Cod y Modiwl DD31020  
Teitl y Modiwl CREU CENEDL: DRAMA IWERDDON YN YR UGEINFED GANRIF  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Anwen M Jones  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cwblhau rahn un yn llwyddiannus  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  50%
Asesiad Semester Cyfraniad i seminarau15%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar mewn grwp35%
Asesiad Ailsefyll Er mwyn ail-sefyll y modiwl rhaid i fyfyrwyr ail-sefyll arholiad a pharatoi a chyflwyno cyflwyniad llafar unigol 40 munud o hyd. Bydd yr elfen arholiad = 50% ar cyflwyniad = 50%. 
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- ymateb yn effeithiol i gwestiynau ynghylch techneg dramataidd y dramodwyr a astudiwyd
- trafod gwaith y dramodwyr mewn perthynas a`i gyd-destun cymdeithasol
- gweithio fel rhan o grwp i lunio a chynnal dadl sy`n arddangos sgiliau dadansoddiadol a chymhariaethol
- trefnu deunydd ar gyfer seminarau a`i gyflwyno`n effeithiol i gyd-fyfyrwyr

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn astudio agweddau ar theatr y yr Ugeinfed ganrif yn Iwerddon dros gyfnod eang, fel modd o archwilio`r newid sylweddol a welwyd yn theatr a llenyddiaeth ddramataidd y wlad honno ac er mwyn gosod y datblygiadau a welwyd yn theatr Iwerddon mewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol priodol.

Nod

Prif amcanion y modiwl ydyw:
- galluogi`r myfyrwyr i ddehongli drama a theatr yr Ugeinfed ganrif yn yr Iwerddon fel agwedd ar weithgaredd diwylliannol a gwleidyddol
- meithrin sgiliau dadansoddiadol a`r gallu i lunio a chynnal dadl gytbwys
- cymell myfyrwyr i drafod y ddrama Wyddeleg yng nghyd-destun digwyddiadau hanesyddol perthnasol yn ystod yr Ugeinfed ganrif
- annog myfyrwyr i asesu`r cyfryw weithgaredd dramataidd mewn perthynas a`u profiad wrth astudio drama a theatr gyfoes yn Ewrop mewn modiwlau eraill ar y cynllun gradd

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
Churchill, Caryl (1989) Cloud Nine Nick Hearn
O`Casey, Sean (1949) The Plough and the Stars Macmillan
Osborne, John (1960) Look Back in Anger Faber
Shaw (1964) Heartbreak House Penguin
Synge, J.M. (1977) Playboy of the Western World, Riders to the Sea Allen and Unwin
Yeats, W.B. (1982) Cathleen Ni Houlihan, Deirdre, At The Hawk`s Well Papermac

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC