Cod y Modiwl DD34330  
Teitl y Modiwl YMARFER CYNHYRCHU 2  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Elizabeth Sian Fenwick, Miss Margaret P Ames, Dr Roger Owen  

Canlyniadau dysgu

Cymhwyso, datblygu ac ymestyn y sgiliau a gyflwynwyd yn y modiwlau paratoadol Lefel 2 yn Semester 1 ac yn y modiwl rhagofynnol DD33830 o fewn amgylchfyd ymarferol cynhyrchiad Adrannol llawn a thrwyadl;

Cymhwyso yr hyn a ddysgasant o ran dysgu sut i ymateb i gyfarwyddyd gan arweinwyr y prosiect a chan gyd-fyfyrwyr yng nghud-destun y cynhyrchiad, gan weithio'n gadarnhaol y tu fewn a thu allan i'r gofod ymarfer, o fewn y rheoliadau a'r amgylchiadau roddedig, a dangos gallu i weithio tuag at cyflwyniad grwp gorffenedig;

Cymhwyso a chynnal sgiliau sydd eu hangen er mwyn cyflawni amryw fath ar rol ymarferol o fewn cyfres o gynyrchiadau theatraidd;

Adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r broses baratoi, ymarfer a chyflwyno a chofnodi'r myfyrion hyn mewn arholiad llafar ac ar ffurf llyfr nodiadau.

Nod

O dan y drefn bresennol, rhoddir tri chyfle i'r myfyrwyr i weithio ar gynhyrchiad neu brosiect ymarferol yn ystod y drydedd flwyddyn. No y cynnig presennol fydd lleihau nifer y profiadau a gynigir i'r myfyrwyr o dri i ddau, a chynyddu'r nifer o wythnosau gwaith ar bob prosiect o bump i saith. Fe rydd hyn fwy o gyfle i'r myfyrwyr astudio eu maes dewisol yn fwy trwyadl; fe fydd hefyd yn eu galluogi i wneud mwy o waith arbrofi ac archwilio yn ystod y broses ymarfer a pharatoi. Rydym hefyd yn dymuno cynyddu'r elfen o ol-fyfyrio a dadansoddi beirniadol y bydd yn rhaid i'r myfyrwyr gyflawni yn ystod y broses baratoi ac fe fydd pwysiant o 30 credyd yn ein galluogi i gyrraedd y naill nod a'r llall.

Rhodd y modiwl hyn gyfle pellach i fyfyrwyr i archwilio gwahanol fethodolegau a thechnegau ar gyfer dehongli testunau theatraidd ar lwyfan byw. Fe fydd hefyd yn parhau i'n galluogi i gynnig lefel ychwanegol o hyblygrwydd wrth aseinio myfyrwyr i'r prosiect yn ol eu dewsiadau a'u diddordebau neilltuol a all hwyluso a hyrwyddo dewisiadau gyrfa ar ran y myfyrwyr.

Fe fydd y myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn eisioes wedi ol-fyfyrio ar eu profiad ymarferol blaenorol trwy gyfrwng y modiwl DD33830: yn y modiwl hwn, disgwylir i'r myfyrwyr greu eu fframwaith eu hynain ar gyfer dadansoddi eu gwaith a'u cyrhaeddiad ymarferol ac i gymryd eu tro wrth arwain y sesiynau adolygu ac ol-fyfyrio a gynigir iddynt yma.

Fel yn DD33830, fe fydd y cyfleon gwaith yn cael eu cytuno trey gyfrwng cyfweliad gyda Chyd-gysylltydd y modiwl a'r Rheolwr Cynyrchu Uwch.

Cynnwys

Fe fydd y modiwl yn cael ei gyflwyno fel cyfres o ymarferion tuag at y cynhyrchiad llawn, ac yn gofyn presenoldeb ac ymroddiad arbennig gan y myfyrwyr tuag at gwblhau'r cynhyrchiad yn llwyddiannus. Fe fydd y cynhyrchiad ei hyn yn gofyn ryw 35 awr yr wythnos o waith ar ran pob myfyriw, gan gynnwys gwaith paratoi ac ymchwil cefndirol.

Fe fydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn y modiwl hwn fel actorion, aelodau o'r tim cynhyrchu, dylunio neu rheoli llwyfan, neu fel cynorthwywyr i'r cyfarwyddwr staff (neu wadd), gan weithio'n ddyfal am saith wythnos ar brosiect Adrannol. Fe fydd y cyfleon gwaith hyn yn cael eu cytuno trwy gyfrwng cyfweliad ffurfiol gyda Chyd-gysylltydd y modiwl a'r Rheolwr Cynhyrchu Uwch yn ystod y tymor blaenorol fel rhan o'r broses AGAPh.

Arweinir y cynhyrchiad gan gyfarwyddwr/aig brofiadol a fydd yn creu methodoleg ymarferol priodol ar gyfer y prosiect. Yn ystod yr ymarferion, fe fydd y myfyrwyr yn cael profiad o gemau theatr, ymarferion byrfyfyrio, ymarferion eraill a gweithdai, a fydd wedi'u cynllunio 'n benodol er mwyn hybu dealltwriaeth a gallu'r myfyrwyr i gyflawni anghenion eu swyddogaeth o fewn y cynhyrchiad.

Fe fydd y prosiectau hyn yn cael eu cyflwyno yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth neu mewn un o leoliadau perfformio'r Adran neu mewn lleoliad priodol. Fe fydd cyfanswm o bum perfformiad o'r cynhyrchiad a fydd yn rhoi cyfle i rieni, ffrindiau ac aelodau'r cyhoedd wylio gwaith ymarferol yr Adran.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn cael ei gyflwyno fel cyfres o ymarferion dros gyfnod o saith wythnos tuag at y cynhyrchiad llawn, a fydd yn cael ei lwyfannu yn ystod ail hanner ail semester y drydedd flwydyn. Fe fydd y prosiect hwn yn wahanol o ran naws a sylweddi'r hyn a fu'n sail i'w profiad yn DD33830, ac fe fyddant yn gweithio fel ran o'r tim perfformio, cyfarwyddo, rheoli llwyfan neu ddylunio, a hynny o dan oruchwyliaeth cyfarwyddwr staff profiadol neu arbeniwr gwadd. Fe fydd cynhyrchiad yn cael ei gyflwyno'n gyhoeddus; a bydd yr ymarferion ar gyfer y cynhyrchiad hwn yn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac ymestyn y sgiliau, methodolegau, a'r technegau a ddatblygwyd gan y myfyrwyr yn ystod ei profiadau ymarferol blaenorol yn yr Adran.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol.  
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.  
Cyfathrebu Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfrwyddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu.  
Gwaith Tim Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meni prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl.  
Technoleg Gwybodaeth Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chyflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.) ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.  
Rhifedd Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni cheir unrhyw ymrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol.  
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol dulliau ymarferol, ac yn datblygu'r dealltwriaeth o'r theatr fel arf gyfathrebu.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC