Cod y Modiwl FTM1910  
Teitl y Modiwl CYNHYRCHU RADIO  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Esther Prytherch  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mr Dorian L Jones, Mr Nick Strong  
Cyd-Ofynion Pob modiwl craidd arall  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   5 sesiwn ymarferol (gweithdai boreol) yn para 3 awr a hanner yr un ac yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, dangosiadau a gwaith ymarferol.  
  Seminarau / Tiwtorialau   Caiff myfyrwyr oruchwyliaeth unigol wrth ymarfer sgiliau yn y gweithdai boreol. Yn y gweithdy olaf, fe fydd cyfle i wrando ar eu gwaith a chael trafodaeth feirniadol ar ddiwedd pob cynhyrchiad.  
  Sesiwn Ymarferol   Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymarfer sgiliau golygu a recordio yn eu hamser eu hunain. Darperir offer at y diben hwn. Bydd staff technegol ar gael i gynorthwyo lle bo angen  
  Eraill   Darlithoedd gwadd gan arbenigwyr ym maes cynhyrchu radio.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester radio script Paratoi dwy sgript radio fer gan ddefnyddio deunydd ymchwil wedi'i ddarparu gan y tiwtor. Ar gyfer y darn cyntaf, bydd angen ysgrifennu am gyfansoddwr penodol ar gyfer rhaglen o gerddoriaeth glasurol wedi'i recordio a'i darlledu ar orsaf radio fasnachol. Ni ddylai fod yn hwy na 50''. Anelir yr ail sgript at strand dyddiol byw ar un o rwydweithiau'r BBC. Yr hyd fydd 30''. Dylid recordio'r ddwy sgript ar CD, gyda chopi o'r sgript ar A430%
Asesiad Semester recordio Dangos sgiliau unigol recordio sain a golygu digidol trwy gynhyrchu pecyn sy'n cynnwys cyfweliadau ar leoliad, sgriptio a lleisio, golygu gydag effeithiau sain neu gerddoriaeth, a darn llais wedi'u recordio mewn stiwdio neu weithdy sain. Ni ddylai'r pecyn radio fod yn hwy na 3'. Caiff y myfyriwr ddewis yr orsaf radio a'r amser darlledu tebygol. Dylid cyflwyno'r pecyn ar CD.50%
Asesiad Semester pecyn radio Dadansoddiad beirniadol o'r pecyn radio, yn cyfiawnhau'r strwythur, yr iaith, yr arddull a'r lleisio. (2000 o eiriau)20%
Asesiad Ailsefyll Bydd unrhyw aseiniadau ail-sefyll yn dilyn yr un strwythur. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Defnyddio offer cynhyrchu radio at safon ddarlledu ddisgwyliedig.
2. Defnyddio technegau creadigol y diwydiant radio i ddatblygu eu cynhyrchiadau eu hunain yn effeithlon.   
3. Datblygu'r gallu i werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyd-fyfyrwyr.

Nod

I ganiatau i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau technegol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu radio. Adeiladir ar hyn yn ystod yr ail a'r trydydd semester.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gyrraedd lefel addas o arbenigedd technegol fel eu bod yn gallu cwrdd a'r holl elfennau cynhyrchu craidd sydd eu hangen ar gyfer y cynllun gradd. Bydd hefyd yn cyflwyno i fyfyrwyr y sgiliau ysgrifennu sy'n angenrheidol ar gyfer mynegiant clir ar y radio.

Cynnwys

Pump sesiwn ymarferol yn cynnwys ystod o ddarlithoedd, gwersi dangos a sesiynau ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
1) Dysgu recordio ar leoliad
mewn egwyddor ac yn ymarferol Awgrym o Gynnwys Sesiwn Y Marantz PMD 670 yw'r prif fath o beiriant recordio digidol sy'n cael ei drafod a'i ddysgu ar y modiwl hwn. Mantais y peiriant hwn yw ei fod yn hawdd dod o hyd i draciau sain, eu sganio a'u hadnabod. Mae'n beiriant recordio disg caled sy'n golygu bod modd trosglwyddo deunydd yn syth i gyfrifiadur i'w olygu gyda'r meddalwedd priodol. Mae dewis y math iawn o feicroffon a'i ddefnyddio'n gywir yn hollol hanfodol. Bydd egwyddorion hyn yn cael eu dysgu ynghyd a'r ochr ymarferol, e.e. wrth recordio ar stryd brysur, rhaid cadw'r meicroffon mor agos ag sy'n bosib at y person sy'n cael ei gyfweld er mwyn sicrhau bod lefel ei llais yn uwch na swn y traffig. Rhaid bod yn ofalus hefyd wrth recordio mewn ystafell fawr gyda nenfwd uchel a lloriau pren. Os oes llenni yn yr ystafell neu unrhywbeth arall fyddai'n lleddfu'r atsain, dylid recordio yn y rhan hon o'r ystafell. Fel arfer, mae gan offer sain meter i ddangos a yw'r sain yn cael ei recordio oddi mewn i gyfyngiadau penodol. Os yw'r lefel yn rhy isel am gyfnod, fe fydd y trosglwyddydd yn chwilio am sain lle gellir codi'r lefel yn artiffisial. Os yw'r lefel yn rhy uchel, fe fydd distortion ar y sain ac fe fydd yn anodd ei ddeall. Cynorthwyo yn unig y mae'r meter - y clustiau yw'r meter pwysicaf. Tra'n recordio ar leoliad, mae angen monitro'r sain trwy glustffonau. P'un ai'n gwisgo clustffonau ai peidio, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r sain o gwmpas, yn enwedig unrhyw synnau allanol a allai darfu ar fwynhad y gwrandawr neu arwain at drafferthion wrth olygu. Rhaid i'r clustiau wrando'n ofalus am synnau cefndir di-angen ac os oes angen, ail-ddechrau cyfweliad neu ofyn cwestiwn eto.
2) Dysgu egwyddorion golygu a'u rhoi ar waith yn ymarferol
Awgrym o Gynnwys Sesiwn
Prif ddiben golygu yw cael gwared ar ddeunydd di-angen, boed yn cwtogi darn 8 munud i 4 munud, yn cael gwared ar saib neu atal-ddweud, neu yn newid trefn darn. Mae gwrando ar y deunydd cyn ei olygu a gwneud nodiadau yn rhan annatod o'r broses. Ni ddylid newid ystyr yr hyn sy'n cael ei ddweud ar unryw gyfrif nac ychwaith ddrysu'r gwrandawr trwy gynnwys cyfeiriadau at rannau sydd wedi'u torri o'r darn terfynol. Ni ddylai'r gwrandawr fod yn ymwybodol o unryw olygu. Mae dilyn patrwm llefaru naturiol yn allweddol ac mae hynny'n golygu bod na le i dawelwch, ochenaid neu anadlu. Mae Sadie, Protools ac Adobe Audition i gyd yn rhaglenni golygu digidol aml-sianel. Mae meddalwedd golygu rhaglenni yn dangos y sain a recordiwyd fel llinell ar y sgrin - y wave form - sy'n dangos sut mae lefel y recordiad yn codi ac yn gostwng. Un o'r camgymeriadau mwyaf cyffredin yw'r tueddiad i ddibynnu ar y llygaid yn lle'r glust. Sain yw hanfod radio ac nid yw'r ffaith bod na fwlch yn y wave form o reidrwydd yn golygu y dylid ei dorri. Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried sut i roi pecyn radio effeithiol at ei gilydd.
3) `Sut i ddefnyddio'r llais' a 'Darllen sgript ysgrifenedig'
Awgrym o Gynnwys Sesiwn
Bydd arbrofi gydag arddull a thempo personol o flaen y meicroffon yn rhan o'r modiwl hwn. Anogir arbrofi gyda'r llais er mwyn newid y goslef, y cyflymdra, y tempo a'r don. . Gall gwaelodi'r llais ychwanegu awdurdod (yn enwedig i fenywod). Y peth pwysicaf yw peidio siarad gyda'r meicroffĂ´n ond dychmygu siarad gyda ffrind sy'n eistedd o fewn rhyw 6 troedfedd. Ni ddylai'r gwrandawr fod yn ymwybodol bod cyflwynydd yn darllen sgript. Mae'r gallu i ddarllen mewn modd sgwrslyd heb swn papur yn y cefndir yn allweddol. Fe ddylai'r mynegiant fod yn ystyrlon, heb fod yn rhy araf nac yn rhy gyflym. Ar gyfartaledd, mae pobl yn siarad 3 gair yr eiliad ond wrth ddarlledu y nod yw siarad yn ddigon cyflym i gynnal diddordeb ond yn ddigon araf i sicrhau bod y gwrandawr yn gallu dilyn. Mae angen defnyddio'r llais yn effeithiol a bod yn awdurdodol heb weiddi. Wrth eistedd a thrafod ymysg ein gilydd, ryn ni'n cyfleu syniadau. Wrth feddwl a gwrando, 'ryn ni'n trin grwpiau o eiriau ac ymadroddion. Mae angen darllen sgript yn yr un ffordd. Mae hyn yn gofyn am gael sgript sydd wedi'i hysgrifennu'n dda yn y lle cyntaf. Os yw'r sgript wedi'i hysgrifennu mewn arddull sgwrsiol, mae'n haws ei ddarllen mewn arddull sgwrsiol. Dylid darllen pob sgript ar lafar cyn ei recordio neu ei darllen yn fyw ar yr awyr. Dylid mynegi geiriau yn glir ac osgoi llyncu geiriau. Mae diwedd brawddeg yr un mor bwysig a'r dechrau felly rhaid bod yn ofalu nad yw lefel y llais yn gostwng cyn gorffen siarad. Y peth pwysicaf yw gwybod digon am y pwnc dan sylw. Daw hygrededd law yn llaw a gwybodaeth, dealltwriaeth ac awdurdod. Cyn mynd ati i ysgrifennu sgript, rhaid ystyried gofynion ysgrifennu. Mae cerddoriaeth ac effeithiau sain yn gallu cyfleu tipyn i'r gwrandawr, ond rhaid i'r geiriau fod yn ystyrlon ac yn fanwl gywir. Dylid asesu'r sgript cyn iddi gyrraedd y gwrandawr. Mae ysgrifennu syml yn holl bwysig. Rhaid dewis geiriau'n ofalus ac osgoi ail-ddweud. Wrth ysgrifennu ar gyfer radio, mae angen creu 'lluniau sain' yn nychymyg y gwrandawr. Heb luniau, mae'n amhosib i'r gwrandawr wybod os yw wyneb y person yn dangos syndod neu amheuaeth. Y geiriau sy'n dweud y stori a rhaid eu dewis ar sail eglurdeb, mynegiant a phwys. Mae angen i ystyr y geiriau fod yn gwbl glir gan mai un cyfle yn unig sydd gan y gwrandawr i'w clywed a'u deall.
4) Offer Stiwdio a Gweithdai Cynhyrchu
Awgrym o Gynnwys Sesiwn
Daeth tro ar fyd ym maes darlledu yn sgil dyfodiad offer a meddalwedd golygu digidol. Radioman yw'r system sy'n cael ei ddefnyddio gan BBC Cymru. Mewn stiwdio radio, mae gan y ddesg gymysgu fwy nag un sianel a mwy nag un ffynhonnell sain. Gall y ddesg gael ei gyrru naill ai gan beirannydd sain neu gan y cyflwynydd ei hun (self-op). Er mwyn clywed sianel arbennig, rhaid agor y fader. Os oes mwy nag un fader ar agor, mae'n golygu bod sain yn cael ei gymysgu mewn rhyw ffordd, e.e. 2 feicroffon ar agor ar gyfer cyfweliad neu gan ar CD yn cael ei gymysgu gyda trac sain oddi ar gyfrifiadur a'r cyflwynydd yn siarad dros y ddau. Fel rheol, mae gan weithdy cynhyrchdy sgrin gyfrifiadur a desg gymysgu llai cymhleth na'r un ar gyfer y prif stiwdio. Wrth recordio cyfweliad ar y ffon neu yn y stiwdio, mae angen cadw golwg ar y lefelau a'u haddasu fel bo angen. Bydd ansawdd cyfweliad dros y ffon yn well os yw'r fader yn isel pan fo'r cyflwynydd yn gofyn cwestiwn. Gall y cysylltiad ffon effeithio ar y llais ac amharu ar yr ansawdd. Eto, mae'r glust yn holl bwysig. Os yw'r gwestai yn eistedd gyferbyn a'r holwr/cyflwynydd mewn stiwdio self-op, mae angen cadw golwg ar y lefelau heb edrych i ffwrdd yn ormodol. Mae gwisgo clustffonau yn rhoi syniad clir o'r hyn sy'n digwydd wrth recordio neu tra ar yr awyr. Bydd y cynhyrchydd yn cyfathrebu gyda'r cyflwynydd/holwr naill ai trwy glustffonau neu'r cyfrifiadur. Y clustffonau yw'r ffordd gyflymaf o gyfathrebu fel hyn.
5) Disgyblaeth Stiwdio, Cyfarwyddo Eraill, Unedau Darlledu Allanol
Awgrym o Gynnwys Sesiwn
Mae cynnal disgyblaeth stiwdio yn bwysig am ei fod yn anodd creu rhaglen radio safonol heb fod pob aelod o'r tim yn gallu clywed beth sy'n digwydd. Un o brif reolau'r stiwdio yw tawelwch. Rhaid sicrhau bod unrhyw gyfarfwyddiadau yn glir ac yn hawdd eu deall. Dylai'r cyfarwyddiadau hynny fod yn gryno. Ni ddylid gweiddi ar unryw achlysur. Mae amseru gofalus yn bwysig wrth drosglwyddo gwybodaeth. Ni ddylid caniatau i westai fynd i'r ystafell reoli heb ganiatad y cynhyrchydd neu'r peiriannydd sain. Dylai gwestai gadw'n dawel yn yr ystafell reoli. Y cynhyrchydd sy'n gwneud y penderfyniadau bob tro. Gall y cyflwynydd a'r peiriannydd sain leisio barn ond y cynhyrchydd sydd a'r gair olaf. Os oes anrhefn ar raglen, fe gaiff hyn ei glywed gan y gwrandawr. Rhaid dewis un person felly i wneud y penderfyniadau terfynol a rhaid 'r penderfyniadau hynny fod yn glir i bawb a chael eu derbyn gan bawb, hyd yn oes os nad ydynt yn cytuno. Gellid cynllunio rhai rhaglenni yn ofalus iawn ond gall raglenni sy'n dod yn fyw o uned ddarlledu allanol newid cyfeiriad yn unol a'r hyn sy'n digwydd ar y pryd. Mae rhaglen o'r fath yn fyw ac yn adweithiol. Mae'n cyfleu nid yn unig yr hyn sy'n digwydd ar y cae neu ar y llwyfan ond hefyd ymateb y dorf neu'r gynulleidfa yn ogystal a'r awyrgylch cyffredinol. Yn ystod digwyddiadau chwaraeon, er enghraifft, daw cryn dipyn o'r awyrgylch trwy gyfrwng meicroffonau sy'n trosglwyddo swn y dorf. Yn ogystal a sylwebu ar y gem, rhaid i'r sylwebydd hefyd bod yn ymwybodol o ymateb y dorf ac egluro hynny i'r gwrandawr hefyd. Yn ystod y sesiwn hon hefyd, caiff pecynnau radio y myfyrwyr eu chwarae a'u gwerthuso.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn dysgu syt i ddefnyddio offer technegol ac fe ddaw llwyddiant trwy ddangos eu bod yn gallu datrys problemau yn annibynnol ar leoliad.  
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu trwy gysylltu gyda chyfranwyr a chyfathrebu gyda'r gwrandawr. Caiff sgiliau ysgrifennu - ac ysgrifennu ar gyfer y glust - eu datblygu a'u hasesu hefyd.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae gwella'u dysgu a'u perfformiad yn elfen graidd o'r modiwl hwn. Caiff ei werthuso yn ystod y modiwl a'i asesu yn yr aseiniad ar ddiwedd y semester  
Gwaith Tim Bydd angen cydlynu a chydweithio gydag eraill er mwyn cwblhau'r dasg.  
Technoleg Gwybodaeth Mae hyn yn rhan annatod o'r holl sgiliau technegol a gynigir.  
Rhifedd Bydd elfen ymarferol y modiwl yn dangos a oes gan fyfyriwr fwy o ddawn ar gyfer ochr dechnegol neu ochr artistig cynhyrchu radio. Bydd elfen ymarferol y modiwl yn dangos a oes gan fyfyriwr fwy o ddawn ar gyfer ochr dechnegol neu ochr artistig cynhyrchu radio.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Alled, R /Miller, N (1996) The Post Production Age: New Technologies, New Communities University of Luton Press
Aspinall, Richard Radio Programme Production: A Manual for Training
Crisell, A (2002) Understanding Radio 2nd Edition Routledge
Fleming, Carole (2002) The Radio Handbook Routledge
McLeish, Robert (2005) The Techniques of Radio production, a Manual for Broadcasters 5th Edition Focal Press

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC