Cod y Modiwl DD25910  
Teitl y Modiwl THEATR MEWN ADDYSG: RHAN 1  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   Darlith 1 x 1 awr yr wythnos  
  Dadansoddi Llwyth Gwaith   Dosbarth Ymarferol 1 x 2 awr yr wythnos  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Dyfeisio dernyn ymarferol o waith Theatr-Mewn-Addysg. Fe fydd thema'r gwaith hwn a'r nodau dysgu yn cael eu cyflwyno gan diwtor y modiwl.  50%
Asesiad Semester Traethawd (2500 o eiriau) Ystyriaeth a dadansoddiad o rol ThMA fel theatr ac fel cyfrwng addysgu, fel y trafodwyd yn ystod y modiwl.  50%
Asesiad Ailsefyll Dyfeisio cynllun unigol ar gyfer dernyn ymarferol o waith ThMA. Fe fydd thema'r gwaith hwn a'r nodau dysgu yn cael eu cyflwyno gan diwtor y modiwl. 
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2500 o eiriau) Darperir teitl newydd ar ddechrau'r modiwl   

Nod

Fe fydd y modiwl hwn, trwy ddulliau ymarferol a theoretig, yn caniatau i'r myfyrwyr ddarganfod ac archwilio'r technegau a'r methodolegau arbenigol sy'n berthnasol i'r gangen hon o Astudiaethau Theatr. Fe fydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i hanes Theatr-mewn-Addysg, o'i ddechreubwynt fel amrawf yng Nghofentri yn y 1960au hyd at y presennol. Fe fydd y modiwl yn olrhain achau gwahanol fathau o Theatr-mewn-Addysg ac yn galluogi myfyrwyr, trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai, i archwilio'r strwythurau a'r cyd-destunau amrywiol sy'n berthnasol i'r pwnc. Er mwyn hyrwyddo a datblygu'r astudiaethau hyn, disgwylir i'r myfyrwyr ymweld a chwmniau Theatr-mewn-Addysg er mwyn arsylwi ar eu gwaith ac i fynychu'r dangosiadau DVD/fideo a ddarperir er mwyn deall y cymhlethdodau a'r man-wahaniaethau a geir o fewn y math hwn ar theatr (er enghraifft, wrth weithio yn y sector iechyd mewn carchardai neu gyda'r gwasanaeth prawf).

Cynnwys

Cynnwys Arfaethedig: Fe fydd y darlithoedd, seminarau a gweithdai yn cyfeirio at y pynciau canlynol:

Darlithoedd (10 i gyd)

1. Hanes a Theori ThMA

2. Swyddogaeth yr Hyrwyddwr a'r Perfformiwr mewn ThMA

3. ThMA Cyfranogol ('Participatory')

4. ThMA yng Nghymru, Prydain a thu hwnt

5. Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol mewn ThMA

6. Materion cyfredol mewn ThMA: yr Awdurdodau Lleol, cwricwlwm a phrofion addysg

7. ThMA a datblygiad y plentyn

8. Y Cwricwlwm Cenedlaethol a'i effaith ar ThMA

9. Rhedeg cwmni ThMA a theithio i ysgolion

10. Canghennau ymarferol cysylltiedig: theatr yn y sector iechyd, mewn carchardai ac yn y gwasanaeth prawf

Gweithdai (10 i gyd)

1. Diffiniadau a Chyd-destunau: ThMA fel cyfrwng addysgu a'r ysgol fel lleoliad perfformio

2. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy (1)

3. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy (2)

4. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy (3)

5. Y gynulleidfa a'r gofod

6. Technegau Ymchwil

7. Technegau Ymchwil

8. Gwerthuso rhaglenni ThMA (1)

9. Gwerthuso rhaglenni ThMA (2)

10. Delwedd a iaith mewn perfformiadau ar gyfer plant a phobl ifainc

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn trafod hanes a theori Theatr-mewn-Addysg rhwng 1960 a 2004. Gan ddefnyddio elfen ymarferol gref er mwyn hyrwyddo datblygiad a dealltwriaeth academaidd, bwriad y modiwl fyth paratoi'r myfyrwyr ar gyfer y profiad ymarferol estynedig o Theatr-mewn-Addysg a geir yn y drydedd flwyddyn; at hynny, bwriedir gosod sail gadarn i bob myfyriwr yn egwyddorion ac ymarfer Theatr-mewn-Addysg; a'i berthynas a theatr, addysg ac Astudiaethau Theatr.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Disgwylir i'r myfyrwyr ddadansoddi a chyfrannu i'r broses o ddatrys problemau, gan ragweld ac ol-fyfyrio ar y profiad yn ystod y gweithdai, y sesiynau ymarferol a'r ymarferion dyfeisio ar gyfer y modiwl. Mae'r gallu i ystyried ac archwilio problemau yn ddyfais addysgiadol allweddol bwysig o'r broses ThMA, a astudir yn ddwys yn ystod y modiwl.  
Sgiliau ymchwil Datblygir y medrau hyn wrth baratoi ar gyfer darlithoedd, gweithdai a gwaith ymarferol, ac fel canlyniad i'r ysgogiadau creadigol a geir yn y sesiynau hyn hefyd. Asesie y medrau hyn fel rhan o'r traethawd a'r dernyn ymarferol.  
Cyfathrebu Mae'r medrau hyn yn ran allweddol o'r gwaith theoretig ac ymarferol, ac yn rhan gynhenid o weithgarwch ThMA: fe'u harddangosir, eu datblygu a'u hasesu'n barhaol yn ystod y modiwl.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fel rhan o fethodoleg ThMA, a methodau addysgiadol darganfyddol y mae'n eu hyrwyddo, fe fydd y myfyrwyr yn gwerthuso eu proses a'u perfformiad eu hunain fel tystiolaeth o'u dealltwriaeth o'r modiwl.  
Gwaith Tim Trafodir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl ac fe'u gwerthusir a'u hasesir mewn perthynas a'u cyfraniad tuag at y gwaith dosbarth a chreu'r dernyn ThMA ymarferol.  
Technoleg Gwybodaeth Ni ddysgir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl; fodd bynnag, fe ddatblygir y sgiliau hyn yn anffurfiol gan y myfyrwyr wrth iddynt ymchwilio, casglu a threfnu gwybodaeth a chysylltu a ffynonellau ac adnoddau priodol. Disgwylir y bydd y myfyrwyr yn gwneud defnydd helaeth o'r rhyngrwyd yn ystod y modiwl i'r perwyl hwn.  
Rhifedd Fe gyfeirir yn benodol at gyllido prosiectau ThMA fel rhan o'r modiwl, ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe ystyrir hyfforddiant a datblygiad proffesiynol fel rhan o'r modiwl. Fe fydd cyd-destunau addysgiadol a therapiwtig a archwilir ar y cwrs yn galluogi'r myfyrwyr i fod yn fwy ymwybodol o opsiynau gyrfaol.  
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd Theatr-mewn-Addysg: Rhan 1 yn codi ymwybyddiaeth ar ran y myfyrwyr o ffurf cyfoes ar y theatr ac Astudiaethau Theatr gyda chysylltiadau cryf o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Fe fydd y broses o hyrwyddo gwaith theoretig ac ymarferol gan fyfyrwyr yn y maes hwn yn creu profiad sy'n cwmpasu dadansoddi, theori ac ymarfer. Fe fydd y myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn yn gwerthuso'r cymhlethdodau, y cysylltiadau a'r cymhariaethau rhwng theatr ac addysg.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
Boal, A., Games for Actors and Non-Actors Routledge (1992)
Jackson, T., Learning Through Theatre Routledge (1993)
Oddey, A., Devising Theatre Routledge (2004)
** Testun A Argymhellwyd
Casdagli, P., Gobey, F., gyda Griffin C., Only Playing Miss! Trentham Books (1990)
Edwards, D., The Shakespeare Factory, Moon River: The Deal, David Seren (1998)
Friere, P., Pedagogy of the Oppressed Penguin (1972)
Johnson, L. & O'Neill, C., (goln.) Dorothy Heathcote: Collected Writings on Education and Drama Hutchinson (1984)
O'Toole, J., The Process of Drama: Negotiating Art and Meaning Routledge (1992)
O'Toole, J., Theatre in Education: New Objectives for Theatre - new techniques in education Unibooks (1976)
Redington, C., Can Theatre Teach? Pergamon (1983)
Robinson, K., Exploring Theatre and Education Heinemann (1980)

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC