Cod y Modiwl | FTM2130 | |||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | YR AMGYLCHEDD CYNHYRCHU | |||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | |||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Esther Prytherch | |||||||||||||||||
Semester | Semester 1 | |||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Darlith 2- Cyflwyniad i¿r Cylch Cynhyrchu
Bydd y cyflwyniad yma i¿r cylch cynhyrchu yn edrych ar y camau gwahanol ar hyd y llwybr gynhyrchu y bydd yn rhaid i fyfyrwyr eu deall a¿u dilyn-¿ o¿r cysyniad gwreiddiol hyd y rhaglen derfynol.
Darlith 3 - Canllawiau Golygyddol, Rhan 1Mae¿n rhaid i raglenni radio sy¿n cael eu darlledu yn y Deyrnas Unedig gadw at reolau a rheoliadau. Yn achos y BBC, mae¿n rhaid i bob cynhyrchydd gadw at ganllawiau golygyddol y gorfforaeth boed y cynhyrchydd yn aelod o staff neu¿n annibynnol. Mae Adran Polisi Golygyddol y BBC yn adolygu¿r canllawiau yma yn barhaus ac mae glynu atynt yn rhan annatod o gytundeb cynhyrchydd. Yn y sesiwn hon, fe fydd myfyrwyr yn astudio¿r prif feysydd a ddaw o dan ganllawiau golygyddol y BBC ac yn dysgu sut mae sicrhau cydymffurfiaeth ymhob agwedd o¿r broses gynhyrchu.
Darlith 4 - Canllawiau Golygyddol Rhan 2
Fe fydd myfyrwyr yn dysgu am y rheoliadau eraill y mae¿n rhaid i gynhyrchwyr radio lynu atyn nhw wrth gynhyrchu rhaglenni. Fe fydd dyletswyddau¿r corff rheoli Ofcom yn cael eu hastudio, yng nghyswllt y BBC a¿r sector annibynnol. Bydd cwestiynau moesol a moesegol yn cael eu trafod yma. Ymlith y meysydd eraill a gaiff sylw y mae iechyd a diogelwch, a¿r gwaith papur sydd angen ei gwblhau ar gyfer rhaglenni.
Darlith 5- Y Gyfraith a¿r Cyfryngau
Mae angen i gynhyrchwyr fod yn ymwybodol o¿r cyfreithiau gwahanol sy¿n effeithio ar raglenni, megis hawlfraint neu ddirmyg llys, preifatrwydd neu fudd y cyhoedd. Caiff y ddarlith hon ei thraddodi gan arbenigwr ym maes y gyfraith
Darlith 6- Penderfyniadau Golygyddol ac Amserlenni
Nid yw allbwn gorsaf radio yn gasgliad di-hid o raglenni ond yn hytrach, cyfuniad ystyrlon o sain wedi¿i grefftio gyda chynulleidfa arbennig mewn golwg. Y bwriad yw cwrdd ag angen y gynulleidfa am wybodaeth ac adloniant - a¿u cadw rhag diffodd y gwasanaeth. Mae golygyddol a rheolwyr radio yn ceisio asio¿u cynnwys gyda gweithgareddau dyddiol eu gwrandawyr, gan ddewis cynnwys sy¿n gweddu at eu anghenion a¿u hwyliau ar adegau gwahanol o¿r dydd, tra ar yr un pryd yn darparu amserlen sy¿n ymddangos yn newydd bob dydd ac sydd a rhyw rigol naturiol yn perthyn iddo. Caiff y materion hyn eu trafod yma.
Darlith 7 - Brandio a Hunaniaeth
Mae pob gorsaf radio yn ceisio datblygu ei arddull ddi-hafal ei hun. Gall wneud hynny trwy ei ddewis o gerddoriaeth (neu trwy ddewis peidio â chwarae cerddoriaeth), arddull ei gyflwynwyr a¿i raglenni. Mae hunaniaeth yr orsaf hefyd i¿w glywed yn ei jingles, y math o gystadlaethau mae¿n eu cynnal a¿i ddeunydd hyrwyddo. Mewn geiriau eraill, mae na fwy yn perthyn i orsaf radio na rhaglenni yn unig. Mae gan bob gorsaf radio ei agwedd a¿i ddaliadau ei hun, ac mae¿r rheiny yn creu brand yr orsaf. Nid ffynhonnell gwybodaeth ac adloniant yn unig mo radio. Mae¿n gynnyrch i¿w gynnig i gynulleidfa. Caiff y materion hyn eu trafod yn ystod y sesiwn hon. Darlith 8 ¿ Costau a ChyllidebauCyflwyniad i¿r dulliau gwahanol o ariannu¿r BBC a¿r gorsafoedd radio er mwyn iddynt gwrdd â¿u dyletswyddau golygyddol. Bydd y sesiwn yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng yr arian a glustnodir ar gyfer gorsafoedd rhwydwaith y BBC, a¿r cyllidebau ar gyfer rhaglenni sy¿n cael eu cynhyrchu yn y gwledydd a¿r rhanbarthau. Bydd hefyd yn ystyried yr hyn sy¿n gwneud rhai genres radio yn fwy drud nag eraill. Darlithydd Gwadd ¿ Disgwyliadau Diwydiant Mae¿r diwydiant radio yn cyflogi mwy nag 20,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig ond mae na gystadleuaeth gref ar gyfer swyddi, ac mae cyflogwyr yn chwilio am y goreuon yn y maes. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar ddisgwyliadau¿r diwydiant wrth gyflogi aelodau newydd o staff. Mae brwydfrydd, ymroddiad a dealltwriaeth o¿r cyfrwng yn hanfodol ¿ ond beth arall sydd ei angen er mwyn llwyddo ym myd radio yn yr 21ain ganrif? Bydd darlithydd gwadd o¿r diwydiant yn rhannu profiadau.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC