Cod y Modiwl FTM2030  
Teitl y Modiwl ASTUDIAETH A DADANSODDIAD O WAHANOL GENRE YM MYD RADIO  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Esther Prytherch  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mr Dorian L Jones  
Cyd-Ofynion Pob modiwl craidd arall  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 2 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   Hyd at 3 awr o seminarau  
  Sesiwn Ymarferol   Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymarfer y sgiliau recordio a golygu a ddysgwyd yn ystod Cynhyrchu Radio 1. Fe fydd cymorth i'w gael lle bo angen yn ystod y broses gynhyrchu.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester *Traethawd Ymchwil Genre : dogfen o gasgliadau ymchwil a fydd yn amlinellu'r prif feysydd mae'r myfywyr wedi'u hastudio, gan nodi technegau cyffredin a ganfuwyd, enghreifftiau o raglenni sy'n defnyddio'r technegau yma a dadansoddiad o effeithlonrwydd fformatiau cynhyrchu a'u cynulleidfaoedd targed yn ogystal a chyd-destun hanesyddol. (3,000 o eiriau)40%
Asesiad Semester *Cynhyrchu pecyn radio nodwedd rhwng 4'30'' a 5' o hyd, wedi'i seilio ar genre penodol. I'w gyflwyno ar CD.40%
Asesiad Semester *Portffolio Cynhyrchu : yn seiliedig ar asesiad 2, bydd gofyn i fyfyrwyr baratoi dogfen sy'n cynnwys manylion am y genre dan sylw, y ffynonellau ysgrifenedig, person/au a holwyd, agweddau penodol a astudiwyd. (2,000 o eiriau)20%
Asesiad Ailsefyll Bydd unrhyw aseiniadau ail-sefyll yn dilyn yr un patrwm ond fe fydd yn rhaid dewis pwnc a strwythur creadigol gwahanol. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos a dadansoddi'n feirniadol sut mae genres yn gweithio ym myd radio.
2. Amlygu a gwerthuso sut mae arddull a fformat yn cael eu creu oddi mewn i'r genres gwahanol.
3. Amlygu dealltwriaeth rhagorol o gymhlethdodau'r naratif mewn genre penodol.
4. Trafod natur cynulleidfaoedd radio mewn modd cydlynus.
5. Datblygu syniadau gwreiddiol yn eitem fer sy'n cwrdd a safonau darlledu.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i genre o'u dewis er mwyn gwella'u dealltwriaeth o ofynion confensiynau'r genre hwnnw a'r dullliau cynhyrchu mwyaf cyffredin sy'n perthyn iddo. Bydd astudiaeth fanwl o'r gwahanol dechnegau a'r defnydd o ddeunyddiau ymchwil penodol ar gyfer rhaglenni sy'n perthyn i fathau gwahanol o genres radio. Mae dwy ran amlwg i'r modiwl hwn. Yn y rhan gyntaf, fe fydd y myfyrwyr yn gwneud ymchwil trylwyr i genre o'u dewis, ochr yn ochr a chyfres o ddarlithoedd sy'n ystyried dulliau methodolegol. Yn ail, fe fyddant yn cyflwyno cynnig ymchwil ar gyfer un eitem benodol mewn genre o'u dewis ac yn mynd ati fel unigolion i wneud gwaith ymchwil gan ddefnyddio nifer o ffynonellau gwahanol: cyfweliadau archif a phersonol, deunydd ar-lein ac adolygiad o ffynnonellau perthnasol. Caiff eu casgliadau eu cyflwyno mewn Dogfen Ymchwil Genre ac fe gaiff yr eitem ei chynhyrchu ar sail y casgliadau yma.

Cynnwys

(Darlithoedd - 10 x 2 awr; Tiwtorials - 2 x 1 awr; Seminarau - 3 x 1 awr yn datblgu cysyniadau dogfen ffeithiol, cereddoriaeth a'r celfyddydau.)
Darlithiau
Cyflwyniad i gonfesiynau mewn genre
Daw amryw o destunau o dan ambarel rhaglenni ffeithiol - yn eu plith, newyddion a materion cyfoes, crefydd, celfyddydau, diwylliant poblogaidd, busnes, hanes, materion amgylcheddol, cerddoriaeth, natur, pobl a lleoedd. Gyda phwyslais y gwasanaeth ar y gair, mae amserlen Radio 4 yn cynnwys rhaglenni nodwedd, dogfen, drama ac adloniant ysgafn/comedi yn bennaf. Defnyddir enhreifftiau o'r rhain i ddanansoddi mathau penodol o genres radio, ynghyd ag allbwn Radio Wales a Radio Cymru. Defnyddir enghreifftiau hefyd o orsafoedd Radio 1, 2, 3, 5, Classic FM, Real Radio a Radio Sir Benfro wrth ddadansoddi'r genres gwahanol a geir ym myd radio. Y nod yw sicrhau bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth eang o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal â radio masnachol. Bydd yr astudiaeth o'r genres canlynol yn cynnwys elfennau am y gynulleidfa, cynhyrchu a rhaglenni.
Dogfen Ffeithiol
Daw amrywiaeth eang o bynciau o dan raglenni ffeithiol (penodol a chyffredinol), megis diwylliant poblogaidd, busnes, hanes, gwyddoniaeth, materion amgylcheddol, cerddoriaeth, natur, pobl, llefydd, a.a. Bydd fformat rhaglenni nodwedd, thema, materion cyfoes a dogfen hanesyddol yn cael eu dadansoddi yma.
Celfyddydau
Mae genre y celfyddydau a diwylliant yn cynnwys ystod eang o feysydd, megis cerddoriaeth o bob math, llenyddiaeth, comedi, sinema, dawns, drama, celfyddydau gweledol, pensaerniaeth, ffasiwn, cynllunio, dylunio, gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhaglenni yn genre y celfyddydau a diwylliant yn defnyddio sawl fformat gwahanol - yn rhaglenni nodwedd neu gylchgrawn, yn ddogfen, yn rhaglenni trafod, rhaglenni cerddorol, nosweithiau a thymhorau thema, darllediadau allanol o ddigwyddiadau arbennig. Caiff y rhain eu hastudio a'u dadansoddi fel rhan o'r sesiwn hon.
Cerddoriaeth
Mae fformat a dulliau cynhyrchu rhaglenni nodwedd sy¿n canolbwyntio ar gerddoriaeth yn amrywio yn ôl natur yr orsaf a'r gynulleidfa. Caiff enghreifftiau o Radio 1, Radio 3 a Real Radio eu dadansoddi yma.
Rhaglenni Dyddiol
Mae gorsafoedd radio yn ceisio asio tempo, arddull a chynnwys eu rhaglenni gyda gweithgareddau bob dydd eu gwrandawyr. Yma, byddwn yn astudio ac yn dadansoddi rhaglenni sy'n cael eu darlledu amser brecwast, yn ystod y dydd, amser te, amser swper ac yn ystod y nos.
Newyddion/Materion Cyfoes a Chwaraeon
Mae gallu radio i ymateb yn syth i ddigwyddiadau yn golygu ei fod yn gyfrwng delfrydol ar gyfer trosglwyddo newyddion. Mae pwysigrwydd newyddion a gwerthoedd newyddion yn amlwg wrth ystyried yr amrywiaeth o raglenni o'r fath a geir ar draws gorsafoedd cerddoriaeth a siarad. Bydd bwletinau newyddion, rhaglenni trafod a dogfen, a sioeau ffonio-i-mewn yn cael eu hastudio a'u dadansoddi. Mae'r sylw a roddir i chwaraeon yn amrywio o orsaf i orsaf. Mae'n rhan ganolog o allbwn rhwydweithiau fel Radio 5 Live, tra fo'r amser a gaiff ar rwydweithiau cenedlaethol eraill yn amrywio. Mae chwaraeon yn bwysig i'r rhan fwyaf o orsafeoedd lleol a rhanbarthol am ei fod yn gallu atgyfnerthu'r berthynas rhwng yr orsaf a'r gynulleidfa. Bydd rhaglenni stiwdio a darllediadau allanol yn cael eu hastudio a'u dadansoddi yma.
Adloniant Ysgafn/Comedi
Ceir rhaglenni o bob math oddi mewn i'r genre adloniant ysgafn/comedi - yn gomedi stand-up a chomedi sgets, yn rhaglenni cwis a phanel, a.a. Mae naratif comedi yn cynnwys drama gomedi, drama sefyllfa a dramateiddio at ddibenion adloniant. Bydd enghreifftiau o'r rhain yn cael eu hastudio a'u dadansoddi.
Digwyddiadau a Darllediadau Allanol
O Wimbledon i angladd Diana, Tywysoges Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol, mae digwyddiadau ac achlysuron arbenning yn cael eu hadlewyrchu trwy ddarllediadau allanol byw ar y radio. Mae rhaglenni o'r fath yn gofyn am gynllunio technegol a chreadigol hynod o fanwl. Mae digwyddiadau fel hyn yn gallu codi proffil rhwydwaith gan bwysleisio'i werthoedd a'r hyn sy'n ei wneud yn wahanol. Caiff enghreifftiau o'r rhain eu hastudio a'u dadansoddi. DramaDramau cyfres ddyddiol, addasiadau, bywgraffiadau, comedi, dramau cyfredol, dramau dirgel, dramau ddogfen, teuluol, ffantasi, hanesyddol a rhamantus - dyma rai o'r categoriau a ddaw o dan genre drama radio. Ochr yn ochr â'r ddrama grefftus, mae 'na fformatiau eraill sydd hefyd yn dod o dan y genre yma, megis rhaglenni nodwedd wedi'u dramateiddio, darlleniadau datblygiedig, darnau barddonol, gwaith gan artistiaid perfformio, cyfuniad o lythyron, barddoniaeth a drama, neu gyfres o ddramau byrion. Caiff enghreifftiau o'r rhain eu hastudio a'u dadansoddi

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Mae'r broses gynllunio a chynhyrchu yn un anwadal ei natur, ac o'r herwydd mae gofyn i fyfyrwyr ddatrys problemau yn gyson wrth weithio ar eu rhaglenni unigol.  
Sgiliau ymchwil Datblygir medrau ymchwil trwy gydol y modiwl ac fe gaiff y rhain eu hasesu yn yr aseiniadau.  
Cyfathrebu Mae cyfathrebu yn rhan annatod o holl weithgareddau'r cwrs yma ac fe gaiff ei ddatblygu a'i asesu trwy gydol y modiwl.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Caiff myfyrwyr eu hannog i wrando ar bob math o raglenni radio a'u dadansoddi. Bydd hyn yn gwella'u dysgu au perfformiad.  
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir TG ar gyfer rhywfaint o'r gwaith ymchwil yn ystod y modiwl hwn.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i benderfynu ymha genre mae eu prif ddiddordeb/medrau, boed mewn rhaglenni dogfen hanesyddol neu raglenni cerddoriaeth er enghraifft.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Baldwin, T (1996) Convergence: Integrating Media, Information and Communication Sage
Barlow, David. M. Mitchell, Philip. O`Malley, Tom (2005) The Media in Wales: Voices of a Small Nation . University of Wales press, Cardiff
Boyd, Andrew Fifth Edition Broadcast Journalism Techniques of Radio and Television News Focal Press
Chater, K. (1998) Production Research: An Introduction Focal Press
Davies, J (1994) Broadcasting and the BBC in Wales University of Wales Press
Hart, Andrew (1991) Understanding the Media: A Practical Guide Routledge
Jarvis, P (1993) A Production Handbook: A Guide to the Pitfalls of Programme Making Focal Press
Shingler, Martin. Cindy Wieringa (1998) On Air: Methods and Meanings of Radio Hodder Arnold
Tacchi, Jo (2001) Who listens to Radio? The role of Industrial Audience Research. No News is Bad News: Radio, Television and the Press p 137-156. Longman

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC