Cod y Modiwl | DD21610 | ||
Teitl y Modiwl | ASTUDIAETHAU YMARFEROL MEWN ACTIO: REALAITH SEICOLEGOL | ||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Charmian C Savill | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Roger Owen | ||
Rhagofynion | Rhaid cwblhau Drama/Astudiaethau Theatr Rhan 1 yn llwyddiannus | ||
Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | Dosbarthiadau ymarferol 1 x 3 awr yr wythnos |
1. Y Cyflwr Creadigol
2. Cof y Cyhyrau
3. Tempo-Rhythm
4. Unedau a Nodau
5. Dadansoddi Testun
6. Trefnu Golygfa
7. Yr Is-Destun a'r Is-Ymwybod
8. Dilyniant Emosiynol
9. Arholiad Ymarferol
Datrys Problemau | Fe fydd y modiwl yn cymell myfyrwyr i ddatrys problemau creadigol, gan ganfod allbynau a chanlyniadau i'w gweithredu, ynghyd a'r strategaethau priodol ar gyfer cyrraedd nodau a benir ganddynt hwy eu hunain. | ||
Sgiliau ymchwil | Fe fydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau ymchwil wrth baratoi eu gwaith asesiedig e.e. ymchwilio i gefndir bywgraffiadol a gweithiau cyd-destunol gan awduron, archwilio a dadansoddi cyd-destun eu gweledigaeth yn y ddrama osod, cymharu methodoleg ymarfer a.y.b. Er bod y sgiliau hyn yn bwysig i lwyddiant y myfyrwyr, nid asesir hwy'n ffurfiol fel rhan o'r modiwl. | ||
Cyfathrebu | Fe ddatblygir ac asesir gallu'r myfyrwyr i wyntyllu, datblygu a chyflwyno eu syniadau eu hunain trwy gydol y modiwl. | ||
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae hun-asesu a gwerthuso cyrhaeddiad yn gynhenid bwysig i'r astudiaeth theoretig ac ymarferol hon o grefft actio. Gesyd y modiwl bwyslais ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad y myfyrwyr yn y sesiynau dysgu ac fe roddir adborth iddynt yn gyson wrth ymgymryd a gwaith dosbarth ac aseinidau. | ||
Gwaith Tim | Fe drafodir agweddau weithio fel tim yn ystod y modiwl, ac mae disgyblaeth a chydweithio creadigol yn allweddol bwysig i lwyddiant y sesiynau dysgu. Nid asesir gwaith tim yn neilltuol fel rhan o'r modiwl, fodd bynnag. | ||
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl yn annog myfyrwyr i ddechrau datblygu sgiliau a fydd yn bwysig wrth geisio am swyddi o fewn y diwydiant theatr/perfformio. | ||
Sgiliau pwnc penodol | Mae ystyriaeth fanwl o grefft a disgyblaeth actio a pherfformio yn ganolog i ddarpariaeth Ddrama'r Adran, ac yn hwyluso sawl agwedd arall ar astudiaethau'r myfyrwyr. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC