Cod y Modiwl | DD33530 | |||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | YMARFER CYFARWYDDO 2 | |||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | |||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | |||||||||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Ms Charmian C Savill, Miss Margaret P Ames | |||||||||||||||||
Rhagofynion | DD22910 | |||||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | Darlith 1 x 1 awr yr wythnos | ||||||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar 1 x 1 awr yr wythnos | |||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Fe fydd y myfyrwyr yn creu cysyniad artistig o gylch y deunydd a ddewiswyd ganddynt, ac yn dewis technegau ymarfer priodol ar gyfer sylweddoli'r cysyniadau hyn yn y perfformiad. Fe fydd y traethawd ar gyfer y modiwl hwn yn baratoad ar gyfer gweithredu'n ymarferol ac yn peri i'r myfyrwyr ymchwilio i waith a gweledigaeth y dramodydd ac i'r technegau priodol ar gyfer cyflwyno'u gweledigaeth yn fanwl.
Fe fydd y modiwl yn gofyn i bob myfyriwr weithio'n ddwys a dyfal yn yr ystafell ymarfer am tua 15 awr yr wythnos, gyda'r actorion a ddewiswyd ganddynt ond heb y pwysedd ychwanegol o orfod trefnu'r gweithgarwch dylunio a thechnegol.
Bydd tn rhaid i'r myfyrwyr werthuso effeithioldeb y fethodoleg ymarfer a ddewiswyd ganddynt yng ngoleuni gweithgarwch eu hactorion, ynghyd a sylwadau a beirniadaeth tiwtoriaid y modiwl. Rhoddir cyfle iddynt hefyd i drafod cyfleuon gyrfaol posibl ar gyfer egin-gyfarwyddwyr proffesiynol . Bydd pob myfyriwr yn ol-fyfyrio ar y broses trwy gyfrwng arholiad llafar viva-voce.
Trefn Arfaethedig y Darlithoedd:
Darlith 1: Dewis y testun: gweithio o fewn yr amodau roddedig. Gwaith Peter Brook.
Darlith 2: Peter Hall a'r broses o gastio. Perthynas yr Actor a'r Cyfarwyddwr; rheoli'r actorion.
Darlith 3: Y broses ymarfer: ysbrydoliaeth a chyfathrebu.
Darlith 4: Perthynas y Cyfarwyddwr a'r Dylunydd: y dylunydd-gyfarwyddwr, Charles Marowitz.
Darlith 5: Arbrofi gyda genre ac arddull.
Treft Arfaethedig y Seminarau:
Fe fydd y seminarau yn trafod y cysyniadau a'r pynciau a gyflwynir yn y darlithoedd. Fe fydd y myfyrwyr yn derbyn rhestr ddarllen briodol ar gyfer y darlithoedd a'r seminarau ar ddechrau'r modiwl. Fe fydd y rhain wedi'u teilwra'n neilltuol er mwyn cwrdd a'r her a'r posibiliadau a gyfyd o brosiectau arfaethedig y myfyrwyr.
Datrys Problemau | Mae cyfarwyddo ar gyfer y theatr o reidrwydd yn meithrin sgiliau datrys problemau - boed ymarferol neu theoretig - wrth gyflwyno'r testun. | ||
Sgiliau ymchwil | Rhaid i gyfarwyddwr ddatblygu a chymhwyso ystod eang iawn o sgiliau ymchwil er mwyn archwilio cefndir a dramau eraill y dramodydd, ardull ei g/waith, cyd -destun hanesyddol a diwyllianol y ddrama, ac ymdriniaeth a'r broses ymarfer. | ||
Cyfathrebu | Mae cyfarwyddo, o'i hanfod, yn broffesiwn a rydd fri mawr o gyfathrebu. Mae dysgu sut i gyfathrebu'n ebrwydd ac eglur o fewn awyrcylch ac estheteg y broses ymarfer yn allweddol bwysig - nid yn unig gydag actorion ond hefyd y cydweithwyr eraill, gan gynnwys criw dylunio, technegwyr a staff gweinyddol. | ||
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu techneg ymarferol ac i archwilio ffyrdd newydd o weithio, ac i ddod yn fwy hyderus wrth weithio'n annibynnol. At hynny, mae yna elfen o hunan asesu wedi'u gynnwys o fewn strwythur y tiwtorialau a'r asesiadau. | ||
Gwaith Tim | Mae pob math ar ymarfer theatraidd - ond cyfarwyddo yn enwedig - yn dibynnu ar y gallu i ddatblygu a deall medrau gwaith tim. | ||
Technoleg Gwybodaeth | Fe fydd defnydd o offer TG yn ddefnyddiol iawn wrth gysylltu ag aelodau eraill y tim ymarferol, ac wrth gyflawni ymchwil i'r prosiect, a.y.b., ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl. | ||
Rhifedd | Rhaid i gyfarwyddwr ddeall materion sy'n ymwneud a rhifyddeg wrth baratoi cyllideb ar gyfer y cynhyrchiad a.y.b., ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl. | ||
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Fe fydd y modiwl hwn yn datblygu medrau mewn gweithio'n annibynnol, hunan-ymwybyddiaeth, cyfathrebu a chyflwyno a fydd yn allweddol bwysig wrth ymgymryd a chyfweliad proffesiynol: fe fydd hefyd yn archwilio strwythyur y diwydiant theatraidd ac yn asesu'r her o ddechrau gweithio mewn maes mor gystadleuol . Fe fydd y profiad a geir ar y modiwl hwn yn bwysig fel ffordd o dystio i brofiad ac ymwybyddiaeth o ddatblygiad personol pan yn ceisio hyfforddiant pellach neu gyflogaeth. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC