Cod y Modiwl | FT24020 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | SGILIAU NEWYDDIADUROL YMARFEROL | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Esther Prytherch | |||||||||||
Semester | Ar gael yn semester 1 a 2 | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Elan Stephens, Dr Jamie Medhurst, Ms Elin H G Jones | |||||||||||
Rhagofynion | FT11020 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 x 1 awr | ||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 2 awr | |||||||||||
Dadansoddi Llwyth Gwaith | Darlithiau: 10 x 1 awr = 10 awr Seminarau: 10 x 2 awr = 20 awr Darllen a pharatoi ar gyfer y darlithiau a'r seminarau: 70 awr Paratoi'r portffolio: 100 awr Cyfanswm: 200 awr | |||||||||||
Dulliau Asesu |
|
1. Casglu newyddion: ymchwil cefndirol a ffynonellau newyddion
2. Technegau cyfweld
3. Erthyglau nodwedd a chefndirol
4. Adroddiadau Cymraeg a chwestiynau cyfieithi
5. Comisiynu gwaith allanol
6. Cyweiriau newyddiadurol, canllawiau arddull, a iaith gynhwysol
7. Is-olygu testun, ysgrifennu penawdau a chapsiynau
8. Newyddiadura ar-lein
9. Llun a thestun: ymchwil lluniau a chwestiynau hawlfraint
10.Llunio'r tudalen: mewn papur newydd, mewn cylchgrawn ac ar y we
Seminarau
Bydd y seminarau yn trafod ymarferion ysgrifennu gan aelodau'r grwp.
Datrys Problemau | Mae pwyslais y modiwl hwn ar sgiliau ymarferol, felly mi fydd cyfle i'r myfyrwyr cynnig atebion i broblemau sy'n codi'n ddamcanieithol yn ystod y trafodaethau yn y seminarau, a gwerthuso manteision ac anfanteision posib. Wrth ddefnyddio sgiliau ymarferol i baratoi'r darnau ar gyfer y poerffolio, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu meddylfryd creadigol at ddatrys problemau. | ||
Sgiliau ymchwil | Bydd sgiliau ymchwil yn elfen anhepgor o'r modiwl wrth i'r myfyrwyr paratoi eu portffolio - yn ymchwil i ffynonellau newyddion, unigolion i'w cyfweld, lluniau ac ati. Bydd angen i'r myfyrwyr fynd ati i gynllunio a chyflawni ymchwil ymarferol, a defnyddio canlyniadau'r ymchwil i gynhyrchu darnau o waith newyddiadurol. | ||
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle helaeth i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Trwy gydol y modiwl, bydd ymarferion dadansoddi testunau newyddiadurol o ran ieithwedd a chywair, a bydd gofyn i'r myfyrwyr cymhwyso'n ymarferol, trwy eu gwaith portffolio, yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu. Bydd pwyslais hefyd ar dechnegau cyfweld, sy'n gofyn am safon uchel o sgiliau cyfathrebu, a bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfathrebu'n effeithiol ag unigolion y tu fas i'r brifysgol wrth baratoi'r portffolio. | ||
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd cyfle i fyfyrwyr wella'u perfformiad o fewn cyd-destun y darlithiau a'r seminarau - cyfrannu'n fwy effeithiol i'r trafodaethau, paratoi'n well at yr ymarferion ysgrifennu ac ati. Bydd y gwaith ymarferol yn y seminarau yn caniatau i'r myfyrwyr fesur a gwella'u perfformiad, ond ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n uniongyrchol. | ||
Gwaith Tim | Bydd rhywfaint o waith grwp yn codi o fewn y seminarau, ond ni chaiff y medrau hyn eu hasesu'n uniongyrchol. | ||
Technoleg Gwybodaeth | O ran gwneud gwaith ymchwil newyddiadurol a darllen cefndirol arlein, ac o ran cyflwyno gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio prosesu geiriau, bydd y myfyrwyr yn defnyddio medrau technoleg gwybodaeth. Wrth baratoi eu portffolio , bydd angen i'r myfyrwyr gyfathrebu ag unigoloion a sefydliadau allanol, mwy na thebyg srwy e-bost. | ||
Rhifedd | Ni fydd pwyslais ar ddehongli gwybodaeth fathemategol nac ystadegol yn y modiwl hwn. | ||
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn cyflwyno nifer o sgiliau ymarferol a all fod yn ddefnyddiol mewn gyrfa newyddiadurol, ac mi ddylai galluogi i'r myfyrwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau a chryfderau personol yng nghyswllt gyrfa, neu astudiaeth pellach, yn y maes. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC