Cod y Modiwl | DD31130 | ||
Teitl y Modiwl | THEATR EWROP FODERN | ||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | To Be Arranged | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Roger Owen, Mrs Anwen M Jones | ||
Rhagofynion | Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | Darlith 1 x 2 awr yr wythnos | |
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar 1 x 2 awr yr wythnos | ||
Eraill | Sesiwn wylio 1 x 1 awr yr wythnos |
1. Goethe, J.W.F., Faust: Rhan I
(Canolfan Adnoddau Addysg: 1994)
2. Buchner, Georg, Woyzeck
(Penguin, 1993)
3. Ibsen, Henrik, Peer Gynt
(Penguin Classics: 1958)
4. Lorca, Federico Garcia, Priodas Waed
(Ar gael o'r Adran)
5. Strindberg, August, Y Ddrama-Freuddwyd
(A Dream Play, Methuen 1982)
6. Wedekind, Frank, Deffro'r Gwanwyn
(Sprink Awakening: Faber and Faber, 1995)
7. Tsiecof, Anton, Tair Chwaer
(Three Sisters, Oxford University Press, 1998)
8. Jarry, Alfred, Wbw Frenin
(Ubu Rex, Methuen, 1960)
9. Kaiser, Georg, O Fore Tan Ganol Nos
(From Morn to Midnight: ar gael o'r Adran)
10. Brecht, Bertolt, Y Fam Gwroldeb a'i phlant
(Mother Courage: Methuen Drama, 1995)
Datrys Problemau | Datblygir y medrau hyn (yn ysgrifenedig ac ar lafar) wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig a'r testunau a ddysgwyd ar y modiwl. | ||
Sgiliau ymchwil | Datblygir y medrau hyn wrth i'r darlithoedd, seminarau a'r asesiadau hybu a hyrwyddo myfyrdod a sylwadaeth ar gysyniadau allweddol a datblygiadau arwyddocaol mewn damcaniaeth ac ymarfer theatraidd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r cyfnod cyn dechrau'r Ail Rhyfel Byd. | ||
Cyfathrebu | Ysgrifenedig: bydd ymdrech i gyflwyno trafodaeth feirniadol wrth ysgrifennu traethodau. Ar lafar: cyfraniad dosbarth a chydweithrediad yn ystod seminarau. | ||
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio'n annibynnol: adborth tiwtor i'w gwaith ysgrifenedig a'u cyfraniad dosbarth a disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu deunydd. Datblygir eu sgiliau gwaith a'u defnydd o amser wrth baratoi ar gyfer eu cyfraniad dosbarth, seminarau a darlithoedd. | ||
Gwaith Tim | Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol trwy'r cyfraniad dosbarth. | ||
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'u cyfraniad dosbarth. | ||
Rhifedd | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau. | ||
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol. | ||
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd dadansoddiad o destunau theatr yn y dosbarth a thrwy asesiadau ysgrifenedig. Trwy annog myfyrwyr i ystyried moddau perfformio diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y cyfnod cyn yr Ail Rhyfel Byd fe all y myfyrwyr adeiladu gwybodaeth fanwl o destunau theatraidd yn eu cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC