Cod y Modiwl | FTM2320 | |||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | CYNHYRCHU RADIO 2 | |||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | |||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Esther Prytherch | |||||||||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mr Dorian L Jones, Mr Nick Strong | |||||||||||||||||
Rhagofynion | Modiwlau Semester 1 | |||||||||||||||||
Cyd-Ofynion | Pob modiwl craidd arall | |||||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 4 x 3 awr | ||||||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 3 x 1 awr - dosbarthiadau tiwtorial unigol | |||||||||||||||||
Sesiwn Ymarferol | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymarfer y medrau recordio a golygu a ddysgwyd yn ystod Cynhyrchu Radio 1. Bydd sesiynau ymarferol dan oruchwyliaeth hefyd. | |||||||||||||||||
Eraill | Darlithoedd gwadd gan arbenigwyr ym maes cynhyrchu radio. | |||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Cyflwyno Syniad
Wrth ddatblygu syniad ar gyfer rhaglen neu gyfres sydd i'w cyflwyno i gomisynydd neu olygydd, rhaid ystyried nifer o ffactorau. Rhaid i'r syniad fod yn addas ar gyfer y farchnad berthnasol; rhaid iddo fod yn addas ar gyfer ei le yn yr amserlen ac ar gyfer y gynulleidfa sy'n debygol o fod yn gwrando. Rhaid ystyried hefyd y potensial i ddenu gwrandawyr newydd mewn marchnad hynod cystadleuol. Rhaid i'r rhaglen neu'r gyfres gael ei chynhyrchu oddi mewn i gyllideb penodedig, gan gydymffurfio a'r canllawiau golygyddol perthnasol. Mae syniad ag iddo agwedd unigryw wastad yn boblogaidd ond mae ffocws ac eglurdeb y cynhyrchiad, ar bapur ac ar lafar, yn hanfodol. Rhaid datblygu naratif cryf, ac ystyried perthnasedd a phwysigrwydd y cyflwynydd. Rhaid i'r syniad hefyd ystyried amrywiaeth y cyfranwyr, yn ogystal a'i addasrwydd ar gyfer strategaeth hyrwyddo'r orsaf a'i botensial i gael ei ddatblygu ar draws sawl platfform. Mae angen bod yn wreiddiol ac yn greadigol ond mae'n rhaid ystyried yr holl ffactorau uchod er mwyn cyflwyno a gwerthu syniad i orsaf neu rwydwaith radio.
Dadansoddi confensiynau cyffredinol ar gyfer rhicyn rhaglenni nodwedd R4
Mae'r rhaglenni nodwedd a gaiff eu darlledu yn y slot yma yn rhan bwysig o adeiladwaith amserlen Radio 4. Wrth ddatblygu syniadau ar gyfer y slot hwn, rhaid cofio'r cyd-destun. Daw'r rhaglenni nodwedd yma rhwng y cyfresi trafod am 0902 a'r darlleniadau am 0945, ac maent yn dod a newid cywair a swn newydd, gydag ystod eang o leisiau a chynhyrchu bywiog. Mae fformat syml a chysyniad clir yn gweithio'n dda yn y slot yma. Gellid defnyddio cerddoriaeth er mwyn creu effaith. Mae 'na gyfle yma i gael ychydig o hwyl, ar adeg pan fo gwrandawyr yn mynd a dod - ond rhaid wrth gynnwys da. Mae cyfuniad o gyflwynydd da a naratif cryf yn llwyddo'r adeg yma o'r dydd.
Ymchwil Uwch a Rheoli Cyfranwyr
Mae angen gwaith ymchwil ar bob rhaglen, ac fe ddylai hwn gael ei wneud gan y cynhyrchydd neu'r cynhyrchydd mewn cydweithrediad ag ymchwilydd y rhaglen/gyfres. Nid oes y fath beth a gormod o ymchwil. Mae angen darllen erthyglau a llyfrau, cysylltu a chyfranwyr ar y ffon, pori gwefannau, ymweld a llefydd a phobl berthnasol, gwrando ar raglenni eraill sydd wedi ymdrin a'r un pwnc, meddwl yn greadigol, cadw cofnod o'r hyn a ddysgir a defnyddio'r dychymyg. Wedi gwneud hyn, mae'n bwysig dewis a dethol y ffeithiau mwyaf diddorol a mwyaf perthnasol i'w cynnwys yn y rhaglen. Rhaid dewis yn ofalus a sicrhau mai'r dewis hwnnw sy'n mynd i weithio orau ar y radio. Ymchwil sydd wrth wraidd pob rhaglen radio dda, a defnyddio manylion a gwybodaeth i wau naratif cryf. Y ffeithiau a ddaw yn sgil ymchwil sy'n gosod y fframwaith ar gyfer y rhaglen. Mae hyn yn cynnwys ymchwil i ddod o hyd i gyfranwyr - canfod y siaradwyr a'r arbenigwyr gorau, a'u cyfarwyddo'n effeithlon fel eu bod yn gwybod yn union beth yw'r disgwyl a beth yw eu cyfraniad nhw i'r rhaglen.
Medrau rheoli a thechnegau cynhyrchu uwch
Mae medrau rheoli a thechnegau cynhyrchu uwch yn gofyn am gyfuno gwybodaeth golygyddol ac ymarferol. Fe fydd myfyrwyr yn amlygu hyn drwy drin a thrafod y cymhlethdodau sy'n codi yn ystod y broses gynhyrchu, o'r cysyniad gwreiddiol hyd y cyfnod ol-gynhyrchu. Bydd angen dysgu sut mae troi syniadau creadigol yn gynnig ar gyfer rhaglen gref a chydlynol, gan strwythuro'r naratif a gwneud y defnydd gorau o gerddoriaeth ac effeithiau. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio'u gwybodaeth am natur y gynulleidfa i gynhyrchu rhaglen ddogfen sy'n apelio at y gwrandawr. Rhaid iddynt roi ar waith yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu am adrodd stori mewn modd gafaelgar, am arddull cyflwyno ac am ddefnyddio'r cyflwynydd yn y ffordd fwyaf effeithlon. Rhaid cyfiawnhau rol y cyfranwyr. Rhaid dangos eu bod yn ymwybodol o'r holl ganllawiau golygyddol a'u bod yn gallu rheoli cyllideb yn effeithlon. Y nod yw cynhyrchu rhaglen o'r safon gorau posib.
Bydd 3 dosbarth tiwtorial i bob myfyriwr hefyd.
Sgiliau ymchwil | Caiff medrau ymchwil eu datblygu ymhellach wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad lle caiff y medrau hyn eu hasesu. | ||
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu'r syniad ar gyfer rhaglen a thrafod anghenion y cynhyrchiad gyda chyfranwyr yn hanfodol i'r modiwl hwn. Fe'u hasesir yn yr aseiniad. | ||
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain yn elfen graidd o'r modiwl hwn, ynghyd a hunan-werthuso. Caiff y datblygiad hwn ei werthuso yn ystod y modiwl a'i asesu yn yr aseiniad ar ddiwedd y semester. | ||
Gwaith Tim | Er mwyn cyflawni'r dasg hwn yn llwyddiannus, fe fydd yn rhaid dibynnu ar gydweithrediad eraill. | ||
Technoleg Gwybodaeth | Mae hwn yn rhan annatod o'r medrau technegol a gynigir. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC