestiwn allan o 4.100%
Arholiad Ailsefyll2 Awr AILSEFYLL ARHOLIAD Fformat yn union yr un peth i'r arholiad semestr. 100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.

Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.

Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i goblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.

Cynnwys

Fe drafodir y themâu canlynol yn ystod darlithoedd y modiwl.

Trwy gydol y modiwl, ehangir y themâu a gyflwynwyd yn ystod modiwl Amgylcheddau Wyneb y Ddaear / Earth Surface Processes: cydberthynas proses a thirffurf, ymateb prosesau, cyfantoledd a throthwyon.   Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar y cydgysylltedd rhwng y systemau amrywiol o brosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Dim  
Sgiliau ymchwil Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig.  
Cyfathrebu Dim  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig.  
Gwaith Tim Dim  
Technoleg Gwybodaeth Dim  
Rhifedd Dim  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dim  
Sgiliau pwnc penodol Dim  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Brookes, A. (1988) Channellised Rivers: Perspectives for environmental management
Downs, P.W. and Gregory, K.J. (2004) River Channel Management Arnold
Knighton, D. (1998) Fluvial Forms and Processes Arnold
Petts, G. and Foster, I. (1985) Rivers and Landscape Arnold
Robert, A. (2003) River Processes Arnold
Selby, M.J. (1993) Hillslope Materials and Processes 2nd Edition.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC