Cod y Modiwl DA25720  
Teitl y Modiwl DAEARYDDIAETHAU CYFALAFIETH HWYR  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys A Jones  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Gareth C Hoskins, Dr Tamsin E C Davies  
Elfennau Anghymharus gg25610  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 x 2 hours  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 x 2 hours  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar lle mae disgwyl i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol.  20%
Asesiad Semester Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau  30%
Arholiad Ailsefyll2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar.  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar pryd y disgwylir i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol.  20%
Asesiad Ailsefyll Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau.  30%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
  1. Dangos eu bod yn deall y newidiadau allweddol sy'n digwydd o fewn daearyddiaeth y gyfalafiaeth gyfoes gan ganolbwyntio'n benodol ar ranbarthau Gorllewin Ewrop a Gogledd America.   
  2. Gwerthuso'n feirniadol rhai ymdriniaethau damcaniaethol cyfoes ar ddaearyddiaeth y newidiadau economaidd, gwleidyddol, dinesig a diwylliannol.   
  3. Integreiddio'r ymdriniaethau damcaniaethol hyn â dehongliadau o brosesau empirig "gweladwy" mewn gwahanol ofodau dinesig, rhanbarthol a chenedlaethol o fewn cyfalafiaeth "orllewinol".
  4. Dangos tystiolaeth o ddyfnder eu darllen, eu gallu i ddehongli a gwerthuso arfer academaidd a pholisiau cyfredol drwy drefnu trafodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig.   

Cynnwys

Darlith 1   Cyflwyniad
Darlith 2   Ailstrwythuro Economaidd: Cysyniadu Newid
Darlith 3   Roger a mi
Darlith 4   Cyfalafiaethau Amgen?
Darlith 5   Ymgorffori Cyfalafiaeth? Nwyddau, Cylchdroadau a 'Cyborgs'
Darlith 6   Cyflwyno Cyfalafiaeth?   Tai, Iechyd, Addysg
Darlith 7   Daearyddiaethau Dinesig Newydd? Y Ddinas Entreprenwraidd
Darlith 8   Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd? Newidiadau yn y wladwriaeth
Darlith 9   Ystyried y Drefn Lywodraethol
Darlith 10   Ymfudo a Dinasyddiaeth
Darlith 11   Arolwg a Strategaethau Arholiad

6 Seminar yn dilyn darlithiau 1, 3, 5, 7, 9 a 10

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn cyflwynir myfyrwyr i themâu allweddol daearyddiaeth economaidd gyfoes. Mae'n archwilio'r newidiadau allweddol sy'n digwydd o fewn economi gofod cyfalafol cyfoes a'r drefn wleidyddol a chymdeithasol gysylltiedig. Yn benodol, mae'n archwilio'r prosesau sy'n cynnal ac yn siglo cyfalafiaeth a sut y mae daearyddiaeth yn gysylltiedig â chyfalafiaeth - o'r raddfa fyd-eang i'r corff. Wrth drafod y themâu hyn, mae'r modiwl yn cyflwyno sawl fframwaith damcaniaethol sy'n galluogi myfyrwyr i ystyried daearyddiaeth y newidiadau allweddol cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. O blith y themâu penodol a drafodir mewn darlithiau y mae ailstrwythuro economaidd, cyfalafiaeth amgen, ymgorffori cyfalafiaeth, daearyddiaethau dinesig newydd, daearyddiaethau llywodraethu ac ymfudo a dinasyddiaeth. Yn ogystal â darlithiau ar y themâu hyn, bydd y myfyrwyr hefyd yn mynychu chwe seminar lle byddant yn trafod yn fanylach themâu allweddol sy'n codi o'r darlithiau.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Bydd datrys problemau yn cael rhywfaint o sylw anuniongyrchol o ganlyniad i gynnwys y darlithiau ond ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl.  
Sgiliau ymchwil Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil drwy gasglu deunydd o'r llyfrgell a'r rhyngrwyd wrth baratoi ar gyfer y seminarau.  
Cyfathrebu Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu a'u hasesu yn y seminarau, a'r sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr arholiad.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dylai myfyrwyr ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn drwy neilltuo amser rhydd i ddarllen a pharatoi ar gyfer arholiadau. Nid yw'n cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl.  
Gwaith Tim Nis datblygir yn y modiwl hwn.  
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at ddeunydd o'r rhyngrwyd wrth iddynt baratoi am y seminar.  
Rhifedd Nis datblygir yn y modiwl hwn  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn. Gall cynnwys y darlithiau a'r darllen annog myfyrwyr yn anuniongyrchol i ystyried eu syniadau a'u safbwyntiau, ac i rai gall arwain at lwybr gyrfa posibl efallai.  
Sgiliau pwnc penodol Nodwyd y rhain yn Adran B.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Amin, A. (1994) Post Fordism: A Reader. Blackwell (Oxford)
Barnes, T., Peck, J., Sheppard, E. and Tickell, A. (2004) Reading Economic Geography Blackwell (Oxford)
Danziger, D. (1997) Danziger's Britain: A Journey to the Edge. Flamingo: London
Harvey, D. (1973) Social Justice and the City. Edward Arnold, London.
Harvey, D. (1982) The Limits to Capital The University of Chicago Press, Chicago.
Harvey, D. (1989) The condition of postmodernity. Blackwell, London
Hudson and Williams (1995) Divided Britain Wiley, Chichester
Hutton, W. (1996) The State We¿re In Vintage: London
Hutton, W. and Giddens, A. (2000) On the Edge: Living with Global Capitalism Jonathan Cape, London
Johnstone, C and Whitehead, M. (2004) New Horizons in British Urban Policy. Ashgate, Aldershot.
Johnstone, C and Whitehead, M. (2004) New Horizons in British Urban Policy. Ashgate.
Marx, K. (1999 (1867)) Capital Oxford University Press: Oxford
Massey, D. (1984) Spatial Divisions of Labour: Social Structure and the Geographies of Production Methuen, London
McDowell, L. (1997) Capital Culture Blackwell (Oxford)
Mitchell, D. (2003) The Right to the City The Guildford Press, New York
Mohan, J. (1999) A United Kingdom? Economic, Social and Political Geographies. Arnold, London.
Pinch, S. (1996) Worlds of Welfare: Understanding the Changing Geographies of Social Welfare Provision Routledge, London
Shepard, E. and Barnes, T. (ed) (2000) A Companion to Economic Geography Blackwell (Oxford)
Sorkin, M. (1992) Variations on a Theme Park: The New American City and the Right to Public Space New York Hill and Wang
Thrift, N. (2004) Knowing Capitalism Sage, London

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC