1. arddangos mestrolaeth sylfaenol o'r sgiliau technegol a ddysgwyd wrth ddewis maes arbenigol (e.e. dylunio sain, goleuo, gwisg neu set)
2. arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng gwahanol fathau o waith dylunio a gwahanol ddigwyddiadau theatraidd
3. cymhwyso'u gwybodaeth o egwyddorion y broses o ddylunio er mwyn trafod testunau dramataidd a chynyrchiadau theatraidd yn fwy awdurdodol
4. creu cofnod o'r gwahanol brosesau ymarferol a'r posibiliadau creadigol sy'n gysylltiedig a digwyddiad theatraidd neilltuol
| Datrys Problemau |
Un o¿r medrau pwysicaf i¿w ddatblygu yn ystod y modiwl hwn fydd gallu¿r myfyrwyr i ddychmygu a sylweddoli canlyniadau ymarferol a thechnegol eu hymateb creadigol i destun dramataidd a pherfformiad llwyfan. Yn hynny o beth, fe fydd datrys problemau yn ganolog i¿r modiwl ac i¿w aseiniadau. |
| Sgiliau ymchwil |
Pwysleisir gallu'r myfyrwyr i ddatblygu ystod eang o wahanol fathau o ddeunydd mewn ymateb i¿r testun neu'r perfformiad y dewisir ei drafod. Fe fydd ymchwilio i'r testun/perfformiad hwn, ynghyd â chael deunydd enghreifftiol priodol, yn elfennau pwysig o waith y myfyrwyr felly. |
| Cyfathrebu |
Un o elfennau canolog y modiwl hwn fydd creu a darganfod ffyrdd o gyflwyno ymateb i waith creadigol trwy ddulliau gweledol a chlywedol cymharol anghyfarwydd. O ran hynny, ac o ran yr angen i son am y profiad o ddatblygu¿r deunydd ymarferol hwn mewn llawlyfr nodiadau a thraethawd, fe fydd pwyslais pendant ar ddatblygu medrau cyfathrebu yn ystod y modiwl. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Modiwl rhagarweiniol i faes dylunio fydd hwn, ac felly ni ddatblygir y sgiliau hyn yn neilltuol ag eithrio trwy gyflwyno profiadau a gwybodaeth dechnegol newydd a fydd yn ddefnyddiol i¿r myfyrwyr wrth gwblhau¿r modiwl hwn a modiwlau ymarferol eraill. |
| Gwaith Tim |
Fe fydd y modiwl yn canolbwyntio ar allu¿r myfyrwyr i ddatblygu syniadau ac ymatebion unigol i¿r testun/ perfformiad canolog, ac felly ni ddatblygir sgiliau neilltuol o ran gweithio mewn grwpiau yma. Fodd bynnag, fe fydd y profiad o wylio grwpiau eraill o fyfyrwyr ar waith a thrafod y gwaith hynny yn cymell y myfyrwyr i sylwi¿n fanwl ar natur gydweithredol cynhyrchiad theatraidd. |
| Technoleg Gwybodaeth |
Ni ddatblygir y medrau hyn fel rhan o¿r modiwl. |
| Rhifedd |
Ni ddatblygir y medrau hyn fel rhan o¿r modiwl. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Fe all y gwaith ymarferol a gyflawnir yn y modiwl hwn gyfri fel cam cyntaf tuag greu portffolio o brofiadau ac enghreifftiau o waith ymarferol i¿r myfyrwyr hynny a fydd yn ymddiddori mewn dylunio ar gyfer y theatr fel gyrfa. Fodd bynnag, ni ddatblygir y medrau hyn yn ffurfiol fel rhan o¿r modiwl. |
| Sgiliau pwnc penodol |
Medrau penodol yn ymwneud â sgiliau technegol arbenigol (e.e. mewn dylunio gwaith sain, goleuo, gwisg neu set ar gyfer y theatr). |