Cod y Modiwl DA28420  
Teitl y Modiwl DAEARYDDIAETH WLEIDYDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys A Jones  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Michael J Woods  
Elfennau Anghymharus GG28310  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 2 hours  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 x 2 hours seminars  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar lle mae disgwyl i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol.  20%
Asesiad Semester Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn rhoi cryn ystyriaeth i themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau  30%
Arholiad Ailsefyll2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar.  50%
Asesiad Ailsefyll Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau.  30%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar pryd y disgwylir i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol.  20%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
  1. Trafod pynciau allweddol daearyddiaeth wleidyddol yn feirniadol
  2. Disgrifio, defnyddio ac asesu'n feirniadol ystod o gysyniadau daearyddiaeth wleidyddol arwyddocaol   
  3. Disgrifio ac asesu'n feirniadol nifer o ddigwyddiadau a phrosesau gwleidyddol cyfoes
  4. Defnyddio tystiolaeth addas i gefnogi trafodaethau ar bynciau penodol mewn daearyddiaeth wleidyddol   
  5. Dangos tystiolaeth o ddyfnder eu darllen, a'u gallu i ddehongli a gwerthuso arfer academaidd a pholisiau cyfredol drwy drefnu trafodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig

Cynnwys

ADRAN 1: GOFOD, GRADDFA, TIRIOGAETH A'R WLADWRIAETH
1. Geowleidyddiaeth ac esblygiad Daearyddiaeth Wleidyddol
2. Yr Ymerodraeth ac Imperialaeth
3. Y Wladwriaeth a Thiriogaeth
4. Cenhedloedd a Chenedlaetholdeb
5. Yr Her i Wladwriaeth-Genedl y DU I: Integreiddio Ewropeaidd
6. Yr Her i Wladwriaeth-Genedl y DU II: Datganoli a Rhanbartholdeb
7. Tirweddau Grym
ADRAN 2: LLE, POBL A GWLEIDYDDIAETH
8. Dadlau ynghylch Lle
9. Dinasyddiaeth a Chyfranogi
10. Daearyddiaethau Etholiadol

6 seminar yn dilyn darlithiau 1,2,4,6,8 a 10

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn cyflwynir myfyrwyr i themâu allweddol daearyddiaeth wleidyddol gyfoes. Mae'r modiwl wedi ei rannu yn ddwy adran. Mae'r adran gyntaf yn archwilio dylanwad gofod a thiriogaeth ar ffurfiant y wladwriaeth , strategaeth y wladwriaeth a nodweddion gwleidyddol ar amrywiol raddfeydd, o'r byd-eang i'r lleol. Mae'r adran hon yn cyflwyno cysyniadau am genedl a gwladwriaeth-genedl, imperialaeth, geowleidyddiaeth feirniadol a'r rhanbarth, yn ogystal ag ymchwilio i faterion cyfoes megis integreiddio Ewropeaidd, datganoli a chenedlaetholdeb yn y DU a threfn y byd ôl-9/11. Mae ail adran y modiwl yn astudio'r berthynas rhwng lle, pobl a gweithredoedd gwleidyddol gan gynnwys patrymau pleidleisio, gwrthdystio a dinasyddiaeth fywiog. Yn y modiwl cyflwynir cysyniadau megis dinasyddiaeth, cyfalaf cymdeithasol a symudiadau cymdeithasol a thrafodir materion cyfoes gan gynnwys symudiadau amgylcheddol a gwrth-globaleiddio a chanlyniadau etholiadau cyffredinol diweddar Prydain. Yn ogystal â darlithiau ar y themâu hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn mynychu chwe seminar lle byddant yn trafod yn ddyfnach themâu allweddol sy'n codi o'r darlithiau.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Bydd datrys problemau yn cael rhywfaint o sylw anuniongyrchol o ganlyniad i gynnwys y darlithiau ond ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl..  
Sgiliau ymchwil Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil drwy gasglu deunydd o'r llyfrgell a'r rhyngrwyd wrth baratoi ar gyfer y seminarau.  
Cyfathrebu Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu a'u hasesu yn y seminarau, a'r sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr arholiad.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dylai myfyrwyr ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn drwy neilltuo amser rhydd i ddarllen a pharatoi ar gyfer arholiadau. Nid yw'n cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl.  
Gwaith Tim Nis datblygir yn y modiwl hwn.  
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at ddeunydd o'r rhyngrwyd wrth iddynt baratoi am y seminar.  
Rhifedd Nis datblygir yn y modiwl hwn  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn. Gall cynnwys y darlithiau a'r darllen annog myfyrwyr yn anuniongyrchol i ystyried eu syniadau a'u safbwyntiau, ac i rai gall arwain at lwybr gyrfa posibl efallai.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
Jones, M., Jones, R., and Woods, M. (2004) An Introduction to Political Geography Routledge
** Testun A Argymhellwyd
Heffernan, M. (1998) The Meaning of Europe Chapters 2 & 4.
Pattie, C., Johnston, R., Dorling, D., Rossiter, D., Tunstall, H. & MacAllister, I. (1997) Area New Labour, new geography? The electoral geography of the 1997 British General Election 29, 253-259..
** Testun Ychwanegol Atodol
Braden, K E & Shelley, F M. (2000) Engaging Geopolitics
Harvey, D. (1979) Annals of the Association of American Geographers Monument and Myth. 69, 362-81.
Lowndes, V. in D Judge, G Stoker & H Wolman (eds) (1995) Theories of Urban Politics. Citizenship and urban politics
O'Tuathail, G. (1996) Critical Geopolitics.
O'Tuathail, G., Dalby, S., and Routledge, P. (1997) The Geopolitics Reader.
Routledge, P. (1997) Transactions of the Institute of British Geographers The imagineering of resistance: Pollock Free State and the practice of postmodern politics 22, 359-376..
Taylor, P & Flint, C. (2000) Political Geography Prentice Hall
Toal, G. (2003) Political Geography Re-asserting the regional: political geography and geopolitics in a world thinly known 22(6), 653-655.
Zukin, S. (1991) Landscapes of Power: from Detroit to Disneyworld. Berkeley: University of California Press

Cyfnodolyns
Kearns, A J (1992) Transactions of the IBG Active citizenship and urban governance. 17, 20-34..

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC