Wrth greu'r modiwl hwn, dymuna'r Adran roi cyfle mwy trylwyr a strywuthuredig i'r myfyrwyr ddadansoddi ac ol-fyfyrio ar eu profiad o'r prosiect cynhyrchu ymarferol. Wrth wneud hyn, dymuna'r Adran gynnwys agweddau pwysig ar yr Adolygiad ar Gynnydd Academaidd a Phersonol (APPR) o fewn strwythur y modiwl a'u gwneud yn elfennau gorfodol. Cyflawnir hyn trwy gynnal seminarau wythnosol lle fydd myfyrwyr yn adolygu ac ol-fyfyrio ar eu profiad a'i asesu'n feirniadol. Ar ol sesiwn adborth 2.5 awr ar ddiwedd y prosiect, fe fydd gofyn i'r myfyrwyr sefyll arholiad hwn yn cael ei gynnal gan arweinydd y prosiect ynghyd ag un aelod ychwanegol o'r staff. Gofynnir hefyd i Arholwr Allanol yr Adran ar gyfer gwaith ymarferol fynychu o leiaf 10% o'r arholiadau llafar hyn.
Datrys Problemau |
Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. |
Sgiliau ymchwil |
Fe ddatblygir y sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Cyfathrebu |
Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfrwyddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. |
Gwaith Tim |
Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth |
Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chyflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.); ond nid asesir hyn yn uniongyrchol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Ni cheir unrhyw ymrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. |
Sgiliau pwnc penodol |
Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol dulliau ymarferol, ac yn datblygu'r dealltwriaeth o'r theatr fel arf gyfathrebu. |