DEALL SUT Y MAE TREFN Y GOFOD YN CYFRANNU AT YSTYR UNRHYW DDIGWYDDIAD THEATRAIDD
ARDDANGOS DEALLTWRIAETH O BWYSIGRWYDD Y DIMENSIWN GOFODOL YN HANES Y THEATR I SAFON FODDHAOL TRWY GREU CYFLWYNIAD GRWP YMARFEROL
CYD-WEITHIO MEWN GRWP AT NOD A BENNIR GAN Y GRWP
YMATEB YN GREADIGOL I BOTENSIAL Y GOFOD A DDEWISIR GANDDYNT WRTH LUNIO CYFLWYNIAD YMARFEROL UNIGOL
DETHOL DULLIAU GWELEDOL A CHLYWEDOL SY'N GYMWYS AR GYFER Y CYFLWYNIAD A GREIR
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn archwilio hanes y theatr orllewinol ac yn trafod y berthynas rhwng trefniant gofodol neu bensaerniaeth y theatr ac agweddau ar athroniaeth, celfyddyd a gwerthoedd diwylliannol y gwahanol gyfnodau dan sylw. Damcaniaeth sylfaenol y modiwl yw fod ffurf y theatr drwy'r oesoedd yn cynnig allwedd inni ddeall dehongliad yr oes honno o natur yr unigolyn, a bod y theatr felly'n gweithredu fel math ar 'beiriant' sy'n ein galluogi i ganfod ymwybyddiaeth yr oes.
Agwedd bwysig arall ar y modiwl hwn yw ei fod yn cymell myfyrwyr i ystyried y theatr fel cyfrwng gweledol a chorfforol yn hytrach nag fel ffurf ar lenyddiaeth. Yn hytrach na dehongli'r theatr fel ffurf a greir trwy drosglwyddo gweledigaeth dramodydd yn gnawd ar lwyfan, ystyrir theatr fel cyfres o berthnasau gofodol a brofir yn synhwyrusol, a dadleuir bod y profiad o synhwyro gofod yn cymell gweledigaeth a phosibiliadau dramataidd.
Cynnwys
Trefn Arfaethedig y Darlithoedd
Cyflwyniad: Gofod a'r Corff
Ffurfiant y Gofod Theatraidd: Defodau a Dramau Gwerin
Y Theatr Roegaidd
Dulliau Theatraidd yr Oesoedd Canol
Y Theatr Shakespearaidd
Y Theatr Broseniwm: o'r Dadeni i Feloddrama a Naturiolaeth
Y Dylunydd fel Gweledydd: Richard Wagner ac Adolphe Appia
Y Dylunydd fel Peiriannydd: Edward Gordon Craig
Chwalfa: Artaud a'r Ystafell Wag
Y Safle: Gwaith Brith Gof
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
Artaud, Antonin (1994) Antonin Artaud and the Modern Theatre (gol. Gene A Plunka)
Farleigh Dickinson University Press
Artaud, Antonin (1970) The Theatre and its Double (cyf. Victor Corti)
Calder and Boyars
Beacham, Richard C Adolphe Appia: Artist and Visionary of the Modern Theatre
Harwood Academic P
Craig, Edward Gordon (1983) Craig on Theatre yn J. Michael Walton (gol.)
Methuen
Gurr, Andrew (1992) The Shakespearian Stage 1574-1642
3rd. Cambridge University Press
Harris, John Wesley (1992) Medieval Theatre in Context: An Introduction
Routledge
Innes, Christopher (1983) Edward Gordon Craig
Cambridge University Press
McLucas, Clifford a Pearson, Mike (1995) Brith Gof: y Llyfr Glas:1988-1995
Brith Gof
Meirer, Christian (1993) The Political Art of Greek Tragedy
Polity
Pearson, Mike (1997) 'Special Worlds, Secret Maps: a Poetics of Performance' yn Staging Wales gol. Anna Marie Taylor
Gwasg Prifysgol Cymru
Vince, Roald W (1984) Ancient and Medieval Theatre: A Histriographical Handbook
Greenwood Press
Volbach, Walther (1968) Adolphe Appia, Prophet of the Modern theatre
Wesleyan University Press
Winkler, John J, Zeitlin, a Froma, I (gols.) (1990) Nothing to do with Dionysos?: Athenian Drama in its Social Context
Princeton University Press