Cod y Modiwl |
DD34230 |
Teitl y Modiwl |
YSGRIFENNU CREADIGOL AR GYFER Y LLWYFAN |
Blwyddyn Academaidd |
2007/2008 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Mrs Anwen M Jones |
Semester |
Semester 2 |
Staff Eraill sy'n Cyfrannu |
Ms Charmian C Savill |
Rhagofynion |
DD20420 |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | Ol-fyfyriad Beirniadol ar Ddatblygiad Creadigol | 20% |
Asesiad Semester | Aseiniad Cyntaf: Sgript (tua 15-20 munud o hyd perfformio) | 25% |
Asesiad Semester | Ail Aseiniad: Sgript (tua 40 munud o hyd perfformio) | 55% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Cyntaf wedi'i gwblhau neu'i adolygu.
Ail Aseiniad wedi'i gwblhau neu'i adolygu.
Ol-fyfyriad Beirniadol ar Ddatblygiad Creadigol. | |
|
Canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
arddangos dealltwriaeth ystyrlon o natur 'y dramataidd', ac o strwythur dramataidd;
arddangos gallu i ysgrifennu monologau;
arddangos gallu i ysgrifennu darn byr o ddrama wedi'i strwythuro'n dda;
arddangos dealltwriaeth eglur o berthynas y gynulleidfa a'r gwaith ar y llwyfan a sut y mae hyn yn wahanol i'r berthynas sy'n bodoli rhwng y gynulleidfa a'r sgrin;
arddangos rhywfaint o wybodaeth o hanes y theatr orllewinol;
arddangos dealltwriaeth o berthynas ymddangosiad a realiti yn y theatr: y gwrthdaro rhwng yr hyn a ddywedir a'r hyn a ddywedir a'r hyn a ddigwydd: y berthynas rhwng testun ac is-destun;
arddangos ymwybyddiaeth o ystyriaethau cynhyrchu sy'n gynhenid wrth drosglwyddo testun o'r dudalen i'r llwyfan
Disgrifiad cryno
Cyflwynir y modiwl hwn fel cyfres o weithdau/seminarau, a fydd yn cynnwys dadansoddiad o dechneg dramataidd a chrefft dramota, yn ogystal ag ymarferion ysgrifennu ac aseiniadau. Fe fydd y modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu techneg y myfyrwyr. At hynny, bwriedir y bydd y myfyrwyr yn cyflwyno darn cynharach o ysgrifennu a fydd yn sail ar gyfer yr adborth a fydd yn eu helpu i lywio'r prif aseiniad olaf; fe fydd myfyrwyr hefyd yn llunio a chadw llyfr nodiadau ymarferol o gychwyn y modiwl a fydd yn eu cynorthwyo wrth ol-fyfyrio - byddant yn cyflwyno'r llawlyfr i'w asesu fel rhan o'r modiwl. At hynny, byddant hefyd yn sefyll arholiad llafar ar ddiwedd y modiwl a fydd yn galluogi iddynt ol-fyfyrio ar eu cyfraniad a'u profiad o'r broses greadigol yn y modiwl, mewn perthynas a Chanlyniadau Dysgu'r modiwl. Fe fydd y llawlyfr nodiadau a'r arholiad llafar gyfwerth ag 20% o asesiad y modiwl.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn gael ei greu er mwyn sicrhau cyfartaledd pwysiant credydau rhwng y modiwl hwn a'r gwaith ymarferol arbenigol arall a gyflawnir gan y myfyrwyr yn ystod trydedd flwyddyn eu gradd. Fe fydd y modiwl newydd hwn yn caniatau i fyfyrwyr greu proses ddysgu cynhwysfawr iddynt hwy eu hunain, gan ol-fyfyrio ar y broses honno'n gyson, yn enwedig mewn perthynas a'r asesiad sylweddol olaf.
Cynnwys
Fe fydd y modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng cyfres o weithdai ymarferol 10 x 2 awr: yn ystod y rhain, disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni cyfres o ymarferion ysgrifennu a fydd wedi anelun bebodol at gymhwyso'r syniadau a'r cysyniadau a gyflwynwyd yn ystod y modiwl i gyd-destunymarferol. Fe fydd y pynciau a drafodir yn ystod y modiwl fel a ganlyn:
1. Cynnwys dramataidd (gwrthdaro, tyndra, eironi)
2. Theori Dramataidd (o Aristotle i Brecht, a Bond)
3. Enghreifftiau o ymarfer theatraidd 1 (Pinter a Miller)
4. Enghreifftiau o ymarfer theatraidd 2 (Bennett a Mamet)
5. Strwythur (ffocws ac eglurdeb)
6. Deialog a chymeriadaeth
7. Gwerthfawrogi elfennau technegol neilltuol theatr ymarferol 1:
Rhythm, ton ac amgyffrediad
8. Gwerthfawrogi elfennau technegol neilltuol theatr ymarferol 2:
Llwyfannu, dylunio set, gwisg, goleuo a sain
9. Ysgrifennu theatr Clasurol a Chyfoes: triniaeth gymharol
10. Ol-fyfyrio ar brosesau ysgrifennu
Sgiliau Modiwl
Datrys Problemau |
Nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae pob ymarfer sgript yn cynnwys elfen o ddatrys problemau: pa fath o gymeriad a fydd yn cyfleu thema ar ei orau? Pa ddyfeisiau a fydd yn gyrru'r ddrama yn ei blaen i'r pwynt nesaf? Mae effeithioldeb y dramodydd wrth ddatrys problemau i'w ganfod yn ebrwydd yn answadd y cynnyrch gorffenedig. |
Sgiliau ymchwil |
Nid asesir y medrau hyn yn uniogyrchol. Odd bynnag, mae ym mhob sgript ryw elfen o wybodaeth arbenigol y bydd yn rhaid i'r dramodydd ei hymchwilio'n annibynnol. |
Cyfathrebu |
Mae pob aseiniad yn gofyn lefel uchel o gyfathrebu ysgrifenedig. Fe fydd y gweithdai yn cynnwys darnau ar gyfathrebu'n effeithiol yn y cyfryngau hyn, ac mae asesiad cyffredinol unrhyw ddarn yn cynnwys gwerthusiad o effeithioldeb cyfathrebu'r cysyniad sylfaenol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Disgwylir i'r myfyrwyr hyrwyddo eu dysgu eu hunain a datblygu eu hymdriniaeth creadigol unigryw eu hunain. Fe fydd rhan o'r asesiad ar gyfer y Sgriptiau yn ystyried i ba raddau y mae gwaith y myfyrwyr wedi gwella o'u haseiniad Cyntaf i'r Ail. |
Gwaith Tim |
Rhoddir cyfle i fyfyrwyr gynnig adborth i'w gilydd ar eu gwaith gorffenedig. |
Technoleg Gwybodaeth |
Nid asesir y medrau hyn, er bod yr Adran yn disgwyl y bydd y myfyrwyr yn cyflwyno'u gwaith wedi'i brosesu'n eiriol. |
Rhifedd |
Nid asesir ac ni ddatblygir y medrau hyn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Nid asesir unrhyw elfen o ddatblygu gyrfa. Fodd bynnag, fe fydd rhywfaint o ddatblygiad o'r elfennau hyn yn sgil y traethodau ar y math o bwysedd a rydd y cyfryngau ar ddramodydd, pa fath o ymdriniaeth a'r cyfryngau a gyfrifyr yn broffesiynol, a pha fath o waith sydd fwyaf tebyg o hyrwyddo cyfleon y myfyriwr i weithio fel dramodydd. |
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Campton, David. (1992.) Becoming a playwright /David Campton.
Robert Hale 0709049900
Gooch, Steve (1995.) Writing a play /Steve Gooch.
A & C Black 0713641754PBK
Greg, Noel (2005) Playwriting - A Practical Guide
Routledge
Hatcher, Jeffrey (2003) The Art and Craft of Playwriting
Yeger, Sheila. (1990.) The sound of one hand clapping : a guide to writing for the theatre /Sheila Yeger.
Amber Lane 1872868029PBK
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC