Cod y Modiwl |
FT30220 |
Teitl y Modiwl |
FFILMIAU GENRE |
Blwyddyn Academaidd |
2007/2008 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Professor Elan Stephens |
Semester |
Semester 2 |
Elfennau Anghymharus |
TF23220 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 10 x 2 awr |
|
Eraill | Sesiynau gwylio 2-3 awr wythnosol |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | Traethawd 1. 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 2. 3,000 o eiriau | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwynor elfenau a fethwyd (dewis o deitlau newydd) | |
|
Canlyniadau dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
-
arddangos gwybodaeth dda o'r genre a astudiwyd;
-
trafod datblygiad hanesyddol genre sinemataidd benodol gyda sylw arbennig i'r dylanwadau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol;
-
Cymhwyso achosion a methodoleg theori ffilm i'r genre dan sylw
Nod
-
Fe fydd y modiwl yn cyflwyno datblygiad hanesyddol un genre sinemataidd unigol, gan archwilio'r modd mae'r genre wedi esblygu wrth i'r cyd-destun hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol drawsffurfio.
-
Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad systematig i agweddau amrywiol o theori ffilm sy'n berthnasol i'r genre arbennig dan sylw.
-
Er gwaetha'r ffaith mai un genre a drafodir, fe fydd ymwybyddiaeth o theori genre yn asgwrn cefn i'r modiwl, gyda ffocws ar y modd y'i defnyddir o fewn astudiaethau ffilm.
Disgrifiad cryno
Ers yr 1970au dadansoddwyd ffilmiau mewn perthynas a genre. Fe fydd y modiwl yn cynnig archwiliad dwfn o un genre arbennig (gall newid yn flynyddol), ac yn olrhain ei datblygiad dros gyfnod o amser, trwy astudiaeth o enghreifftiau 'Hollywoodaidd' a 'byd eang' o'r genre hynny. Mae gan bob un o'r 'prif genres' ystod eang o theoriau yn perthyn iddynt eisoes, a cheir yn ogystal theoriau mwy cyffredinol sy'n canolbwyntio ar yr astudiaeth o ffilmiau genre. Fe fydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r theoriau a'r disgyrsiau hynny i'r myfyrwyr. Pa bynnag genre a ddewisir ei ddadansoddi, fe fydd y modiwl yn ffocysu ar y prif fudiadau artistig sydd wedi dylanwadu'r genre, y testunau allweddol, a'r disgyrsiau dominyddol a ddefnyddir i archwilio'r testunau hynny. Enghreifftiau o genres posib yw ffilmiau arswyd, 'Westerns', sioeau cerdd, ffilm noir, ffilmiau 'gangster'.
Cynnwys
Fe fydd cynnwys y modiwl yn amrywio o genre i genre, ond defnyddir ffilm noir fel enghraifft yma.
Gwreiddiau Ffilm Noir: Mudiad Mynegiadaethol yr Almaen The Cabinet of Dr Caligari (1920)
Ffilm Noir Glasurol: Amheuaeth a Pharanoia wedi'r Ail Ryfel Byd The Maltese Falcon (1941)
Welles a Ffilm Noir: Ochr Dywyll yr UDA A Touch of Evil (1958)
Dylanwad nofelau Raymond Chandler: The Big Sleep (1946)
Y 'Femme Fatale' Mildred Pierce (1945)
Dihirod Gwrywaidd: Rebecca (1940)
Croes beillio: Ffilm Noir 'Western' High Noon (1952)
Neo-Noir Chinatown (1964)
Ffilm Noir Gyfredol: L.A. Confidential (1997)
Tech Noir Teithiau i'r Dyfodol Bladerunner (1982)
Seminarau
-
Perthnasedd Genre i Astudiaethau Ffilm
-
Dadansoddi Ffilm Noir o safbwynt cyd-destun
-
Dadansoddi techneg Ffilm Noir
-
Dadansoddiad Ffilm Noir yn destunol
-
Ffiniau'n pylu: Dyfodol y Cysyniad
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Altman, Rick (1999) Film/Genre
London:BFI
Braudy, Leo (1998) Film Theory and Criticism 5th Edition, Braudy, L & Cohen, M Genre: The Conventions of Connection
Oxford: Oxford UP
Buscombe, Edward (1970) The idea of genre in American cinema' Screen 2.2
Collins, Richard (1976) Movies and Methods Volume 1, Bill Nichols (ed) Genre: A reply to Ed Buscombe
Berkeley: University California Press
Grant, Barry (1995) Film Genre Reader II
Austin: University of Texas Press
Grant, Barry (1977) Film Genre: Theory and Criticism
Metuchen, NJ: Scarecrow Press
Griffith, Richard (1976) Cycles and Genres in Bill nichols ed Movies and Methods Volume 1
University of California Press
Neale, Stephen (1980) Genre
London: BFI
Neale, Stephen (2002) Genre and Contemporary Hollywood
London: BFI
Neale, Stephen (2000) Genre and Hollywood
Routledge
Schatz, Thomas (1981) Hollywood Genres: Formulas, Film-making and the Studio System
New York: Random House
Tudor, Andrew (1976) Movies and Methods Volume I - Bill Nichols ed Genre and Critical Methodology
Berkeley University of California Press
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC