Cod y Modiwl | DD33020 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | YMARFER CYFARWYDDO | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | |||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | |||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||
Rhagofynion | DD32920 , , | |||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
- cyflwyno gweledigaeth artistig ddatblygiedig i`r tim o`ch cwmpas trwy gyfrwng gwaith ymarferol
- creu strategaeth ymarferol er mwyn gweithredu`r welediageth honno
- ymateb yn gadarnhaol i amgylchiadau a chyd-destun y cynhyrchiad yn ymarferol ac ysgrifenedig
Mae'r modiwl hwn yn ehangu ac yn datblygu ar y gwaith a wnaethpwyd yn Theori Cyfarwyddo a Cyflwyniad i Ddylunio, ac fe'i gyfyngir i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn Cyfarwydoo neu Ddylunio. Rhaid i fyfyrwyr Cyfarwyddo baratoi cynhyrchiad 30 munud o hyd ar gyfer ei berfformio'n gyhoeddus. Disgwylir i fyfyrwyr gadw nodiadiau manwl o'r broses ymarfer a pharatoi a'u cyflwyno i'r arholwr mewn viva. Dylai'r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.
Gall myfyrwyr sy'n dymuno astudio Dylunio arbennigo drwy lunio cynllun manwl ar gyfer cynhyrchaid adrannol, ei baratoi a'i godi. Yn yr un modd, rhaid i'r myfyrwyr hyn gyflwyno'u bwriadau artistig mewn cyflwyniad llafar (viva voce) a chadw dyddlyfr dylunio sydd yn olrhain y broses grwu a'r penderfyniadau a wnaethpwyd. Dylai'r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.
Bydd darpariaeth tiwtorial/seminar ar gyfer y modiwl hwn yn cymryd ffurf trafodaeth ynghylch y dewis ar gyfer y perfformiad, arddull perfformio a'r drefn ar gyfer ymarfer a chynhyrchu. Bydd sesiynau unigol gyda chyfarwyddwyr yn trafod eu gwaith wrth i hwnnw ddatblygu ac ymffurfio. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn mynychu o leiaf 3 ymarfer a'r perfformiad ei hun. Ar adeg cwblhau'r prosiectau, cynhelir trafodaethau grwp er mwyn didoli a dadansoddi'r gwaith, ac fe gynigir cymorth tiwtorial i unigolion wrth iddynt ysgrifennu eu traethodau.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC