Cod y Modiwl |
DA39630 |
Teitl y Modiwl |
TRAETHAWD ESTYNEDIG DAEARYDDIAETH DDYNOL |
Blwyddyn Academaidd |
2007/2008 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Henry F Lamb |
Semester |
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) |
Rhagofynion |
GG27720 |
Elfennau Anghymharus |
DA39210 , GG36930 , GG39210 , GG39130 , DA39130 |
Manylion y cyrsiau |
Seminarau / Tiwtorialau | Tri dosbarth tiwtorial unigol - un i drafod y data a gasglwyd a strategaethau ar gyfer dadansoddi, un i drafod strwythur adroddiad terfynol y traethawd estynedig; ac un i drafod drafft o'r adroddiad |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | Adroddiad interim o oddeutu 2,000 o eiriau yn cyflwyno a chrynhoi data a gesglir. Iw gyflwyno yn wythnos 3 o semester 1. | 25% |
Asesiad Semester | Adroddiad terfynol ar brosiect y traethawd estynedig o oddeutu 10,000 o eiriau. Iw gyflwyno yn wythnos 6 o semester 2. | 75% |
Asesiad Ailsefyll | Mae ailsefyll arholiad neu waith cwrs nas cwblhawyd am resymau a ganiatawyd (rhesymau meddygol) yn golygu cwblhaur elfen(nau) coll ar gyfer yr amrediad llawn o farciau ar y dyddiadau a osodir yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Mae ailsefyll oherwydd methur asesiad yn llwyr neun rannol yn gofyn am arholi pob elfen eto os cafwyd marciau o <40% yn y ddau, neu ailarholi neu ailgyflwynor elfen a fethwyd (arholi aseiniad(au) i sicrhau uchafswm o 40% o farciau ar gyfer y modiwl). | |
|
Datrys Problemau |
Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data. |
Sgiliau ymchwil |
Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil. |
Cyfathrebu |
Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad o 10,000 o eiriau (a asesir). Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafod yr ymchwil mewn dosbarthiadau tiwtorial (nas asesir); a gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn nhrafodaethau'r dosbarthiadau tiwtorial. |
Technoleg Gwybodaeth |
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol), ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio). |
Rhifedd |
Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Ni fydd sgiliau datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn cael eu datblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn; serch hynny, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn hynod drosglwyddadwy i ystod eang o yrfaoedd. |